Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Cariad

Ystyried beth yw cariad.

gan Janice Ross

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Ystyried beth yw cariad.

Paratoad a Deunyddiau

  • Ar fwrdd o’ch blaen, gosodwch bethau i’w dangos i’r plant: cerdyn Ffolant, rhosyn, siocledi, pitsa a photel o win, a phentwr o ddillad sydd angen eu golchi (ceisiwch gynnwys pethau fel hosanau pêl-droed budron, bib babi gydag olion bwyd arno, dillad gwaith fel oferôl rhywun sy’n gweithio mewn garej – unrhyw beth y gallwch chi fentro ei gynnwys!).
  • Fe fyddwch angen gwirfoddolwyr i feimio rhai symudiadau cyfarwydd.
  • Dewisol: pâr o fenig rwber.
  • Y geiriau y byddwch yn eu defnyddio yn yr amser i feddwl wedi’u harddangos ar fwrdd gwyn neu ar ffurf poster.

Gwasanaeth

  1. Dangoswch y pum eitem gyntaf sydd ar y rhestr i’r plant, a gofynnwch iddyn nhw gyda beth y bydden nhw’n cysylltu’r pethau hyn.
    Maen nhw’n bethau y bydd pobl yn eu rhoi yn anrhegion i’w cariadon ar Ddiwrnod Sant Ffolant neu Ddydd y Cariadon er mwyn dangos eu cariad.

    Nawr, codwch y pentwr dillad sydd angen eu golchi, gan edrych yn syn! (Efallai yr hoffech chi wisgo’r menig rwber er mwyn ychwanegu at yr effaith a’r hwyl.)
    Nodwch y gallai’r plant yn hawdd feddwl fod y pentwr dillad yn rhywbeth sydd ddim yn perthyn i’r pethau eraill o gwbl, yn enwedig pe bydden nhw’n gallu arogli’r hosanau pêl-droed budron!
    Ond, eglurwch fod y pentwr dillad yn perthyn yr un fath â’r pethau eraill yn union. Wedi’r cyfan, rhywun fyddai’n eich caru fyddai’n fodlon gwneud tasgau fel golchi eich dillad i chi ac ati!

  2. Chwaraewch gêm ddyfalu gyda’r plant.
    Trefnwch fod gennych chi rai gwirfoddolwyr i feimio’r gweithgareddau canlynol er mwyn i’r gynulleidfa geisio dyfalu beth maen nhw’n ei wneud.
    Holwch pwy fyddai’n gwneud hyn? Sut y gallech chi alw hynny’n gariad?
    (a) paratoi pecyn bwyd
    (b) dyn neu ddynes lolipop yn eich helpu i groesi’r ffordd
    (c) smwddio
    (d) dwrdio plentyn bach am wneud rhywbeth o’i le
    (e) golchi’r car.

  3. Eglurwch fod Duw, sef awdur y gair ‘cariad’, nid yn unig wedi dweud ei fod yn ein caru ni ond hefyd wedi dangos ei gariad. Fe wnaethom ni ddathlu’r cariad hwnnw ychydig wythnosau’n ôl, adeg y Nadolig, wrth i ni gofio bod Duw wedi anfon ei fab Iesu i’r byd i ddangos sut beth yn union yw cariad Duw. Cyn hir fe fyddwn ni’n dechrau meddwl am stori diwedd hanes Iesu Grist ar y ddaear. Wrth i ni agosáu at y Pasg, fe fyddwn ni’n cofio eto bod Iesu wedi bod yn fodlon rhoi ei fywyd a marw ar y groes am ei fod yn ein caru ni i gyd yn fawr iawn.

Amser i feddwl

Roedd poster y tu allan i eglwys un tro gyda’r geiriau canlynol arno:
Don’t just talk the talk, walk the walk.’

[Sylwch ar y chwarae ar eiriau sydd yma, a chyfeiriwch at y ffaith bod y gair ‘love’ hefyd, yn Saesneg, fel y geiriau hyn ‘talk’ a ‘walk’ (sy’n golygu siarad a sgwrs, cerdded a thaith) yn gallu bod yn ferf neu’n enw – caru a chariad.]

Roedd teulu Duw yn yr eglwys neilltuol honno, lle’r oedd y poster, wedi penderfynu nad oedd yn ddigon dim ond dweud wrth bobl bod Duw’n eu caru. Roedden nhw eisiau dangos cariad Duw ar waith i bobl.

Roedd pob math o bobl yn cael eu croesawu i’r eglwys honno: mamau a phlant bach a oedd am fynd yno i gael hwyl ac i chwarae a chwrdd â mamau eraill a’u plant; pobl ddigartref oedd angen dysglaid o gawl cynnes a rhywun i wrando arnyn nhw’n siarad am eu problemau; pobl ifanc yn eu harddegau oedd angen lle diogel i ddod at ei gilydd a chael gêm o snwcer neu pwl. (Ychwanegwch chi unrhyw awgrymiadau eraill a fyddai’n briodol i brofiad y plant yn lleol.)

Roedd teulu’r eglwys yn dangos cariad tuag at bawb oedd yn mynd iddi

Sut y gallwch chi ddangos eich cariad tuag at rywun heddiw?

Gweddi
Annwyl Dduw,
Heddiw, fe fydd llawer o bobl yn dangos eu cariad tuag atom.
Helpa ni i sylwi ar y pethau hyn a gwna ni’n ddiolchgar.
Heddiw, hefyd, fe fydd cyfleoedd i ni ddangos ein cariad tuag at bobl eraill.
Helpa ni i sylwi ar y cyfleoedd hynny, ac i fod yn barod i ddangos ein cariad.

Dyddiad cyhoeddi: Chwefror 2011    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon