Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Y Ddringfa

Cyflwyno hanes Jake Meyer i’r plant, yr unigolyn ieuengaf i ddringo Mynydd Everest ar un adeg

gan Helen Redfern

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 2

Nodau / Amcanion

Cyflwyno hanes Jake Meyer i’r plant, yr unigolyn ieuengaf i ddringo Mynydd Everest ar un adeg (er bod ei record wedi ei thorri erbyn hyn), ac annog y plant i ystyried sut y mae’n bosib iddyn nhw fynd i’r afael â’u mynydd Everest personol eu hunain.

Paratoad a Deunyddiau

  • Casglwch wybodaeth am Jake Meyer o’r sgwrs a roddodd ym mis Rhagfyr 2010 ar noson cyflwyno gwobrau Cynllun Dug Caeredin; edrychwch ar ei wefan: www.jakemeyer.co.uk.
  • Y gerddoriaeth ‘The Climb’ gan Miley Cyrus, ar gael i’w llwytho i lawr (gwiriwch yr hawlfraint) – fe allech chi chwarae’r gân fel rhan o’r Amser i Feddwl, neu chwaraewch hi wrth i’r plant gyrraedd y gwasanaeth a phan fyddan nhw’n ymadael.
  • Paratowch bedwar darllenydd.

Gwasanaeth

  1. Arweinydd: Fe hoffwn i gyflwyno hanes Jake Meyer i chi, dringwr arbennig a gychwynnodd ar ddringfa ryfeddol.

    Yn 12 oed, doedd Jake ddim yn un da iawn am wneud unrhyw weithgaredd ym myd y chwaraeon traddodiadol. Doedd ganddo ddim diddordeb mewn pêl-droed. Roedd yn casáu rygbi. Awgrymodd un o’i ffrindiau y gallai roi cynnig ar ddringo. Dyna beth a wnaeth, ac roedd wrth ei fodd gyda’r gweithgaredd hwnnw.

    Yn 14 oed, darllenodd Jake erthygl am yr her o’r enw ‘Y Saith Copa’ (Seven Summits). Yr her oedd dringo mynydd uchaf pob cyfandir y byd. Ac fe feddyliodd Jake: ‘Rydw i eisiau gwneud hynny. Fe alla i wneud hynny. Ac, yn wir, fe wna i hynny.’

    Yn 15 oed, fe ddringodd fynydd Kilimanjaro, y mynydd uchaf yn Affrica. Erbyn yr oedd yn 21 oed, dim ond un o’r saith mynydd oedd ar ôl ganddo heb ei ddringo – Mynydd Everest, y mynydd uchaf yn y byd.

  2. Arweinydd: Ar ddiwrnod 61 o’i daith i geisio concro mynydd Everest, cychwynnodd Jake a’i dîm o’r gwersyll ar ran olaf ei daith i ben y mynydd. Er bod y tymheredd yn minws 30 gradd, a dim ond 30 y cant o’r ocsigen y byddwn ni’n ei anadlu fel arfer oedd yn yr aer, roedd hwyliau da ar Jake a’i benderfyniad yn gryf.

    Ond, fel roedd y diwrnod yn mynd yn ei flaen, roedd cyhyrau Jake yn dechrau gweiddi ‘Aros! Aros! Alli di ddim mynd ymlaen gam ymhellach!’ Roedd ei ysgyfaint yn fyr o anadl. Roedd ei galon yn curo’n drwm yn ei frest. Roedd ei goesau’n wan ac yn gollwng oddi tano ac yntau’n cwympo i’r eira. Codai ar ei draed eto, cerdded ychydig o gamau - a chwympo eto. Roedd yn cymryd ei holl egni i godi ei hun ar ei draed, cerdded gam neu ddau eto - ac yna suddo i’r eira unwaith eto.

    Meddyliodd fod ei ymdrech drosodd, ac na fyddai’n llwyddo i gyrraedd y copa. Edrychodd i fyny - roedd y copa i’w weld tua milltir oddi wrtho. Doedd dim gobaith iddo gyrraedd y gopa, meddyliodd. Roedd yr her yn ormod iddo. Fe fyddai’n rhaid iddo roi’r gorau iddi, ac yntau mor agos, ond mor bell hefyd.

    Yna, fe sylwodd ar ddarn o graig yn ymwthio allan o’r eira nifer o fetrau oddi wrtho. Tybiodd, pe byddai ddim ond yn gallu cyrraedd y graig honno, fe fyddai gymaint â hynny’n nes .... Fe ymdrechodd i godi ar ei draed, anwybyddodd y boen, cerddodd ymlaen a chyrraedd y graig! ‘Wel,’ meddyliodd, ‘os llwyddais i gyrraedd y graig yma, efallai y gallaf gyrraedd y graig nesaf acw.’

    Ac felly y daliodd ati, un cam bach ar y tro. Un fuddugoliaeth fach ar ôl y llall. Un nod bychan yn cael ei gyflawni, y naill ar ôl y llall yn eu tro.

    A do, fe gyrhaeddodd Jake Meyer gopa mynydd Everest. Ar y pryd, Jake oedd yr ieuengaf erioed i ddringo mynydd uchaf y byd.

  3. Arweinydd: Tybed a fydd unrhyw un sydd yn yr ystafell yma heddiw yn gwneud yr hyn a wnaeth Jake Meyer? Tybed a fydd unrhyw un sydd yma heddiw yn dringo i ben mynydd Everest? Efallai’n wir y bydd rhywun. Efallai na fydd. Wn ni ddim. Ond, fe wn i fod gan bob un ohonom ein mynydd Everest personol ein hunain i’w ddringo. Ein mynydd ein hunain yn ein bywyd - rhywbeth yr ydyn ni eisiau ei gyflawni, ond sy’n teimlo’n llawer rhy anodd i ni. Mae’n rhywbeth rydyn ni’n ymdrechu’n galed i’w wneud, rhywbeth sy’n teimlo mor anodd ei goncro â’r mynydd uchaf.

    Darllenydd 1: Rydw i eisiau nofio hyd y pwll nofio o un pen i’r llall, ond ar hyn o bryd dydw i ddim yn gallu nofio o gwbl. Fydda i byth yn gallu gwneud hynny.

    Darllenydd 2: Rydw i eisiau darllen llyfr o glawr o glawr, ond rydw i’n dal i gael trafferth i ddysgu darllen fy ngeiriau allweddol. Fydda i byth yn gallu darllen llyfr cyfan.

    Darllenydd 3: Rydw i eisiau bod yn ffrindiau eto gyda Katie, ond ar hyn o bryd dydyn ni ddim yn siarad â’n gilydd hyd yn oed. Fydda i byth yn gallu gwneud hynny.

    Darllenydd 4: Rydw i eisiau gallu mynd i gysgu heb adael y golau ymlaen, ond alla i ddim hyd yn oed mynd i fy ngwely heb i Mam fod i fyny’r grisiau efo fi. Fydda i byth yn gallu gwneud hynny.

  4. Arweinydd: Wrth i Jake Mayer edrych ar gopa mynydd Everest, meddyliai na fyddai byth yn gallu cyrraedd y top. Wrth i ni edrych ar ein nod terfynol, fe allai ymddangos yn amhosibl i ni a ninnau’n dweud, ‘Fydda i byth yn gallu gwneud hynny’.

    Ond pan rannodd Jake ei ddringfa yn dargedau llai a haws eu cyflawni, fe lwyddodd i gyrraedd y top. A phan fyddwn ninnau’n rhannu ein tasgau ni yn dargedau llai, a haws eu cyflawni, yna fe allwn ninnau ddechrau symud tuag at ein nod.

    Darllenydd 1: Rydw i’n mynd i ofyn i Mam fynd â fi i wersi nofio fel y gallaf weithio fy ffordd trwy’r gwahanol gamau, ac efallai y byddaf, ryw ddiwrnod, yn gallu nofio o’r naill ben i’r pwll nofio i’r llall.

    Darllenydd 2: Rydw i’n mynd i ganolbwyntio ar ddysgu darllen fy ngeiriau allweddol, ac yna symud ymlaen i’r targed dysgu nesaf. Wedyn, ryw ddiwrnod, fe fydda i’n gallu darllen llyfr cyfan

    Darllenydd 3: Rydw i’n mynd i wenu ar Katie y tro nesaf y gwelaf i hi, a dweud helo. Caf weld beth fydd yn digwydd ar ôl hynny.

    Darllenydd 4: Rydw i’n mynd i ofyn i Mam ddechrau symud i lawr y grisiau yn araf, un gris ar y tro, pan fydda i’n mynd i gysgu.

Amser i feddwl

Gadewch i ni i gyd dreulio moment yn meddwl am ein mynydd personol ein hunain wrth i ni wrando ar y geiriau yn y gân ‘The Climb’ gan Miley Cyrus (fe allech chi chwarae’r darn cerddoriaeth ar ôl i chi ddarllen y geiriau sy’n dilyn, yma. Mae’r geiriau’n addasiad o eiriau’r gân).

Oes breuddwyd ydych chi’n ei breuddwydio?
Oes llais bach yng nghefn eich meddwl sy’n dweud na wnewch chi byth lwyddo?
Oes rhwystrau o’ch blaen? Rhaid i chi ddal ati.
Rhaid i chi ddal i fynd.
Rhaid i chi barhau i ymdrechu, a dal i ddringo.

Dyddiad cyhoeddi: Mai 2011    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon