Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Diwrnod Y Nyrsys

Cydnabod a gwerthfawrogi gwaith y nyrsys, gan gyfeirio at fywyd Florence Nightingale.

gan The Revd Alan M. Barker

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 2

Nodau / Amcanion

Cydnabod a gwerthfawrogi gwaith y nyrsys, gan gyfeirio at fywyd Florence Nightingale.

Paratoad a Deunyddiau

  • Casglwch ddelweddau o Florence Nightingale, a lluniau o fyd gwaith nyrsio cyfoes – ar gael ar y rhyngrwyd (yn amodol ar hawlfraint).
  • Os oes rhai dosbarthiadau wedi astudio hanes Florence Nightingale yn ddiweddar fel rhan o’u gwaith yn y Cwricwlwm, fe allai’r gwasanaeth fod yn gyfle i’r plant gyflwyno’u gwaith.
  • Fe fyddai’n bosib rhoi gwahoddiad i nyrs ysgol neu nyrs gymuned ddod i gymryd rhan yn y gwasanaeth.
  • Gwefannau defnyddiol:
    Diwrnod Cenedlaethol y Nyrsys: http://www.rcn.org.uk/
    Amgueddfa Florence Nightingale http://www.florence-nightingale.co.uk/

Gwasanaeth

  1. Dechreuwch trwy ddweud bod 12 Mai yn cael ei adnabod fel Diwrnod y Nyrsys. Cafodd yr arloeswraig enwog ym myd nyrsio, Florence Nightingale, ei geni ar 12 Mai 1820.

  2. Rhowch fraslun o hanes Florence Nightingale i’r plant.

    Merch oedd wedi’i geni i deulu cyfoethog oedd Florence Nightingale a deimlai ei bod yn cael ei galw gan Dduw i helpu eraill. Roedd hi eisiau gweithio fel nyrs, ond doedd ei rhieni ddim eisiau iddi wneud hynny. Roedd Florence yn benderfynol, a doedd hi ddim am roi’r gorau i’w huchelgais. Yn y diwedd, yn 1851, fe fodlonodd ei thad iddi fynd i hyfforddi fel nyrs yn yr Almaen.

    Yn fuan wedyn, fe dorrodd Rhyfel y Crimea, ac fe aeth Florence ar daith hir gyda 38 o nyrsys eraill i ofalu am y milwyr a oedd wedi cael eu hanafu yn y rhyfel hwnnw.

    Roedd yr amodau yn yr ysbyty yn Scutari (yng ngwlad Twrci y dyddiau hyn) yn ddychrynllyd. Roedd yr ystafelloedd yn fudr ac yn orlawn. Roedd nifer o’r dynion a oedd wedi’u clwyfo ddim yn cael eu hymolchi na’u bwydo’n iawn. Ac fe welodd  Florence Nightingale bod nifer fawr o’r dynion yn marw o  ganlyniad i afiechydon a oedd yn cael eu hachosi gan y diffyg glanweithdra. Yn wir roedd mwy yn marw o’r afiechydon hyn nag a oedd yn marw o’u hanafiadau.

    Gyda’r nyrsys eraill, fe ofalodd Florence bod y milwyr yn cael gofal gwell. Sefydlodd gegin i ddarparu bwyd maethlon i’r cleifion, ac fe ofalodd bod yr ysbyty’n cael ei lanhau’n iawn i’w wneud yn lle mwy diogel a sicrhau bod y safon o hylendid yn well (eglurwch y term, hylendid).

    Gymaint oedd gofal Florence Nightingale a’i hymroddiad, fe fyddai’n aml yn mynd o gwmpas yr ysbyty yn ystod y nos i ofalu bod popeth yn iawn. Oherwydd hyn, fe ddechreuodd y milwyr clwyfedig ei galw’n ‘Lady of the Lamp’. Roedd gofal ac ymroddiad Florence Nightingale yn dod â chysur mawr i’r cleifion a llawer o anogaeth hefyd.

    Wrth i bobl ym Mhrydain ddod i wybod am ei gwaith, fe ddaeth Florence Nightingale yn arwres boblogaidd. Roedd yn rhannu ei sgiliau ac yn ymgyrchu am ofal gwell i bobl a oedd yn sâl. Trwy ei hesiampl, a’r llyfrau a ysgrifennodd, a’r ysgol hyfforddi a sefydlodd ar gyfer nyrsys, daeth pobl i ystyried nyrsio yn waith crefftus a phwysig.

  3. Myfyriwch ar y ffaith bod gofal iechyd modern wedi datblygu erbyn heddiw mewn ffyrdd na allai Florence Nightingale fyth fod wedi eu dychmygu. Ond mae nyrsio yn parhau i fod yn fynegiant pwysig o ofal a dynoliaeth.

  4. Gwahoddwch nyrs i siarad â’r gynulleidfa am y gwaith o nyrsio. Neu, trafodwch gydag aelodau o gymuned yr ysgol ble mae nyrsys yn gweithio, a beth maen nhw’n ei wneud. Gwahoddwch rai o gymuned yr ysgol i rannu eu profiadau. Efallai bod rhieni neu berthnasau rhai yn nyrsys. Efallai bod rhai wedi cael triniaeth gan nyrs neu nyrsys mewn ysbyty neu yn eu clinig lleol.

  5. Fe allech chi gyffwrdd â’r pwyntiau canlynol:

    - Erbyn heddiw mae nyrsio’n broffesiwn i ddynion a merched.
    - Mae nyrsys yn gofalu am bobl ar bob cam o’u bywyd - o’r adeg cyn eu geni, trwy blentyndod, a hyd ddiwedd eu hoes.
    - Mae nyrsys yn gweithio mewn gwahanol lefydd - nid yn unig mewn ysbytai, ond hefyd yn y syrjeri a’r clinig lleol, yn y gymuned, ac mewn ysgolion.
    - Mae nyrsys yn hybu byw’n iach hefyd, yn ogystal â gofalu am bobl sy’n sâl.
    - Mae sgiliau arbennig gan nyrsys, ac mae nifer yn arbenigwyr yn eu maes.
    - Mae pethau fel safon dda o hylendid, cyngor iechyd a chefnogaeth yr un mor bwysig heddiw ag oedden nhw yn ystod oes Florence Nightingale.

  6. Cyflwynwch yr emyn ‘Dwylo ffeind oedd dwylo Iesu’ (Caneuon Ffydd 372), a sylwch fod y gofal a ddangosodd Iesu tuag at bobl sâl wedi ysbrydoli Florence Nightingale.

Amser i feddwl

Gweddi

Wrth i ni gofio am waith Florence Nightingale, Gwraig y Lamp (the Lady of the Lamp)
rydyn ni’n gweddïo dros y rhai hynny sy’n gweithio fel nyrsys heddiw, yn ein hardal leol ni, a ledled y byd.
Gad i oleuni eu sgiliau gofalgar dawelu meddwl pawb sydd angen gwellhad, help a chysur.
Yn enw Crist,
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Mai 2011    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon