Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Mae'n Dda Bod Yr Un Ydw I: Bod yn unigryw

gan Janice Ross

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 1

Nodau / Amcanion

Dathlu bod pob plentyn yn unigryw.

Paratoad a Deunyddiau

  • Bwrdd a bwrdd gwyn.
  • Bag dogfennau sydd â chlo cyfuno arno (combination lock).
  • Drych mawr wedi’i osod y tu mewn i’r bag dogfennau.

Gwasanaeth

  1. Eglurwch i’r plant eich bod wedi dod â rhywbeth arbennig iawn i’w ddangos iddyn nhw heddiw. Yn wir, dim ond un o’r peth arbennig hwn sydd yn y byd. Ond, mae gennych chi broblem. Mae’r peth arbennig hwnnw wedi ei gloi y tu mewn i’r bag dogfennau, neu’r cês, sydd gennych chi. Mae eich cês yn un o’r rheini sydd â chlo cyfun arno (combination lock), y math y mae pobl busnes neu athrawon efallai yn eu cario gyda nhw i’r gwaith, cês sy’n addas i ddal dogfennau pwysig.

    (Dangoswch y cês.)

    Er mwyn cadw dogfennau’n saff mewn cês fel hwn mae clo arbennig arno. Ac er mwyn gallu agor y clo, rhaid troi pedair olwyn fach i gael y pedwar rhif cywir, mewn rhes yn y drefn gywir, ac yna fe fydd y cês  agor.

    (Dangoswch y clo a cheisiwch agor y clo.)

    Yr anhawster sydd gennych chi yw dydych chi ddim yn cofio trefn y rhifau! Rydych chi’n gwybod mai 6, 9, 2 a 5 yw’r rhifau rydych chi angen eu defnyddio. Ond ym mha drefn? Rydych chi angen help.

    (Gofynnwch i’r plant awgrymu gwahanol gyfuniadau o’r pedwar rhif)

    Faint o wahanol rifau fedrwch chi eu gwneud wrth ddefnyddio’r pedwar rhif? Atgoffwch y plant mai dim ond un o’r awgrymiadau fydd yr un cywir.

    (Ysgrifennwch yr awgrymiadau ar y bwrdd gwyn.)

  2. (Smaliwch geisio agor y clo gyda rhai cyfuniadau o’r rhifau.)

    Eglurwch fod yr hyn rydyn ni’n ei weld yma yn debyg i raddau i chi a fi. Nid 6925 o bobl sydd yn y byd, nid 9652 o bobl hyd yn oed, ond miliynau o bobl. Er hynny, dim ond un ‘chi’ sydd yn y byd, a dim ond un ‘fi’. Dim ond un sydd yn y byd gyda lliw fy llygaid i yn union, dim ond un gyda fy olion bysedd, dim ond un gyda’r nifer hwnnw o bob blewyn gwallt sydd ar fy mhen. Yr un fath, dim ond un ‘chi’ sydd yn y byd gyda lliw eich llygaid chi yn union, dim ond un gyda'ch olion bysedd chi, a dim ond un gyda’r nifer hwnnw o bob blewyn gwallt sydd ar eich pen. Dim ond un gyda’ch llais chi, a dim ond un gyda’r union ddoniau sy’n perthyn i chi.

  3. Nawr, efallai eich bod wedi clywed ffrindiau neu aelodau eich teulu’n dweud eich bod yn debyg i rywun o’r teulu, tipyn bach o’ch tad a’ch mam. Efallai bod gwallt cyrliog eich taid gennych chi, neu frychni haul eich nain. Efallai eich bod yn dda ym myd chwaraeon fel eich modryb Sara, efallai eich bod yn hoff o bysgod fel eich ewythr Tom, fe allech chi fod yn hoffi gorwedd yn yr haul fel y gath . . . ond chi ydych chi! Does dim un bod dynol arall fel chi yn y byd i gyd. Does neb yn edrych fel chi, neb yn meddwl fel chi, neb yn teimlo fel rydych chi’n teimlo, neb yn chwerthin fel chi, does neb yn gallu gwneud yr un pethau yn yr un ffordd yn union â chi, a does neb arall yn gallu bod yr hyn fyddwch chi. Hefyd, does neb yn gallu dod i adnabod Duw yn yr un ffordd ag rydych chi’n gallu dod i adnabod Duw.

  4. (Gosodwch y cyfuniad cywir o rifau ar glo eich cês. Cliciwch y clo i agor.)

    O! Da iawn! Dyna fi wedi cael y rhifau yn y drefn gywir. Nawr, pwy fyddai’n hoffi gweld beth sydd yn y cês? Pwy sydd eisiau gweld y trysor arbennig? Fel y dywedais i ar y dechrau, dyma’r unig un yn y byd. Rhywbeth unigryw iawn a hynod werthfawr. Os gwnaf i ddangos i chi beth sydd yma, wnewch chi addo peidio dweud wrth unrhyw un arall?

  5. Gofynnwch i nifer o blant ddod atoch chi i’r tu blaen at y bwrdd i weld y cês. Fesul un, ac yn eu tro, gadewch i bob un edrych i mewn i’r ces, ac edrych yn y drych sydd y tu mewn iddo, ble bydd pob un yn gallu gweld ei lun ei hun.

    Dywedwch wrth bob plentyn, ‘Wel! Dyna i chi drysor rhyfeddol!’

    Pwy sy’n gallu dyfalu beth sydd yn y cês?

Amser i feddwl

Yn y Beibl, mae’n dweud bod Duw wedi gwneud pob un ohonom yn ofalus iawn, a bod pob un ohonom ni’n arbennig iawn yn ei olwg.
Gadewch i ni ddarllen geiriau’r gerdd fach syml hon yn ddistaw i ni ein hunain, ac wedyn fe wnawn ni ei dweud gyda’n gilydd a meddwl am y geiriau yma heddiw.
Rydw i’n arbennig,
Felly mae Duw’n dweud,
Yn arbennig o ran fy ngolwg,
Yn arbennig yn y ffordd rydw i wedi cael fy ngwneud,
Wedi fy ngwneud yn arbennig i dyfu a mwynhau
popeth y mae Duw wedi ei wneud - gadewch i ni wir lawenhau.

 Gweddi

Annwyl Dduw,
Diolch fy mod i’n arbennig yn dy olwg di.
Diolch nad oes neb sy’n union yr un fath â fi yn y byd i gyd. Rydw i’n unigryw.
Mae hynny’n gwneud i mi deimlo’n dda amdanaf fy hun.

Dyddiad cyhoeddi: Mai 2011    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon