Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Ffyddlondeb: Nodi diwedd Mis Cenedlaethol Anifeiliaid Anwes

Annog y ddealltwriaeth bod cariad yn dod â chyfrifoldeb.

gan Janice Ross

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 1

Nodau / Amcanion

Annog y ddealltwriaeth bod cariad yn dod â chyfrifoldeb.

Paratoad a Deunyddiau

  • Dewisol: delweddau o gwn a chwn bach Miniature Schnauzer oddi ar Google images (gwiriwch yr hawlfraint) – yn ddelfrydol dewiswch un yn dangos rhai lliw ‘pupur a halen’ ac un arall yn dangos rhai lliw ‘du ac arian’.
  • Delwedd o berchennog cwn yn dal pum ci bach Miniature Schnauzer, eto oddi ar Google images (gwiriwch yr hawlfraint).

Gwasanaeth

  1. Bu’r mis diwethaf (mis Ebrill) yn Fis Cenedlaethol Anifeiliaid Anwes. Fe hoffwn i ddweud stori wrthych chi heddiw am gwn bach.

    Ar 9 Rhagfyr 2010, fe gafodd Skara ei chwn bach cyntaf. Dwy oed ydi Skara, gast Miniature Schnauzer. Mae hi’n anifail hyfryd. Hi yw mam y cwn bach rydw i am sôn amdanyn nhw.

    (Dewisol : dangoswch ddelwedd o’r cwn bach Mini Schnauzer, rhai lliw ‘pupur a halen’.)


    Mae Skara’n ddeallus iawn, ac fe wnaeth hi waith da a gofalus iawn wrth roi genedigaeth i’w chwn bach. Fel roedd pob ci bach yn cael ei eni, roedd hi’n ei lyfu’n lân ac yn gofalu ei fod yn sych ac yn gynnes. Roedd Mr a Mrs Ross, perchnogion Skara yn falch iawn ohoni ac wrth eu bodd.

    Y diwrnod wedyn fe ddaeth y milfeddyg i weld y cwn bach, ac wedi archwilio pob un fe ddywedodd wrth Mr a Mrs Ross fod pob un o’r cwn bach yn holliach. Roedd pedwar o’r cwn bach yn wryw ac un yn fenyw. Fe fyddai pedwar ohonyn nhw’n debyg i Skara, lliw ‘pupur a halen’, ac un yn debyg i’w dad, yn lliw ‘du ac arian’.

    (Dewisol : dangoswch ddelwedd o’r cwn bach Mini Schnauzer, rhai lliw ‘du ac arian’.)

    Roedd yr wythnosau cyntaf yn ddyddiau hapus a thawel iawn. Wrth i Mrs Ross lapio anrhegion ac ysgrifennu cardiau Nadolig roedd Skara wrthi’n bwydo’i chwn bach ac yn eu llyfu’n lân. Y rhan fwyaf o’r amser, swatio yn ymyl eu mam yr oedd y cwn bach, yn sugno ac yn cysgu. Yn awr ac yn y man fe fyddai Mrs Ross yn clywed gwich fach neu swn tuchan bach yn dod o’u cyfeiriad. Roedd y fam a’i chwn bach yn aros yn y bocs mawr cyfforddus yng nghanol y blancedi cynnes.

    Ym mis Ionawr, fe rannodd Mrs Ross y bocs yn ddwy ran. Yn un pen roedd y blancedi a’r gwely clyd, ond yn y pen arall roedd hi wedi gosod haenau o hen bapurau newydd. Y bwriad oedd annog y cwn bach i fynd i’r toiled ar y papur. Ac roedd Mrs Ross wedi rhyfeddu pa mor fuan y daeth y cwn bach i ddeall beth yr oedd yn rhaid iddyn nhw’i wneud.

    Wrth iddyn nhw dyfu, roedd y cwn bach yn mentro crwydro mwy, ac roedd y ddau fach mwyaf mentrus, Ben a Mwffi wedi gallu dringo allan o’r bocs yn fuan iawn. Cyn hir, roedd y tri arall Gelert, Siân a Pepsi bach wedi gallu eu dilyn hefyd.

    Er mor dda oedd gweld y cwn bach yn tyfu’n gryf ac yn dechrau crwydro i archwilio’r byd o’u cwmpas, roedd llawr y gegin yn arwynebedd mawr iddyn nhw bi-pî arno! Ac mae pum ci bach yn gallu gwneud lot o bi-pî! Gofynnodd Mrs Ross i’w chymdogion oedd ganddyn nhw hen bapurau newydd allai hi eu cael i’w rhoi dros lawr y gegin. Gan nad oedd y cwn bach wedi cael eu brechiadau eto, doedden nhw ddim yn cael mynd allan i’r ardd. Fe fyddai pethau’n haws wedyn, mae’n debyg.

    Ar ôl byw am bum wythnos ar laeth gan eu mam Skara, fe ddechreuodd hi ddangos i’w chwn bach nad oedden nhw angen sugno trwy’r amser. Fe fyddai hi’n eu bwydo pan oedd angen wrth gwrs, ond weithiau fe fyddai arni eisiau llonydd ac fe fyddai’n neidio i’r bocs. Roedd hi’n gyfrwys. Fe allai pob un o’r cwn bach grafangio allan o’r bocs, ond doedd dim un wedi meistroli’r gamp o ddringo’n ôl i’r bocs. Heddwch am funud, meddyliai Skara., ac fe fyddai’n gorwedd yn fodlon yn ei bocs am sbel.

    Yn fuan, fe ddaeth yn amser i’r cwn bach fwyta bwyd soled a byw ar rywbeth mwy na llaeth eu mam, ac roedden nhw’n dechrau cael bwyd i’w fwyta a oedd yn addas i gwn bach. Canlyniad hynny wrth gwrs oedd nid dim ond pi-pî yr oedd y cwn bach yn ei wneud ar y llawr wedyn! Ac yn aml iawn, doedd yr hyn roedd y cwn bach yn ei wneud ddim yn glanio ar y papur newydd ychwaith! Fe ddaeth yn amser hyfforddi’r cwn bach go iawn, a’u dysgu i fynd allan i wneud eu busnes mewn man neilltuol. Erbyn hyn, roedden nhw wedi cael eu brechu ac felly roedd hi’n ddiogel iddyn nhw fynd allan i’r ardd.
    (Dangoswch y llun o’r perchennog yn dal pum ci bach yn ei freichiau.)

    Roedd y pump wrth eu bodd allan yn yr ardd. Roedden nhw’n cael rowlio ar hyd y glaswellt, rhedeg rhwng y llwyni yno, a chael hwyl fawr yn chwarae gyda’i gilydd. Yno hefyd, yng nghornel yr ardd, yr oedden nhw i fod i ‘fynd i’r toiled’!

    ‘Da iawn! Ci da!’ Roedd yn rhaid eu canmol bob tro y bydden nhw’n llwyddo i wneud eu busnes yn y lle iawn. Ond, mae’n waith caled gwylio a hyfforddi pump o gwn bach bywiog ar yr un pryd. A doedd y tywydd ddim yn braf iawn ychwaith i Mr neu Mrs Ross aros allan gyda nhw i’w gwylio yn ystod misoedd dechrau’r flwyddyn. (Efallai bod yr athro neu’r athrawes sydd ar ddyletswydd ar yr iard amser chwarae yn teimlo fel roedd Mrs Ross yn teimlo ambell ddiwrnod!)

    Ac wedyn, bob tro, fe fyddai’n rhaid cael y cwn bach yn ôl i’r ty.

    Ydych chi’n hoffi dod yn ôl i’r dosbarth pan fydd y gloch yn mynd a chithau’n cael hwyl ac efallai ar ganol gêm ambell waith? Na? Wel, felly roedd y cwn bach yn teimlo hefyd. Doedd pethau ddim yn rhy ddrwg yn ystod y dydd, roedd hi’n olau ac yn bosib gweld y cwn bach a’u dal. Ond, yn ystod y nos roedd hi’n anodd, ac roedd hi’n tywyllu’n weddol gynnar. Doedd dim posib eu gweld na gwybod ble roedden nhw. Mae hyfforddi cwn bach i fynd allan i wneud eu busnes yn waith sy’n gofyn am lawer o amynedd a dyfalbarhad. Mae’n rhaid codi yng nghanol y nos weithiau os bydd un o’r cwn bach yn swnian eisiau mynd allan. Yn aml, fe fyddai Mr a  Mrs Ross yn clywed swn bach tua 2 neu 4 o’r gloch y bore, ac fe fydden nhw’n codi er mwyn i’r ci bach gael mynd allan i’r ardd. Mor hawdd fyddai iddyn nhw droi drosodd a mynd yn ôl i gysgu gan ddweud, ‘O! Fe gaiff wneud ar y papur ac fe wnawn ni glirio’r llanast yn y bore.’ Ond, na, wrth hyffordd mae’n rhaid dal ati trwy’r amser a gwneud y gwaith yn iawn. A phan fydd rhywun yn hyfforddi ci bach yn barod er mwyn iddo gael mynd i fyw gyda pherchennog newydd, rhaid gwneud eich gorau i’w hyfforddi’n ifanc. Mae’n llawer haws dysgu rhywbeth pan fyddwch chi’n ifanc. Mae plant bach yn dysgu pethau’n gyflym iawn. Mae’r un peth yn wir am gwn bach hefyd.

    (Dangoswch lun o gi bach yn chwarae.)

    Er mor galed oedd y gwaith o ofalu am y cwn bach, roedd yn werth chweil eu gweld yn chwarae’n hapus. Roedden nhw wrth eu bodd yn cnoi teganau meddal, yn eu hysgwyd a’u taflu i’r awyr, ac wrth eu bodd yn chwarae tynnu hen hosan gyda Skara. Roedd y cwn bach mor annwyl, roedd pawb oedd yn ymweld â nhw’n gwirioni’n lân. Does fawr ddim byd delach na chi bach yn hel mwythau gennych chi.

    Erbyn canol mis Chwefror, roedd pedwar o’r cwn bach wedi symud i gartrefi eraill gyda pherchnogion newydd. Dim ond Siân sydd ar ôl gyda Skara erbyn hyn, ac yn fuan fe fydd hithau’n symud i gartref newydd. Bydd Siân yn cael ei hail frechiad yn fuan, ac wedyn fe fydd yn gallu mynd am dro gyda Skara. Fe fydd yn rhaid ei dysgu i gerdded ar dennyn, ac fe fydd yn rhaid iddi arfer gyda swn ceir yn gwibio heibio iddi ar hyd y ffordd. Hefyd, fe fydd yn rhaid iddi ddysgu ymateb i gyfarwyddiadau fel ‘Eistedd!’, ‘Gorwedd!’ a ‘Tyrd yma!’ Ac felly mae’r hyfforddiant yn mynd yn ei flaen. Ar hyn o bryd mae Skara a Siân yn swatio yn ymyl Mrs Ross yn cysgu’n braf a phawb yn hapus - Mrs Ross wedi golchi llawr y gegin am y milfed tro. Ond, mae’r cyfan wedi bod yn werth y drafferth.

  2. Trafodwch:

    Beth yw’r pethau da ynghylch bod yn berchen ar gwn bach?
    Beth sy’n anodd wrth eu magu?
    Holwch y rhai sy’n berchen ar gi ydyn nhw’n gwybod faint o amser gymrodd i’w hyfforddi?
    Faint o amser fydd angen i ddysgu Siân i gerdded yn ufudd ar y tennyn ac i ddod pan fydd rhywun yn galw, ‘Tyrd yma!’?
    Pa gyfrifoldebau eraill fydd gan y perchnogion newydd tuag at eu ci bach?
    Nodwch faint o waith sydd angen ei wneud pan fydd rhywun yn magu ci bach.
    Nodwch y gair ‘ffyddlondeb’ fel priodwedd angenrheidiol i fod yn berchennog newydd.
    Pwysleisiwch fod yn rhaid i ni fod yn barod i gymryd cyfrifoldeb i ofalu amdano pan fyddwn ni’n caru ci bach - yn union fel pan fyddwn i’n caru unigolyn arall.

Amser i feddwl

Dangoswch y ddelwedd o’r pum ci bach yn cael eu cofleidio gan eu perchennog.
Pa eiriau allwch chi eu defnyddio i ddisgrifio’r llun yma?
Yn awr, meddyliwch am berchennog yn mynd ag un o’r cwn bach am dro allan cyn mynd i’w wely ar noson stormus a’r glaw yn arllwys i lawr.
Pa eiriau allwch chi eu defnyddio i ddisgrifio’r perchennog?

Gweddi

Annwyl Dduw,

Rydyn ni’n diolch am gwn bach tlws fel rhai Skara.
Diolch i ti am y perchnogion newydd i gyd,  
a gofynnwn i ti  helpu’r perchnogion i fod yn ffyddlon wrth ofalu am y cwn bach.
Gofynnwn, hefyd, y gwnei di helpu pob un ohonom ninnau yma heddiw i fod yn garedig wrth anifeiliaid rydyn ni’n gwybod amdanyn nhw.

Dyddiad cyhoeddi: Mai 2011    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon