Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Bwyd, Bwyd Da! Dathlu’r cynhaeaf

Clymu gyda thema’r ‘Cynhaeaf’, ac annog y plant i ddeall faint o fwyd sydd ganddyn nhw, o’i gymharu â phlant eraill mewn rhai o wledydd y byd.

gan Rebecca Parkinson

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Clymu gyda thema’r ‘Cynhaeaf’, ac annog y plant i ddeall faint o fwyd sydd ganddyn nhw, o’i gymharu â phlant eraill mewn rhai o wledydd y byd.

Paratoad a Deunyddiau

Gwasanaeth

  1. Gofynnwch i’r plant enwi rhai o’u hoff fwydydd. Dangoswch y clip fideo o’r sioe gerdd, Oliver!
  1. Gofynnwch i’r plant sôn wrthych chi am yr adegau rheini ryw dro pan fuon nhw’n teimlo eisiau bwyd. Pryd oedd hynny? Sut roedden nhw’n teimlo? Beth wnaeth iddyn nhw deimlo’n well?

  2. Dangoswch y map o wahanol gyfandiroedd i’r plant gan ofyn iddyn nhw’u henwi. Neu, defnyddiwch y map sydd wedi ei labelu ar y ddolen a nodir uchod, er mwyn dysgu enwau’r cyfandiroedd i’r plant.

  3. Gofynnwch i’r plant ddod ymlaen a rhoi’r enwau iawn ar y cyfandiroedd yn eu tro, gan ddechrau gyda’r cyfandir y maen nhw’n meddwl sydd a’r boblogaeth fwyaf. Trafodwch awgrymiadau’r plant, ac yna gosodwch y cardiau priodol yn y drefn gywir fel mae’n nodi yma:

Poblogaeth pob cyfandir

Cyfandir

Poblogaeth

Asia

3,674,000,000 o bobl

Affrica

778,000,000 o bobl

Ewrop

342,000,000 o bobl

Gogledd America

483,000,000 o bobl

De America

342,000,000 o bobl

Awstralia ac Oceania

31,000,000 o bobl

Antartica

0 pobl

 

  1. Rydych chi’n mynd i ddangos i’r plant, mewn ffordd ymarferol, mai’r ddau gyfandir sydd â’r boblogaeth fwyaf yw’r ddau gyfandir sydd â’r lleiaf o fwyd ar gael iddyn nhw. Bydd plant yn codi ar eu traed i gynrychioli nifer poblogaeth pob cyfandir. Amcangyfrif bras iawn fyddai un plentyn ar gyfer pob 100,000,000 (can miliwn) o boblogaeth, felly:

Asia = 36 plentyn – (un dosbarth?)

Affrica = 8 plentyn

Ewrop = 3 phlentyn

Gogledd America = 5 plentyn

De America = 3 phlentyn

Awstralia + Oceania = 1 plentyn

Antartica = 0 (eglurwch).

  1. Gofynnwch i’r plant ymgasglu at ei gilydd mewn grwp, a dal i fyny y cerdyn sy’n nodi’r cyfandir y maen nhw’n ei gynrychioli.

Nawr dangoswch y melysion sydd gennych chi, y 50 ohonyn nhw. Eglurwch eich bod yn mynd i rannu’r melysion er mwyn dangos faint o gyflenwad bwyd y byd y mae pob cyfandir yn ei gael. Gofynnwch iddyn nhw ddychmygu bod pob un o’r melysion yn cynrychioli un pryd o fwyd go dda. Rhowch:

Gogledd America (5 plentyn) – 25 o felysion

Ewrop (3 plentyn) – 12 o felysion

Awstralia + Oceania (1 plentyn) – 4 o felysion

De America (3 plentyn) – 4 o felysion

Affrica (8 plentyn) – 2 o felysion

Asia (36 plentyn = un dosbarth?) – 3 o felysion

  1. Holwch y plant sut y bydden nhw’n rhannu’r bwyd ym mhob cyfandir.

Helpwch y plant i weld mai’r gwledydd sydd â’r boblogaeth fwyaf yw’r gwledydd sy’n bwyta lleiaf o fwyd y byd. Mae hyn yn golygu tra byddwn ni’n teimlo’n llawn, wedi bwyta gormod weithiau, mae llawer o bobl yn y byd yn mynd i gysgu yn y nos eisiau bwyd.

  1. Eglurwch i’r plant fod arbenigwyr yn dweud wrthym fod y byd yn cynhyrchu digon o fwyd i bawb yn y byd yn hawdd. Y ffordd y mae’r bwyd yn cael ei rannu yw’r broblem.

  2. Efallai yr hoffech chi ddefnyddio’r gwasanaeth hwn fel cyfrwng i arwain i ryw fath o weithgaredd i helpu plant sy’n newynu, neu’n syml i ofyn i’r plant benderfynu ceisio, ar ryw gam yn eu bywyd, i helpu plant bach sy’n wynebu tlodi a newyn.

Amser i feddwl

Caewch eich llygaid am foment a meddyliwch am ryw adeg pan oeddech chi’n teimlo eisiau bwyd. Nawr, meddyliwch am blant eraill yn y byd sy’n teimlo felly’n aml iawn. Sut gallwn ni helpu plant fel y rhai hynny?

Gweddi

Annwyl Dduw,
Diolch i ti am yr holl fwyd blasus rydyn ni’n ei gael i’w fwyta ddydd ar ôl dydd.
Diolch mai anaml iawn y byddwn ni’n teimlo bron â llwgu
a diolch, pan fyddwn ni’n teimlo eisiau bwyd, ein bod ni’n gallu cael rhywbeth i’w fwyta’n fuan.
Helpa’r plant bach rheini sydd eisiau bwyd ac yn newynu heddiw.
Helpa arweinwyr mewn gwledydd ledled y byd i weithio’n galed
fel y bydd pobl ym mhob man yn cael digon o fwyd i’w fwyta.

Dyddiad cyhoeddi: Hydref 2010    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon