Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Deuddeg Dydd Nadolig

gan The Revd Alan M. Barker

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Dathlu’r Ystwyll a sôn am anrhegion y Doethion.

Paratoad a Deunyddiau

  • Ceisiwch gopi o eiriau a cherddoriaeth y gân ‘The Twelve Days of Christmas’ (Efallai y gallech chi ddod o hyd i’r fersiwn Gymraeg, Deuddeg Dydd Nadolig, o bosib. Ond, am y tro, fe allai’r plant ganu geiriau’r fersiwn Saesneg wrth fynd trwy’r gwasanaeth yma am eu bod yn fwy cyfarwydd).
  • Rhannwch eich cynulleidfa’n ddeg grwp, a’u rhifo fel mae’n nodi yn y testun.

Gwasanaeth

  1. Gofynnwch i bawb feddwl am yr anrhegion Nadolig gawson nhw. Gwahoddwch nifer o blant ac athrawon i sôn am unrhyw anrhegion anghyffredin gawson nhw ryw dro.
  1. Cyflwynwch y gân ‘The Twelve Days of Christmas’, sy’n rhestru rhai anrhegion anghyffredin iawn! Eglurwch mai deuddeg diwrnod Nadolig yw chwe diwrnod olaf yr hen flwyddyn a chwe diwrnod cyntaf y flwyddyn newydd - y cyfnod rhwng dydd Nadolig a’r 6ed o Ionawr, neu’r ‘Ystwyll’, fel mae’r cyfnod yn cael ei alw. Yn draddodiadol, mae’n gyfnod o lawenydd, ac mae hynny’n cael ei adlewyrchu yn y gân. Gadewch i ni fwynhau canu’r gân gyda’n gilydd. (Fe all fod yn hwyl cael grwpiau gwahanol i ganu’r gwahanol linellau.) Cân gronnus yw hon, hynny yw, mae’n tyfu fesul llinell.

Dyma’r pennill cyntaf:
(Pawb)

On the first day of Christmas my true love sent to me:
a partridge in a pear tree.

Yr ail bennill:

(Grwp 2)
On the second day of Christmas my true love sent to me:

Two turtle doves
(Pawb)
and a partridge in a pear tree.

Y trydydd pennill:

(Grwp 3)
On the third day of Christmas my true love sent to me:
Three French hens,
(Grwp 2)
two turtle doves
(Pawb)
and a partridge in a pear tree.

ac felly ymlaen hyd y pennill olaf, pennill deuddeg:

(Grwp 12)
On the twelfth day of Christmas my true love sent to me:
Twelve drummers drumming,

(Grwp 11)  Eleven pipers piping,
(Grwp 10)  Ten lords a-leaping,
(Grwp 9)  Nine ladies dancing,
(Grwp 8)  Eight maids a-milking,
(Grwp 7)  Seven swans a-swimming
(Grwp 6)  Six geese a-laying,
(Pawb)  Five golden rings,
(Grwp 4)  Four calling birds,
(Grwp 3)  Three French hens,
(Grwp 2)  Two turtle doves
(Pawb)  And a partridge in a pear tree!

Nodwch nad oes Grwp 1 na 5, ond bod angen i bawb ganu’r llinellau hynny.

  1. Eglurwch fod y gân hon wedi cael ei chanu ers dros 200 mlynedd, a bod sawl damcaniaeth ynghylch ei hystyr. Mwy na thebyg iddi gael ei chanu’n gyntaf am hwyl yn unig, ac fel rhyw fath o gêm gofio. Fe fyddai’r arweinydd yn canu’r pennill cyntaf, ac eraill yn canu pob llinell yn eu tro nes byddai rhywun yn methu neu’n anghofio’r geiriau - fel sy’n digwydd yn aml wrth ganu’r gân mewn grwpiau!

    Mae rhai pobl eraill wedi awgrymu bod ystyr crefyddol cudd yn y geiriau .
    Er enghraifft:

    - y betrisen (partridge) yw Iesu, a’r goeden (pear tre), yw ei groes,
    - y ddwy golomen neu’r turturod (two turtle doves) yw’r Hen Destament a’r Testament Newydd  - dwy ran y Beibl, a’r
    - pedwar aderyn (four calling birds) yw’r pedair Efengyl, Efengyl Mathew, Marc, Luc ac Ioan.
  1. Ewch ymlaen trwy sôn am anrhegion anghyffredin eraill sy’n gysylltiedig â stori’r Nadolig ei hun. Mae deuddegfed diwrnod y Nadolig yn dathlu ymweliad y Doethion. Fe ddaethon nhw i addoli Brenin oedd newydd ei eni, a chyflwyno iddo anrhegion o aur, thus a myrr. Mae ystyr cudd i’r anrhegion hyn hefyd!

    Eglurwch fod aur, y metel mwyaf gwerthfawr, yn anrheg i rywun pwysig iawn. Roedd yr aur yn anrheg a oedd yn datgan: ‘Mae Iesu yn Frenin a fydd yn dod â chariad!’

    Roedd thus a myrr yn ddau bersawr drud iawn wedi’u gwneud allan o resin (glud) o goed. Arferai pobl losgi thus mewn seremonïau crefyddol. Roedden nhw’n credu y byddai’r persawr yn cario eu gweddïau i’r nefoedd. Roedd y thus yn anrheg a oedd yn datgan: ‘Bydd Iesu’n ein tynnu’n nes at Dduw ac yn dod â llawenydd.’

    Roedd myrr yn cael ei ddefnyddio mewn eli i wella doluriau a briwiau. Roedd y myrr yn anrheg a oedd yn datgan: ‘Bydd Iesu’n gwella rhaniadau ac yn dod â heddwch.’

Roedd y pethau hyn yn anrhegion rhyfedd iawn i’w rhoi i faban bach! Mewn gwirionedd, maen nhw’n pwysleisio pa mor bwysig yw cariad, llawenydd a heddwch.

Ar ddeuddegfed dydd y Nadolig, a thrwy gyfnod yr Ystwyll, mae Cristnogion yn dathlu ystyr geni Iesu.

  1. Diweddwch y gwasanaeth trwy ganu’r pennill olaf unwaith eto.

Amser i feddwl

Gwahoddwch bawb:

– i fod yn ddiolchgar am yr anrhegion gawson nhw yn ystod y Nadolig
– i fod yn ddiolchgar am yr hwyl o gael canu gyda’n gilydd

– i gofio sut y daeth y doethion ag anrhegion a oedd yn symbolau ag ystyr cudd iddyn nhw, yn nodi pwysigrwydd cariad, llawenydd a heddwch.

Gweddi

Arglwydd Dduw,
mae gwyliau’r Nadolig drosodd,
ond helpa ni i gofio
bod rhoi a derbyn yn bwysig bob amser,
bob dydd o’r flwyddyn.

Dyddiad cyhoeddi: Ionawr 2011    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon