Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Parau

Ystyried pa mor bwysig yw bod yn ofalgar tuag at bobl efallai dydyn ni ddim yn meddwl llawer amdanyn nhw fel arfer.

gan Rebecca Parkinson

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Ystyried pa mor bwysig yw bod yn ofalgar tuag at bobl efallai dydyn ni ddim yn meddwl llawer amdanyn nhw fel arfer.

Paratoad a Deunyddiau

  • Paratowch ddarnau o bapur (maint A4, wedi’u torri ar eu hyd) gyda thua 20 o eiriau sy’n mynd gyda’i gilydd (gall y rhain fod yn eiriau croes ystyr) wedi’u hysgrifennu fesul un ar y papurau. Er enghraifft:

    cwpan - soser, fforc - cyllell, i fyny - i lawr, golau - tywyll, poeth - oer
    pensil - papur, tew - tenau, ceffyl - trol, llaw - maneg, chwith - dde
    bwrdd - cadair, cyflym - araf, caws - bisgedi, da - drwg, goleuni - tywyllwch
    du - gwyn, distaw - swnllyd, crys - tei, esgidiau - hosanau, pupur - halen
  • Cardiau (hen gardiau cyfarch fel cardiau pen-blwydd neu gardiau Nadolig) wedi’u torri yn eu hanner mewn gwahanol ffyrdd – tua 20 o gardiau – ar gyfer cam 2.

Gwasanaeth

Cyn i’r plant ddod i mewn i’r gwasanaeth, gwasgarwch y darnau papur gyda’r geiriau arnyn nhw ar lawr y neuadd yn y tu blaen.

  1. Gofynnwch am ddau wirfoddolwr a rhannwch weddill y gynulleidfa drwy’r canol yn ddau dîm. Eglurwch iddyn nhw, pan fyddwch chi’n dweud ‘Ewch!’, rydych chi eisiau i’r gwirfoddolwyr gasglu dau air sy’n mynd gyda’i gilydd a’u rhoi i blentyn yn eu tîm i’w dal i fyny. (Gall y plant yma fydd yn derbyn y parau geiriau ddod i’r tu blaen i’w dangos i’r gynulleidfa.) Fe ddylai’r ddau wirfoddolwr barhau i geisio dod o hyd i ragor o barau (gan eu pasio i wahanol blant yn eu tîm) nes bydd y geiriau i gyd wedi eu matsio.

    Ar ôl iddyn nhw gasglu’r cyfan bydd angen i chi gyfrif sawl un mae pob tîm wedi llwyddo i’w paru.

  2. Eglurwch eich bod nawr eisiau dau blentyn arall (neu bedwar, gyda dau blentyn ym mhob tîm) i chwarae gem arall debyg. Gofynnwch i’r gwirfoddolwyr droi eu cefnau arnoch chi a pheidio ag edrych tra byddwch chi’n gosod y darnau cardiau cyfarch ar lawr eto fel gwnaethoch chi gyda’r geiriau. Gofynnwch i’r plant yn y gynulleidfa gyfrif i lawr gyda chi o ddeg i un tra byddwch chi’n gwneud hynny. Yna, fe fydd y timau’n troi rownd ac yn ceisio dod o hyd i gymaint ag a allan nhw o’r darnau sy’n matsio. Y bwriad yw i’r timau wneud cerdyn a dod o hyd i gymaint ag sy’n bosib, a’u pasio i aelodau eu tîm i’w dal, fel o’r blaen.

    Eto, fel gyda’r geiriau, cyfrwch y cardiau i weld pa dîm sy’n ennill.

  3. Wedyn, ewch ati i sôn gyda’r plant ei bod hi’n ddiddorol sylwi, yn union fel mae’r geiriau yma sydd gennych chi’n cysylltu â’i gilydd, a’r darnau cardiau’n matsio, fe fyddwn ni weithiau’n cwrdd â phobl yr ydyn ni’n teimlo ar unwaith eu bod yn gallu cysylltu â nhw. Rydyn ni’n hapus yn eu cwmni. Fe allwn ni gael hwyl efo nhw. Rydyn ni’n teimlo’n gyfforddus yn eu cwmni, yn ei chael hi’n hawdd siarad â nhw, ac yn ei chael hi’n hawdd bod yn ffrindiau â nhw.

    Ar y llaw arall, mae rhai pobl sydd ddim mor hawdd cysylltu â nhw. Efallai eu bod yn swil, efallai eu bod yn rhy swnllyd! Efallai eu bod yn rhy ddrwg - neu hyd yn oed yn rhy dda!

  4. Yn y Beibl, mae Iesu’n ein dysgu sut y dylen ni drin pobl eraill sydd ddim yn boblogaidd iawn, neu sy’n anodd gwneud ffrindiau â nhw. Fe fyddai Iesu’n aml yn treulio amser gyda phobl a oedd yn amhoblogaidd neu’n cael eu hamau gan y bobl oedd o’u cwmpas. Er enghraifft:

    Sacheus – casglwr trethi, a oedd yn mynd ag arian oddi ar bobl .

    Simon – un o ddisgyblion Iesu a oedd yn un o’r Selotiaid (pobl a oedd yn ymwneud â gweithredu’n dreisgar yn erbyn yr Awdurdod Rhufeinig oedd yn cael eu galw’n Selotiaid).

    Mathew – un o ddisgyblion Iesu a oedd yn gasglwr trethi (roedd casglwyr trethi’n bobl amhoblogaidd iawn yn adeg y Beibl).

    Mae Iesu’n rhoi esiampl ardderchog i ni i’w hefelychu. Fe ddylem ninnau, fel gwnaeth Iesu, geisio gwneud ymdrech i fod yn gyfeillgar tuag at bobl dydyn ni ddim yn hoff iawn ohonyn nhw. Fe ddylem gofio bod pawb yn arbennig mewn rhyw ffordd . . . dim ond ei bod yn cymryd tipyn bach mwy o amser i ddod o hyd i ochr dda rhai pobl!

Amser i feddwl

Oes rhywun rydych chi’n ei chael hi’n anodd eu hoffi? Beth am i chi benderfynu ceisio siarad ag ef neu hi heddiw, a cheisio meddwl beth yw’r pethau da am gymeriad y rhywun hwnnw? Efallai y cewch chi eich synnu pa mor hoffus yw’r unigolyn wedi i chi wneud ymdrech i fod yn gyfeillgar a bod yn ei gwmni.

Gweddi

Annwyl Dduw,
Diolch ein bod ni i gyd yn arbennig yn dy olwg di.
Diolch dy fod wedi ein gwneud ni i gyd yn unigolion gwahanol.
Helpa ni i chwilio am rinweddau’r rhai sydd o’n cwmpas ni.
Helpa ni i edrych ymhellach na’r cylch o ffrindiau agosaf,
er mwyn i ni allu gweld rhai sydd efallai ar ben eu hunain, yn unig ac eisiau rhywun i siarad â nhw.

Dyddiad cyhoeddi: Ebrill 2011    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon