Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Yr X(mas) Neu'r Waw Ffactor

Dathlu arwyddocâd y Nadolig mewn cân.

gan The Revd Alan M. Barker

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Dathlu arwyddocâd y Nadolig mewn cân.

Paratoad a Deunyddiau

Paratowch gopi o’r adnodau o Efengyl Luc yn y Beibl, pennod 2.8–20. (neu fersiwn fodern o’r testun).

Gwasanaeth

  1. Cyfeiriwch at y rhaglen deledu, The X Factor. Pwy sydd wedi mwynhau gwylio’r rhaglen yma, The X Factor? Wnaeth unrhyw un bleidleisio i un o’r cantorion? I bwy? Pwy enillodd?

  2. Rai blynyddoedd yn ôl roedd rhaglen Gymraeg debyg, ac enw honno oedd y ‘Waw Ffactor’. Gofynnwch y cwestiynau canlynol: Fyddai rhywun ohonoch chi’n hoffi cystadlu mewn cystadleuaeth fel hon? Ydych chi’n meddwl bod rhywun yn yr ysgol sy’n berchen ar yr X, neu’r Waw ffactor?

    Eglurwch mai’r ffactor ‘X’ yw’r rhywbeth bach ychwanegol hwnnw, y rhywbeth ‘eXtra’ hwnnw sy’n gwneud i chi ddweud ‘Waw!’ am fod y cyflwyniad ychydig yn fwy arbennig na’r cyffredin. Y ffactor hwnnw sy’n gwneud y gwahaniaeth, mae’n rhywbeth anodd ei ddisgrifio. Mae’n golygu bod y canwr neu’r gantores (neu’r cantorion) nid yn unig yn canu’n dda, ond mae rhywbeth yn arbennig yn eu perfformiad.

  3. Dewisol: Galwch i gof y ffaith bod miloedd o bobl wedi cael gwrandawiad cyn i’r beirniaid ddewis y rhai oedd i ymddangos ar y rhaglen deledu. Doedd hi ddim yn hawdd dewis yr un a fyddai’n serennu yn y pen draw. Gwahoddwch rai o’r plant (neu hyd yn oed rai aelodau o’r staff) i arddangos eu doniau cerddorol. Cofiwch ganmol pob un.

  4. Meddyliwch pa mor bwysig yw cerddoriaeth ar adeg y Nadolig. Mae canu’n rhan bwysig o’r dathlu, ac fe fyddwn ni’n clywed cerddoriaeth o’n cwmpas ym mhob man. Gwahoddwch y plant i rannu â chi beth fyddan nhw’n ei fwynhau fwyaf am yr awyrgylch ar yr adeg hon o’r flwyddyn. Beth sy’n rhoi’r Waw Ffactor i chi ar adeg y Nadolig?

  5. Trafodwch ymateb y plant a phwysleisiwch fod yr wyl yn cael ei mwynhau mewn sawl ffordd wahanol. Wrth sôn am yr X Factor, fe welwch chi’r gair Saesneg am y Nadolig - Christmas - yn cael ei sillafu fel ‘Xmas’. Ffordd fer yw hon o ysgrifennu’r gair, er mwyn ei wasgu i le bach ar hysbyseb neu boster. Mae’r X yn cynrychioli ‘Crist’. Mae’r llythyren X yn debyg o ran siâp i’r llythyren yn yr iaith Roeg ‘chi’, sy’n llythyren gyntaf yr enw Crist.

  6. Gwahoddwch y plant i wrando ar ran o stori’r Nadolig o’r Beibl. Wrth iddyn nhw wrando, gofynnwch iddyn nhw fod yn ymwybodol o’r rhyfeddod yn y stori, sylwi oes rhywun yn canu, a gwrando er mwyn nodi a fyddan nhw’n clywed y gair ‘Crist’ neu ‘Meseia’ (yn dibynnu ar ba fersiwn o’r Beibl y byddwch chi’n ei ddefnyddio). Ystyr y gair yw ‘yr un sydd wedi’i eneinio’. (Fe allech chi egluro’r ystyr os hoffech chi. Eglurwch fod yr Iddewon ers talwm yn arfer eneinio eu harweinwyr gydag olew, fel arwydd i dangos eu bod wedi cael eu dewis gan Dduw.)

  7. Darllenwch yr adnodau o Efengyl Luc 2.8–20: Y Bugeiliaid a’r Angylion.

  8. Dewch i gasgliad ar y diwedd trwy ddweud bod genedigaeth Iesu fel yr X neu’r Waw Ffactor yng ngolwg Cristnogion. Dyna sy’n gwneud y Nadolig yn adeg arbennig iawn. Yn y Beibl, rydyn ni’n cael hanes y bugeiliaid yn gwylio’u defaid yn ystod y nos, ac fe aethon nhw i chwilio am y baban Iesu. Yn fuan iawn wedyn, fe wnaethon nhw ddod o hyd hefyd i’r Waw ffactor, ac ar ôl hynny roedden nhw hefyd yn canu cân lawen yr angylion!

Amser i feddwl

Cyflwynwch garol Nadolig y gall pawb ymuno i’w chanu, neu ceisiwch ganu’r garol fach hon sydd fel tôn gron syml, gan ailadrodd pob brawddeg sy’n dilyn ar y diwn ‘Frère Jacques’.

Llais angylion,
Yn canu’n glir,
Canu am dangnefedd
Yn ein tir.

(Addasiad o eiriau gan y Parch. Alan M. Barker)

Fe ganai’r angylion am dangnefedd ar y ddaear. Gadewch i ni feddwl am y pethau y gallen ni eu gwneud er mwyn i’r adeg hon o’r flwyddyn fod yn arbennig a thangnefeddus, a rhannu bendith Iesu Grist.

Cân/cerddoriaeth

Dewiswch un o hoff garolau plant yr ysgol i’w chanu.

Dyddiad cyhoeddi: Rhagfyr 2010    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon