Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Diwrnod Ar Gyfer Pobl Arbennig

Dathlu rôl y fam ac unrhyw un sy’n gofalu amdanom, hyd yn oed os nad hi oedd yr un a roddodd enedigaeth i ni.

gan Hayley Kearns

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Dathlu rôl y fam ac unrhyw un sy’n gofalu amdanom, hyd yn oed os nad hi oedd yr un a roddodd enedigaeth i ni.

Paratoad a Deunyddiau

  • Dim angen paratoi deunyddiau o flaen llaw.

Gwasanaeth

  1. Holwch y plant am unrhyw famau y maen nhw’n gwybod amdanyn nhw, o storïau, llyfrau neu ffilmiau. Trafodwch sut rai oedd y mamau hynny. Pa rinweddau sy’n perthyn i fod yn fam?

    Pwysleisiwch nad y gwasanaeth yw’r lle i drafod storïau personol, ond os oes rhywun eisiau dweud rhywbeth am eu mam wrth yr athro neu athrawes, fe allen nhw wneud hynny wedyn ar ôl y gwasanaeth (gwiriwch hyn gydag athrawon y dosbarthiadau).

  2. Gofynnwch i’r plant restru’r rhinweddau sy’n gwneud mam dda. Fe fyddan nhw’n debyg o awgrymu bod mam dda yn garedig ac yn gofalu amdanyn nhw, ac ati . . . .  

Gofynnwch i’r plant a yw hi’n bosib dod o hyd i’r holl rinweddau a nodwyd mewn un person. Trafodwch pa mor rhyfeddol yw ein mamau. Maen nhw’n paratoi bwyd i ni, yn gofalu amdanom ni, yn ein dilladu ni, yn gwrando arnom ni, ac ati.

(Efallai y bydd rhai plant yn awyddus i siarad am gymeriadau mewn storïau neu ffilmiau sydd heb fod yn  gymeriadau mor gadarnhaol â hynny. Eglurwch y gallech chi drafod y rheini ar achlysur arall, ar adeg wahanol i adeg gwasanaeth. Mae cefnogaeth fugeiliol i’w chael mewn sawl ysgol.)

  1. Mae’n bosib bod rhai plant heb fam yn y cartref - ond mae rhywun arall yn gwneud yr holl bethau hyn rydyn ni wedi cyfeirio atyn nhw heddiw - efallai mai eich tad sy’n gwneud y pethau yma, neu ei bartner, taid neu nain, neu rywun arall . . . . Beth bynnag, mae gennym ni i gyd rywun sy’n gofalu amdanom.

  2. Darllenwch i’r plant y rhan sy’n dilyn o’r Beibl:

‘Am hynny, fel etholedigion Duw, sanctaidd ac annwyl, gwisgwch amdanoch dynerwch calon, caredigrwydd, gostyngeiddrwydd, addfwynder ac amynedd’ (Colosiaid 3.12–17).

  1. Does dim un fam yn berffaith, yn union fel y byddwch chi blant ddim yn blant perffaith bob amser.

  2. Mae Sul y Fam yn rhoi cyfle i ni ddiolch i’n mamau, neu’r rhai sy’n gofalu amdanom, am fod yr un ydyn nhw, a diolch iddyn nhw am ein caru a gofalu amdanom.

  3. Mae rhai Cristnogion wedi disgrifio Duw fel ‘mam’, am fod Duw yn ein caru ni i gyd ac yn gwneud popeth y bydden ni’n disgwyl i’r fam berffaith, neu’r gofalwr perffaith, ei wneud.

Amser i feddwl

Gofynnwch i’r plant feddwl am bwy bynnag sy’n gofalu amdanyn nhw yn eu cartrefi. (Mae’n bosib i chi chwarae cerddoriaeth  addas yn y cefndir wrth iddyn nhw wneud hyn, gwelwch awgrymiadau’n dilyn).

Gweddi
Heddiw rydyn ni’n diolch am ein mamau a’r rhai sy’n gofalu amdanom.
Gadewch i ni ofyn i Dduw eu bendithio bob dydd,
A’n helpu ni i’w caru fel maen nhw’n ein caru ni.

Cân/cerddoriaeth

Thinking of You’, Lenny Kravitz
A Mother’s Prayer’, Celine Dion
A Mother’s Love’, Diana Ross
Teach Your Children’ Crosby, Stills, Nash and Young
Mother and Child Reunion’, Paul Simon

Dyddiad cyhoeddi: Ebrill 2011    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon