Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Pasiwch Y Neges Ymlaen

Dathlu gwaith SPCK yn pasio’r neges Gristnogol ymlaen am dros 300 mlynedd.

gan Janice Ross

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 1

Nodau / Amcanion

Dathlu gwaith SPCK yn pasio’r neges Gristnogol ymlaen am dros 300 mlynedd.

Paratoad a Deunyddiau

  • Trefnwch o flaen llaw bod gennych chi rai fydd yn barod i wirfoddoli i sôn am eu hoff stori neu hoff lyfr – fe allen nhw ddangos llyfr a dweud rhywbeth fel, ‘Rydw i’n hoffi’r llyfr yma. Fe ddylech chi ei ddarllen, oherwydd . . .’
  • Fe fydd arnoch chi angen hen Feibl, un neu fwy o fersiynau modern o’r Beibl ar gyfer plant, a llyfr storïau o’r Beibl.

Gwasanaeth

  1. Rhowch gyfle i rai o’r plant ddangos eu hoff lyfr a dweud rhywbeth amdano. Anogwch y plant i sôn am y lluniau lliwgar a’r cymeriadau, ac ati - beth bynnag sy’n gwneud y llyfr yn ddeniadol.
    Holwch bob plentyn a yw eu llyfr yn un y bydden nhw’n ei argymell i blant eraill ei ddarllen.
    Holwch weddill y plant pwy sydd wedi darllen y llyfr neilltuol hwnnw.
    Yna, fe allech chi ychwanegu sylw tebyg i: ‘Felly, mae llawer ohonoch chi wedi mwynhau’r llyfr yma.’ Neu, ‘Rhaid ei bod yn stori dda felly.’

  2. Dangoswch yr hen Feibl, heb ddweud pa lyfr ydyw.
    Trowch rai o’r tudalennau.
    Fyddai gan y plant ddiddordeb mewn darllen y llyfr yma? Fwy na thebyg, na fydden nhw, am fod y print yn fân, dim darluniau, ac fe fyddai’n cymryd llawer iawn o amser i’w ddarllen o’i ddechrau i’w ddiwedd.
    Ond beth pe byddai storïau cyffrous yn y llyfr, neu fod cyfrinach ynddo ynghylch sut i fyw’n hapus. Neu, beth pe bai gwybodaeth ynddo fyddai’n ein gwneud ni’n ddoeth iawn?

  3. Dywedwch wrth y plant nad oedd llawer o lyfrau i’w cael ers talwm, a doedd llawer o fechgyn a merched ddim yn gallu darllen nac ysgrifennu am nad oedd llawer o ysgolion. Roedd rhai pobl yn gwybod fod y llyfr mawr yma, sef y Beibl, yn cynnwys neges bwysig iawn, ac roedden nhw’n teimlo bod angen i bobl Prydain ddod i wybod am y neges bwysig hon. Fe wnaethon nhw sefydlu cymdeithas i geisio cael y neges i’r bobl. Fe wnaethon nhw alw’r gymdeithas yn Society for Promoting Christian Knowledge - SPCK yw’r teitl byr. Neu, o gyfieithu’r enw i Gymraeg - y Gymdeithas er Hyrwyddo Gwybodaeth Gristnogol.

  4. Fe ddaeth aelodau’r gymdeithas at ei gilydd a dweud: ‘Beth sydd angen i ni ei wneud yn gyntaf? Fe all pobl sy’n ddigon clyfar ddarllen y llyfr yma, felly fe wnawn ni gyhoeddi nifer fawr o Feiblau a’u rhannu iddyn nhw.’

    ‘Ond, beth am y ffermwyr a’r gweision a’r morwynion, y morwyr a llawer iawn o bobl eraill debyg?’ meddai un. ‘Rydyn ni eisiau iddyn nhw hefyd gael darllen y neges, ond fe fyddai’r cyhoeddiad yma’n rhy anodd iddyn nhw. Gadewch i ni ysgrifennu rhai o’r storïau ar ffurf symlach.’

    Rhaid bod y syniad wedi bod yn un da, gan fod morwr enwog, o’r enw Horatio Nelson, wedi ysgrifennu at y gymdeithas wedyn yn gofyn am gopïau o’r storïau i’w forwyr.

    Yna, fe awgrymodd un arall o’r aelodau: ‘Beth am y plant? Rhaid i ni wneud y llyfr yn bosib i blant ei ddarllen.’

‘Ond does dim llawer o blant yn gallu darllen! Dydi’r rhan fwyaf o’r plant ddim yn mynd i ysgol hyd yn oed,’  meddai un arall.

‘Wel, felly, fe fydd yn rhaid i ni sefydlu ysgolion,’ meddai’r llall.

Doedd pethau ddim yn hawdd, ond roedd pobl y gymdeithas hon yn credu bod neges y Beibl mor bwysig roedden nhw’n gweld bod rhaid gweithio’n galed i ddatrys pob problem. Ac fe wnaethon nhw!

  1. Dangoswch y Beiblau sydd gennych chi ar gyfer plant, a’r llyfrau storïau o’r Beibl.

    Hyd yn oed heddiw, 300 mlynedd yn ddiweddarach, mae SPCK yn parhau i gyhoeddi llyfrau am Dduw – llyfrau y mae pob math o bobl o bob oed yn gallu eu darllen a’u deall. A heddiw, mae SPCK yn defnyddio’r rhyngrwyd hefyd i basio’r neges hon ymlaen i chi.

Dangoswch wefan Gwasanaethau SPCK.

Eglurwch fod athrawon, gweinidogion, athrawon ysgol Sul a rhieni ac unrhyw un arall yn gallu edrych ar y wefan neilltuol hon a llwytho i lawr nodiadau ar gyfer gwasanaethau fel ein gwasanaeth ni heddiw, rhai gwahanol bob mis.

Mae SPCK yn parhau i gyhoeddi llyfrau eraill hefyd ar gyfer pob math o bobl.

  1. Fe fyddai’r grwp cyntaf hwnnw o bobl a sefydlodd y gymdeithas SPCK gymaint o flynyddoedd yn ôl, yn falch iawn o ddeall bod pobl yn dal i feddwl bod y neges Gristnogol yn bwysig 300 mlynedd yn ddiweddarach, a’r gymdeithas yn parhau i weithio er mwyn pasio’r neges ymlaen.

Amser i feddwl

Meddyliwch am yr holl wasanaethau rydych chi wedi’u mwynhau yn yr ysgol.
Pa un oedd eich ffefryn?
Beth yw’r peth pwysicaf rydych chi wedi’i ddysgu?

Gweddi

Annwyl Dduw,
Diolch i ti am waith yr SPCK.
Diolch bod y sefydliad hwn wedi bod yn dysgu’r neges am gariad Duw, yn ffyddlon, am 300 mlynedd.
Bendithia’r rhai sydd, trwy’r SPCK, yn ysgrifennu deunydd defnyddiol fel y gall ysgolion fel ein hysgol ni ei ddefnyddio mewn gwasanaethau fel ein gwasanaeth ni heddiw.

Dyddiad cyhoeddi: Mawrth 2011    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon