Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Nadolig Norwyaidd

gan Jude Scrutton

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 1

Nodau / Amcanion

Archwilio sut mae diwylliant arall yn dathlu’r Nadolig.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen siart troi neu fwrdd gwyn rhyngweithiol.
  • Dewisol: Sand kager, bisgedi Norwyaidd (wedi’u gwneud trwy gymysgu 2 lond cwpan o ymenyn a 2 lond cwpan o siwgr, 4 llond cwpan o flawd, ac 1 llond cwpan o gnau almon wedi’u malu. Gwasgwch y gymysgedd i dun cacen crwn, 7 modfedd, a’i grasu ar wres o 180° C, neu farc 5 nwy, nes y bydd yn lliw euraid. Yna torrwch yn sgwariau).

Gwasanaeth

  1. Holwch y plant sut y byddan nhw’n dathlu’r Nadolig. Gofynnwch iddyn nhw pa bryd y bydd y dathlu’n dechrau, a beth fyddan nhw’n ei fwyta, ac yn ei wneud.

    Gofynnwch i’r plant beth mae’r Nadolig yn ei olygu iddyn nhw.

    Ar siart troi neu fwrdd gwyn, rhestrwch yr holl bethau crefyddol y mae’r plant yn eu nodi am y Nadolig, ac unrhyw draddodiadau crefyddol eraill y gwyddoch chi amdanyn nhw sy’n gysylltiedig â’r Nadolig.

    Atgoffwch y plant o wir ystyr y Nadolig, sef bod baban bach o’r enw Iesu wedi’i eni ym Methlehem.

  2. Trafodwch sut y dechreuodd yr arferiad bod Siôn Corn neu Santa Claus yn dod ag anrhegion:

    Sant Nicholas o Myra oedd y Siôn Corn cyntaf, neu’r ffigwr Cristnogol cyntaf Santa Claus.

    Cristion o wlad Groeg yn y bedwaredd ganrif ar ôl amser Iesu Grist oedd Nicholas. Roedd yn Esgob mewn lle o’r enw Myra (enw’r lle erbyn hyn yw Demre) yn Lycia, talaith yng ngwlad Twrci heddiw.

    Roedd Nicholas yn enwog am fod yn garedig wrth bobl dlawd ac fe fyddai’n rhoi anrhegion iddyn nhw. Bu’n neilltuol o garedig wrth dair merch dlawd un gwr Cristnogol a duwiol iawn. Roedd Nicholas ei hun yn ddyn crefyddol iawn ers pan oedd yn fachgen ifanc, ac fe gysegrodd ei fywyd yn gyfan gwbl i Gristnogaeth.
  1. Trafodwch sut mae gan bobl o wahanol genhedloedd eu ffyrdd eu hunain o ddathlu genedigaeth Iesu. Soniwch fel mae pobl Awstralia, fel arfer, yn dathlu’r Nadolig trwy gynnal barbiciw mewn tywydd braf gyda’r tymheredd, o bosib, rhwng 30 a 40 gradd!

    Nawr, rydyn ni’n mynd i weld sut mae pobl gwlad Norwy’n dathlu’r Nadolig.

  2. Yn Norwy, fe fydd y Nadolig yn dechrau ar Ragfyr 13 gyda seremoni’r  Santes Lucia.

    Ar doriad y wawr, fe fydd y ferch ieuengaf ym mhob teulu’n gwisgo gwisg wen ac fe fydd coron o ddail gwyrdd ganddi a chanhwyllau tal arni wedi’u goleuo. Fe fydd y bechgyn yn gwisgo fel sêr mewn crysau gwyn llaes a hetiau pigfain.

    Fe fydd y plant yn deffro’u rhieni ac yn mynd â chwpanaid o goffi iddyn nhw a byns Lucia (lussekatter). Mae’r arferiad yn gwneud i bobl gofio am ferch fach Gristnogol ddiniwed o’r enw Lucia, a gafodd ei merthyru yn Syracuse, yn yr Eidal, yn y bedwaredd ganrif, am yr hyn roedd hi’n ei gredu.

    Traddodiad gweddol ddiweddar yw seremoni Santes Lucia, ac mae’n symbol o ddiolch am ddychweliad yr haul.

  3. Fel arfer, fe fydd coeden Nadolig gan bobl Norwy, ac fe fyddan nhw’n ei haddurno ag amrywiaeth o bethau fel canhwyllau, afalau, calonnau coch, cornetau, addurniadau wedi’u gwneud o wellt, peli gwydr, a thinsel. Ar adeg y Nadolig, fe fydd cartrefi Norwyaidd yn aml yn llawn peraroglau, gan gynnwys arogleuon resin, arogl blodau fel hyacinth, a thiwlip coch, sbeisiau, a thanjerîns.

    Mae rhai pobl yn Norwy yn credu’r stori draddodiadol am y corrach bach (fjøsnissen), sy’n dod  ar adeg y  Nadolig. Mae’r corrach bach yn gofalu am holl anifeiliaid y fferm ac mae’n chwarae triciau os yw’r plant yn anghofio gadael llond bowlen o uwd arbennig (risengrynsgrøt) iddo yn yr ysgubor neu y tu allan i’r ty.

  4. Ar 23 Rhagfyr, fe fydd pobl Norwy yn bwyta uwd reis (lillejulaften) with gyda chneuen almon arbennig ynddo, ac maen nhw’n credu bod rhyw hud arbennig yn hwn. Mae’r un syn dod o hyd i’r gneuen yn ei ddysgl yn cael gwobr. Fe fydd rhai pobl yn bwyta’r uwd reis arbennig yma hefyd amser cinio ar 24 Rhagfyr.

  5. Ar 24 Rhagfyr hefyd, fe fydd llawer o bobl yn mynd i’r eglwys cyn dod at ei gilydd gartref i fwynhau cinio Noswyl Nadolig. Yn y pryd bwyd hwn, fe fyddan nhw’n bwyta cig porc, yr asen gyda chracell crensiog, ribbe, (yn cael ei weini gyda llysiau fel ‘cabbage à la Norvégienne’, surkaal, tatws, moron, blodfresych, ysgewyll, a phrwns a saws brown), asen cig dafad wedi’i halltu a’i sychu, pinnekjoett, (yn cael ei weini gyda thatws, moron a rwdins wedi’u stwnshio), neu bysgodyn, lutefisk (yn cael ei weini gyda thatws, bacwn a chawl pys). Wedyn, fe fyddan nhw’n bwyta pwdin reis wedi’i gymysgu â hufen wedi’i guro, ac yn cael ei weini gyda saws coch; riskrem, pwdin caramel, mws ceirios, neu hufen wedi’i guro gyda multer (aeron oren sy’n tyfu ar lethrau’r mynyddoedd sy’n edrych yn debyg i fafon cochion).

    Wedyn, cyn diwedd y noson, fe fydd Santa Claus yn cyrraedd gyda’i anrhegion. Yn aml, fe fydd hi’n bwrw eira yno. Yn y dyddiau rhwng y Nadolig a’r Nos Galan, fe fydd y plant weithiau’n mynd o dy i dy yn ystod y pnawniau yn gofyn am felysion yn ôl traddodiad y wlad. Mae’r traddodiad yn dyddio’n ôl i amser y Llychlynwyr, pan oedd paganiaid yn addoli’r duw Thor a’i afr, ond erbyn heddiw dim ond ychydig o blant sy’n parhau â’r traddodiad yma.

  6. Ar Ddydd Nadolig, fe fydd llawer o bobl Norwy yn cael pryd canol dydd mawr neu ginio mawr yn y pnawn gyda’u ffrindiau ac aelodau eu teulu. Gall y pryd bwyd hwn barhau am sawl awr, yn debyg iawn i brydau bwyd teuluoedd yr Eidal.

  7. Dewisol: Gadewch i’r plant flasu’r sand kager rydych chi wedi’u gwneud. Byddwch yn ofalus os oes rhai plant yn dioddef o alergedd cnau!

Amser i feddwl

Gweddi

Arglwydd Dduw, rydyn ni’n llawn teimladau o gyffro a llawenydd wrth ddisgwyl am y Nadolig.
Ac, ar yr adeg arbennig hon, bydd gyda’r teuluoedd rheini sy’n disgwyl am ddyfodiad aelod newydd i’w teulu,
fel yr oedd Mair a Joseff yn disgwyl am ddyfodiad y baban Iesu.

Cân/cerddoriaeth

Canwch unrhyw garol neu hoff gân Nadoligaidd.

Dyddiad cyhoeddi: Rhagfyr 2010    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon