Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Anrheg Werthfawr

Meddwl am neges y Pasg.

gan Susan MacLean

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Meddwl am neges y Pasg.

Paratoad a Deunyddiau

  • Bathodynnau gan rywun sy’n rhoi gwaed yn gyson, bathodynnau efydd, arian ac aur, o bosib.

Gwasanaeth

  1. Dywedwch wrth y plant pa mor aml y byddwch chi (neu’r un sydd wedi rhoi benthyg y bathodynnau i chi) yn rhoi gwaed. Eglurwch pam y mae pobl yn gwneud hyn (er mwyn helpu i achub bywyd pobl eraill), beth sy’n digwydd a faint o amser mae’n ei gymryd - a chofiwch sôn am y gwpanaid o de a’r bisgedi ar y diwedd.

  2. Oes rhywun yn y gynulleidfa wedi cael gwobr neu fathodyn arbennig am wneud rhywbeth, ryw dro? Rhowch gyfle i’r plant ddweud eu hanes, a chofiwch eu canmol. Dangoswch y bathodynnau sydd gennych chi. Wrth roi gwaed, mae pobl yn cael bathodynnau fel y rhain. Pwy sy’n gallu dyfalu sawl gwaith y mae’n rhaid i rywun roi gwaed cyn cael y bathodynnau yma? Bathodyn efydd = 10, arian = 25, aur = 50.

    Allwch chi ddim rhoi gwaed yn amlach na thair gwaith y flwyddyn, a rhaid i chi fod yn iach ac yn ffit bob tro. Felly mae’n gyflawniad arbennig iawn i ennill bathodyn fel un o’r rhain. Mae gwaed yn hanfodol er mwyn i ni gyd allu byw. Os collwn ni lawer iawn o waed ar yr un adeg mae’n bosib i ni farw. Ond, wrth roi ychydig yn ysbeidiol, fe allwn ni roi llawer o waed. Fe fydd ein corff yn gallu ei ail gynhyrchu bob tro.

  3. Mae’r Beibl yn dweud wrthym fod Iesu wedi dod i ddangos i ni sut un yw Duw, a dangos faint mae Duw’n ein caru ni. Ar adeg y Pasg, fe fyddwn ni’n meddwl am Iesu’n marw ar y groes, a sut y daeth Duw ag ef yn ôl yn fyw dri diwrnod yn ddiweddarach. Mae bywyd Iesu fel rhodd Duw i’r byd.

  4. Gofynnwch i’r plant i gyd godi eu dwylo, y ddwy law - fe allech chithau godi eich dwy law hefyd, er mwyn profi pwynt. Dywedwch wrth bawb am roi un llaw i lawr os ydyn nhw erioed yn eu bywyd wedi dweud celwydd; rhowch un llaw i lawr os ydych chi ddim erioed wedi cweryla gyda’ch brawd, eich chwaer, eich tad neu eich mam; rhowch un llaw i lawr os ydych chi bob amser wedi gwneud rhywbeth y mae rhywun wedi gofyn i chi ei wneud; rhowch un llaw i lawr os ydych chi ddim erioed wedi bod yn ddrwg eich hwyl.

    Mwy na thebyg, os yw pawb yn onest, fe fydd pawb â’i ddwylo i fyny o hyd. Mae hynny’n golygu ein bod i gyd weithiau’n dweud neu’n gwneud rhai pethau rydyn ni’n gwybod na ddylem ni eu gwneud.

  5. Fe gymrodd hi 10, 25 neu 50 tro o roi gwaed i gael y bathodynnau yma, ond dim ond unwaith y bu’n rhaid i Iesu ddod i’r ddaear er mwyn i ni allu gweld sut un yw Duw mewn difrif.

  6. Mae ein gwaed yn werthfawr, a phan fyddwch chi’n ddigon hen, fe allwch chithau fel finnau roi ein gwaed fel y gall pobl eraill fyw. Mae bywyd pawb yn werthfawr, ac roedd bywyd Iesu’n werthfawr iawn.

Amser i feddwl

Pan fyddwn ni’n hyn, fe fyddwn ni’n gallu rhoi gwaed, a bydd hynny efallai’n gallu helpu i arbed bywyd rhywun arall. Ar adeg y Pasg, rydyn ni’n cofio am Iesu’n dod i ddangos i ni sut un yw Duw. Beth allwn ni ei wneud heddiw i rannu cariad Duw a phobl eraill?

Gweddi

Diolch, Dduw, ei bod yn bosib i ni wneud rhywbeth, fel rhoi gwaed,
fel y gall arbed bywyd rhywun arall.
Wrth i ni fwyta ein hwyau Pasg, helpa ni i gofio

bod Iesu wedi dod i’r byd fel y gallwn ni fyw gydag ef am byth.

 

Dyddiad cyhoeddi: Ebrill 2011    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon