Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Eid Ul Adha

Archwilio’r wyl Eid ul Adha.

gan Jude Scrutton

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 1

Nodau / Amcanion

Archwilio’r wyl Eid ul Adha.

Paratoad a Deunyddiau

  • Casglwch luniau o wahanol weddau ar y lleuad.
  • Cerdyn cyfarch Gwyl Eid.

Gwasanaeth

  1. Defnyddiwch wefannau i ddangos i chi weddau ar y lleuad yn ystod y flwyddyn (teipiwch ‘moon shape diary’ wrth ddefnyddio unrhyw beiriant chwilio).

    Edrychwch sut wedd fydd i’r lleuad ar 16 Tachwedd.

  2. Eglurwch fod llawer o bobl yn edrych ar siâp cilgant y lleuad o gwmpas yr adeg yma, i ddathlu gwyl grefyddol bwysig.

Holwch y plant ydyn nhw’n gwybod pa wyl yw honno.

Rhowch gliwiau iddyn nhw ynghylch pobl pa grefydd fydd yn dathlu’r wyl hon.

  1. Cyflwynwch yr wyl Eid ul Adha:

Eglurwch i’r plant mai Adha (‘Gwyl yr Aberth’), sydd hefyd yn cael ei galw’n Eid Fwyaf - Greater Eid, yw’r ail wyl bwysicaf yn y calendr Mwslimaidd.

Eglurwch fod yr wyl yn atgoffa’r bobl am hanes y proffwyd Ibrahim (y mae Iddewon a Christnogion yn ei alw’n ‘Abraham’), ac fel roedd Ibrahim yn fodlon hyd yn oed i aberthu ei fab Ishmael ar ôl i Dduw ei orchymyn i wneud fel a ganlyn:

Fe ymddangosodd Allah (Duw) i Ibrahim mewn breuddwyd, a gofyn iddo aberthu ei fab Ishmael fel gweithred o ufudd-dod i Allah.

Fe geisiodd  y diafol demtio Ibrahim trwy ddweud doedd dim rhaid iddo fod yn ufudd i Dduw ac y gallai arbed ei fab. Ond pan oedd Ibrahim ar fin lladd ei fab, fe ataliodd Allah ef a rhoi oen iddo’i aberthu yn lle Ishmael ei fab.

  1. Mae gwyl Eid ul Adha yn ddiwrnod o wyliau cyhoeddus mewn gwledydd Mwslimaidd.

Eglurwch fod Mwslimiaid ledled y byd, y rhai sy’n gallu ei fforddio, yn aberthu dafad (gafr weithiau) i gofio am ufudd-dod  Ibrahim i Allah.

Eglurwch, o achos deddfau iawnderau anifeiliaid, yma ym Mhrydain, rhaid i’r anifail gael ei ladd mewn lladd-dy trwyddedig.

Yna, fe fydd cig yr anifail yn cael ei rannu rhwng y teulu, ffrindiau, a phobl dlawd, y rhain yn cael un rhan o dair o’r anifail.

Fel arfer, fe fydd y Mwslimiaid yn mynd i’r mosg  i ddechrau’r Eid, wedi gwisgo yn eu dillad gorau, ac yno fe fyddan nhw’n diolch i Allah am bob bendith y byddan nhw wedi’i chael.

Mae’n ddyletswydd ar bob Mwslim, yn ystod Eid, i roi swm nodedig o arian at elusen, i’w ddefnyddio er mwyn helpu pobl dlawd i brynu dillad newydd a bwyd fel y byddan nhw hefyd yn gallu dathlu.

Amser i feddwl

Goleuwch gannwyll a gofynnwch i’r plant feddwl am wyl Eid.
Mae Duw, Allah, yn disgwyl i ni rannu’r hyn sydd gennym ni.
Sut y gallech chi rannu rhai o’r pethau da sydd gennych chi heddiw?

Dyddiad cyhoeddi: Tachwedd 2010    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon