Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Dydi Hi Byth Yn Rhy Hwyr: Stori Jenny Wood Allen

Dysgu bod unrhyw beth yn bosib os gallwn ni roi ein meddwl ar waith.

gan Janice Ross

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Dysgu bod unrhyw beth yn bosib os gallwn ni roi ein meddwl ar waith.

Paratoad a Deunyddiau

Gwasanaeth

  1. Holwch y rhai sydd yn y gwasanaeth heddiw pwy sy’n hoffi rhedeg ? (Neu rhowch sylw i’r rhai o gymuned yr ysgol sy’n dda am redeg, a’u llongyfarch.)

    Beth am redeg 26.2 milltir? Dyna faint yw hyd marathon, ac fe fydd miloedd o bobl yn rhedeg rasys marathon bob blwyddyn mewn dinasoedd mawr ledled y byd. Efallai eich bod wedi clywed am farathon Efrog Newydd neu Farathon Rhufain.

  2. Ras farathon fawr bwysig yw Marathon Llundain, sy’n cael ei chynnal eleni ar 17 Ebrill.

    Dychmygwch 35,000 o bobl yn dod at ei gilydd yn barod i gychwyn rhedeg. Allwch chi ddychmygu’r cyffro wth iddyn nhw ymgasglu?

    (Dangoswch ddelweddau oddi ar dudalen gartref gwefan Marathon Llundain.)

    Ac yna, i ffwrdd â nhw, ar gyflymdra cyson i ddechrau mae’n debyg. Fe fydd y rhedwyr mwyaf profiadol ar y blaen wrth gwrs yn gosod y cyflymdra cystadleuol o’r dechrau. Yna, fe fydd y rhedwyr hynny sy’n rhedeg gyda’i gilydd fel grwpiau o redwyr o wahanol glybiau neu gymdeithasau o wahanol rannau’r wlad. Fe fyddan nhw’n cadw gyda’i gilydd er mwyn annog y naill a’r llall. Hefyd, fe fydd rhai yn rhedeg i godi arian at elusennau ac achosion da, rhai ohonyn nhw mewn gwisg ffansi yn aml. Mae pob math o bobl yn rhedeg mewn marathon.

    Dychmygwch eto 35,000 o bobl yn rhedeg, yn jogio, yn cerdded, ac yn gwegian hefyd wrth i’r dydd fynd yn ei flaen.

  3. Yr un a enillodd y ras yn Llundain yn 1996 oedd Liz McColgan o Dundee. Pwy sydd wedi clywed sôn amdani hi ?

    Roedd yr un a orffennodd y ras honno yn olaf yn dod o Dundee hefyd. Ei henw hi oedd Jenny Wood Allen. Does dim disgwyl i chi fod yn gyfarwydd â’i henw hi. Wedi’r cyfan, does dim llawer o sylw’n cael ei roi i’r rhai sy’n dod yn olaf mewn ras. Ond beth os yw’r rhedwr yn 85 oed? Fe fyddai hwnnw’n gyflawniad gwerth rhoi sylw iddo.

    Yn wir, roedd Jenny Wood Allen bron mor enwog â Liz McColgan ar y pryd. Pan oedd Liz McColgan yn 70 oed, fe ddaliodd hi’r awydd heintus o fod eisiau rhedeg, ac fe ddechreuodd arni. Ar y dechrau, fe fyddai hi’n rhedeg gyda’i bag siopa yn ei llaw, rhag tynnu gormod o sylw ati ei hun. Yr unig gwyn oedd ganddi yn nyddiau cynnar ei hymarfer oedd na allai ddod o hyd i neb a oedd yn rhedeg yn ddigon araf i gydredeg â hi.

  4. Rhedodd Jenny ei marathon gyntaf yn 71 oed. Ym Marathon Dundee yn 1985 fe orffennodd y ras mewn 4 awr 21 munud, er gwaethaf rhybudd gan ei doctor y byddai’n cymryd naw awr i redeg y cwrs. Pan oedd hi’n 90 oed fe redodd Farathon Llundain. Yr hyn a ddywedodd ar y diwedd oedd, ‘I feel just a bit disappointed that it took me so long.’ Ond fe allai gael ei hesgusodi am hynny’n siwr, gan iddi gwympo yn ystod y ras ac anafu ei phen, ac roedd hi ar feddyginiaeth hefyd at boenau yn ei chymalau.

    Fe redodd ei marathon olaf pan oedd hi’n 91 oed.

  5. Fe ddaeth Jenny yn enwog ledled y byd am ei pherfformiad ymdrechgar, ac roedd hi’n gyfeillgar ag athletwyr eraill a phobl y cyfryngau ac yn uchel ei pharch yng ngolwg llawer iawn o bobl. Cododd dros £30,000 at elusennau. Cafodd ei noddi gan Syr Richard Branson hyd yn oed.

    Bu farw Jenny ar 30 Rhagfyr 2010, yn 99 oed, yn ei thref enedigol, Dundee.

  6. Cafodd llawer o bobl oedrannus eu hysbrydoli gan yr hyn a wnâi Jenny. Fe ddywedodd ei mab, Keneth, ‘She showed older people what they could achieve, and that older age shouldn’t be seen as a time to stop doing things.’ Roedd Jenny wedi dangos i bobl beth oedd yn bosib ei gyflawni ac, os ydyn nhw’n gallu dal ati, na ddylai pobl roi’r gorau i wneud pethau oherwydd eu bod yn mynd yn hyn .

Amser i feddwl

Meddyliwch am Jenny fel esiampl o rywun oedd  yn ddewr ac yn llawn dyfalbarhad.
Pa nod sydd gennych chi ar y cam yma yn eich bywyd?
Pa mor galed ydych chi’n dyfalbarhau?

Gweddi

Annwyl Dduw,
Diolch i ti am yr esiampl gawn ni ym mywyd Jenny Wood Allen.
Diolch i ti am ei dewrder, ei gwaith caled, a’i dyfalbarhad arbennig.
Helpa fi i arddangos yr un math o rinweddau yn fy mywyd innau.

Dyddiad cyhoeddi: Ebrill 2011    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon