Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Grace Darling

Canolbwyntio ar waith criwiau achub ar y môr ac ar hyd y glannau, gan gyfeirio at ddewrder arbennig merch o’r enw Grace Darling.

gan The Revd Alan M. Barker

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Canolbwyntio ar waith criwiau achub ar y môr ac ar hyd y glannau, gan gyfeirio at ddewrder arbennig merch o’r enw Grace Darling.

Paratoad a Deunyddiau

  • Casglwch ddelweddau sy’n gysylltiedig â stori Grace Darling, a rhagor o luniau o griwiau badau achub wrth eu gwaith  - mae rhai ar gael i’w llwytho i lawr oddi ar y rhyngrwyd, yn amodol ar yr hawlfraint.
  • Os oes rhai o blant yr ysgol wedi bod yn astudio hanes Grace Darling fel rhan o waith y cwricwlwm, fe allai’r gwasanaeth yma fod yn gyfle iddyn nhw gyflwyno’u gwaith.
  • Fe fyddai’n bosib i chi roi gwahoddiad i gynrychiolydd o Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Badau Achub - yr RNLI (Royal National Lifeboat Institution) neu Wylwyr y Glannau (Auxiliary Coastguard) ddod atoch chi i’r gwasanaeth, neu i wasanaeth dilynol.
  • Gwefannau defnyddiol:
    RNLI, sy’n cynnwys fersiwn wedi’i hanimeiddio o stori Grace Darling: http://www.rnli.org.uk/Shorething/Youth/
      https://www.tes.com/teaching-resource/grace-darling-power-point-presentation-11085702 Mae’r wefan yma’n cynnwys fersiwn PowerPoint o’r stori (gwiriwch yr hawlfraint).

Gwasanaeth

  1. Gwahoddwch bawb i ddychmygu sut beth fyddai byw mewn goleudy – yr unig bobl ar ynys fechan. Os yw sefyllfa felly’n ymddangos yn unig ac anghysbell, meddyliwch sut beth oedd byw mewn lle felly cyn dyfodiad y radio a’r ffôn!

  2. Ewch ymlaen i egluro mai dyna oedd profiad un teulu oedd â’r cyfenw Darling, ers talwm. Roedd y tad yn geidwad goleudy Longstone. William Darling oedd ei enw, ac roedd yn byw gyda’i wraig a’i ferch ar ynys greigiog ar arfordir Northumberland yng ngogledd ddwyrain Lloegr.

  3. Adroddwch hanes Grace Darling:

    Erbyn hyn roedd Grace Darling wedi tyfu’n oedolyn, ac ar 7 Medi 1838 roedd hi’n storm fawr ac fe yrrwyd llong ager o’r enw Forfarshire ar y creigiau tua milltir o’r goleudy. Yn gynnar yn y bore, roedd Grace a’i theulu’n gallu gweld pobl yn ceisio dal eu gafael ar y graig ac yn galw am help.

    Roedd y gwynt a’r tonnau mor gryf, roedd y teulu’n gwybod y byddai’n gwbl amhosib i unrhyw un fynd mewn unrhyw fath o gwch achub o’r tir mawr i achub y bobl yma yr oedd eu llong wedi’i dryllio ar y creigiau.  Beth allen nhw ei wneud, felly?

    Cychwynnodd Grace a’i thad yn eu cwch rhwyfo mawr trwm o’r ynys tuag at y creigiau. Roedd hwn yn gwch anodd ei rwyfo, cwch y byddai angen tri dyn cryf i’w rwyfo fel arfer. Ond, fe ymdrechodd y ddau’n galed er mwyn ceisio mynd i achub y bobl.

    Ar ôl rhwyfo’u gorau trwy’r tonnau mawr yn y gwynt cryf, fe lwyddodd y ddau i gyrraedd y creigiau, lle’r oedd naw o bobl yn dal yn fyw ac yn disgwyl i rywun ddod i’w hachub.


Arhosodd Grace yn y cwch i geisio’i gadw yn ei le tra roedd ei thad yn crafangio i fyny’r graig i geisio helpu’r bobl. Pe byddai’r gwynt yn chwythu’r cwch ar y creigiau fyddai ganddyn nhw ddim modd i gyrraedd yn ôl yn ddiogel i’r goleudy.


Dim ond lle i bump o bobl oedd yn y cwch, ond fe wnaethon nhw lwyddo rywsut i wneud y daith anodd a pheryglus yn ôl at y goleudy. Yna, fe arhosodd Grace gyda’i mam i ofalu am y bobl roedden nhw wedi’u hachub tra aeth tad Grace yn ôl gyda dau o griw’r llong i achub gweddill y bobl oddi ar y creigiau.


Roedd y tywydd mor ddrwg ar y pryd, aeth tri diwrnod heibio cyn i’r storm ostegu a chyn i bobl ddod o’r tir mawr drosodd i’r ynys i’w helpu.


Pan glywodd pobl y wlad yr hanes am y ddau ddewr a fentrodd eu bywydau i achub y bobl, fe dderbyniodd Grace a’i thad fedal bob un am eu dewrder. Daeth hanes Grace y stori enwog, ac mae pobl yn dal i gofio amdani hyd heddiw.

  1. Gwahoddwch y plant i ystyried pam mae stori Grace Darling yn dal i gael ei hadrodd hyd heddiw. Merch gyffredin oedd Grace, ond merch  a ddaeth yn arwres enwog. Sut y byddech chi’n disgrifio cymeriad Grace Darling? Pwysleisiwch y ffaith mai rhywun cyffredin yn aml sy’n dod yn arwr, rhywun cyffredin sy’n helpu rhywun arall mewn ffordd anghyffredin, rhywun sy’n gallu goresgyn peryglon er mwyn achub rhywun arall.

  2. Cyfeiriwch at waith Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Badau Achub (RNLI) - Royal National Lifeboat Institution.
    Holwch a oes rhywun wedi ymweld â gorsaf bad achub, a thrafodwch yn gryno ffeithiau am waith yr RNLI.

    Amlygwch:
    - mai elusen yw RNLI sy’n achub bywydau pobl sydd mewn perygl ar y môr
    - mae gorsafoedd badau achub RNLI i’w cael ar hyd arfordir Ynysoedd Prydain. (Enw’r bad achub yng ngorsaf Seahouses yn Northumberland yw Grace Darling.)
    - mae achubwyr bywydau RNLI yn helpu i gadw pobl yn ddiogel ar draethau prysur
    - gwirfoddolwyr yw criwiau’r badau achub a’r achubwyr bywydau - pobl gyffredin  sy’n rhoi eu hamser yn rhad ac am ddim i achub bywydau a helpu pobl eraill sydd mewn perygl.

    Atgoffwch y plant sut mae galw am help pan fydd rhywun angen y gwasanaethau brys.

    Yn ôl yn y flwyddyn 1838, yr RNLI oedd un o’r sefydliadau a gyflwynodd fedal am ei dewrder i Grace Darling. Mae’r sefydliad yn parhau i gyflwyno medalau pan fydd criwiau badau achub ac achubwyr bywydau wedi gwneud rhywbeth anghyffredin ac wedi bod yn ddewr iawn wrth achub rhywun mewn argyfwng. Mae’n bosib gweld hanes rhai o’r bobl hyn ar wefan RNLI.

Amser i feddwl

Yn y Beibl mae stori’n adrodd hanes sut yr helpodd Iesu ei ffrindiau pan oedd eu cwch yn cael ei daflu i fyny ac i lawr mewn storm enfawr. ‘Byddwch yn ddewr! Peidiwch â bod ofn!’ meddai Iesu.

Gweddi

Wrth i ni gofio am Grace Darling a’i thad,
rydyn ni’n meddwl am rai sy’n ddewr heddiw ar foroedd dychrynllyd yn helpu pobl eraill ac yn eu hachub.
Gad iddyn nhw gael y dewrder a’r doethineb y mae arnyn nhw’i angen wrth wynebu perygl.
Arglwydd, gwrando ein gweddi.

Dyddiad cyhoeddi: Chwefror 2011    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon