Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Sgarff, Moronen, A Darnau Bach O Lo

gan The Revd Alan M. Barker

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Meddwl am brofiad personol o golled, am siomedigaeth, ac am ‘symud ymlaen’

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fyddwch angen sgarff, moronen a rhai darnau bach o lo (neu fe allech ddefnyddio cerrig bach yn hytrach na’r glo).
  • Copi o’r llyfr The Snowman gan Raymond Briggs.
  • Trefnwch i arddangos neu daflunio’r adnodau o’r Beibl (Galarnad 3.22–23), wedi’u gosod ynghyd â delwedd briodol.

Gwasanaeth

Mae’r gwasanaeth yma’n adlewyrchu’r traddodiad o sôn am ddyn eira fel cymeriad gwryw – fe allwch chi addasu hyn, os hoffech chi, er mwyn peidio â gwahaniaethu ar sail rhyw.

  1. Dangoswch y sgarff, y foronen a’r darnau glo neu gerrig bach. Soniwch eich bod yn teimlo’n drist i raddau a gwahoddwch y plant i ddyfalu pam eich bod chi’n teimlo’n drist. Fe ddefnyddiwyd yr eitemau sydd gennych chi i adeiladu dyn eira! Eglurwch mai’r foronen oedd ei drwyn, a’r glo neu’r cerrig bach oedd ei lygaid, ei ddannedd, a’i fotymau. Ac roedd y sgarff am ei wddw.

    Soniwch pam rydych chi’n drist. Mae’r tywydd wedi cynhesu ar ôl cyfnod yr eira, ac mae’r dyn eira roeddech chi wedi’i greu wedi toddi a diflannu. Y cyfan sydd gennych chi ar ôl yw’r  sgarff, y foronen a’r darnau glo neu gerrig bach. Neu, efallai, eich bod wedi cael cawod o eira ond fod yr eira wedi diflannu’n sydyn cyn ichi gael cyfle i wneud dyn eira. Yn union felly mae gobeithion a chynlluniau’n gallu diflannu. Rydych chi’n cofio’r dyddiau hynny yr oedd hi’n bosib i chi fynd allan i wneud dyn eira – ond yn awr does gennych chi ddim ond y sgarff, y foronen a’r darnau glo neu gerrig bach.

  2. Gwahoddwch y plant i rannu eu profiadau. Wnaethon nhw greu dyn eira, neu ddynes eira?
    Pryd, ac ymhle? Am faint y bu yno . . .
    . . . a sut roedden nhw’n teimlo pan ddiflannodd?

  3. Cyfeiriwch at stori Raymond Briggs, The Snowman. Ail adroddwch hanes antur y bachgen ifanc wrth iddo hedfan trwy’r awyr gyda’r dyn eira yr oedd wedi’i greu. Gyda’i gilydd maen nhw’n mynd i Begwn y Gogledd lle maen nhw’n gweld Goleuadau’r Gogledd, yn ymuno yn hwyl parti’r dynion eira, ac yn cael cwrdd â Siôn Corn. Maen nhw’n dod yn ôl adref, ond y bore wedyn mae’r bachgen yn canfod bod y dyn eira mynd - wedi toddi yn yr haul. Soniwch fod rhai pobl yn teimlo’n emosiynol iawn gyda’r rhan hon o’r stori. Fel y gwyr rhai o’r plant, efallai, allwn ni ddim dal ein gafael mewn ambell ffrind arbennig am byth, pa un ai ffrind go iawn yw hwnnw neu un wedi’i wneud o eira! Ac, fel yn achos pob un ohonom, ar ôl yr holl gyffro a llawenydd y Nadolig, mae bywyd yn dod yn ôl i drefn unwaith eto’n gynnar yn y Flwyddyn Newydd.

  4. Canolbwyntiwch eto ar y sgarff, y foronen a’r darnau glo neu gerrig bach. Gofynnwch: ‘Ai dyma’r cyfan sydd ar ôl?’ Myfyriwch ar y ffaith bod ambell beth ar wahân i’r pethau hyn yn dal i aros gyda ni. Er enghraifft, mae’r atgofion yn parhau am y cyfeillgarwch a’r hwyl gawsoch chi wrth wneud y dyn eira. A dyna chi bopeth rydych chi wedi’i ddysgu hefyd trwy’r profiad. Fe fydd gennych chi atgofion pleserus a fydd yn parhau gyda chi am weddill eich oes o bosib.

  5. Ewch ymlaen gan feddwl am ffaith fel hon: ‘Er bod y Nadolig a thymor y gaeaf a’r eira’n gyfnod rydyn ni’n ei fwynhau, mae’r amser yn dod pan fydd yn rhaid i ni ffarwelio â’r eira a’r rhew os ydyn ni am gael mwynhau cynhesrwydd a bywyd y gwanwyn wedyn. Mae hyn yn gallu bod yn wir am rai o’n ffrindiau go iawn hefyd. Dydi hi ddim yn hawdd symud ymlaen ond mae’r pethau gorau mewn bywyd yn gallu ein helpu i edrych yn gadarnhaol a llawn ffydd tuag at y dyfodol. Diweddwch y gwasanaeth ar nodyn hapus trwy ddweud: ‘O! Wel, os daw’r eira eto, eleni neu’r flwyddyn nesaf efallai, fe fyddwn ni angen y sgarff, y foronen a’r darnau glo neu’r cerrig bach yma eto!’

Amser i feddwl

Yn y Beibl, mae’r llyfr Galarnad yn adlewyrchu profiad o dristwch a galar, ond mae’r syniad sy’n dilyn yno hefyd, ochr yn ochr:

'Nid oes terfyn ar gariad yr Arglwydd, ac yn sicr ni phalla ei dosturiaethau. Y maent yn newydd bob bore, a mawr yw dy ffyddlondeb.'

(Galarnad 3.22–23)

Gweddi

Annwyl Dduw,
Weithiau, fe fyddwn ni’n drist pan fydd achlysuron arbennig wedi dod i ben
a ninnau’n gorfod ffarwelio â ffrindiau agos.
Helpa ni i edrych ymlaen gyda hyder a gobaith
gan wybod, er bod y tymhorau’n newid,
fod dy gariad di yn parhau, yr un fath,
heddiw ac am byth.

Dyddiad cyhoeddi: Chwefror 2011    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon