Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Peidio Barnu Llyfr Oddi Wrth Ei Glawr: Yr hwyaden a ddaeth yn seren bop

Myfyrio ar y syniad o dderbyn pobl am bwy ydyn nhw.

gan Emma Burford

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Myfyrio ar y syniad o dderbyn pobl am bwy ydyn nhw.

Paratoad a Deunyddiau

  • Gall y plant i gyd gymryd rhan yn y perfformiad; mae’r sgript yn addas ar gyfer plant  o Flynyddoedd 3 i 6.
  • Syniadau llwyfannu: Ar chwech o ddarnau mawr o gerdyn, ysgrifennwch y geiriau canlynol mewn print mawr: Stiwdio Deledu; Cartref Teulu Cwac; Y Pwll; Ysgol Pwll Hwyaid; Ar y ffordd; Pentref Afon Pwll Hwyaid. Daliwch y rhain i fyny fel bo’r gofyn i nodi newid golygfa.
  • Syniadau am wisgoedd: mae angen dangos gwahaniaeth rhwng yr Hwyaid a’r Elyrch – fe allai crysau T du a chrysau T gwyn, neu hetiau fod yn ddigon ar gyfer hyn.
  • Gall y plant lunio posteri, a hyd yn oed greu camerâu a meicroffonau i’r dosbarth eu defnyddio wrth ffilmio’r cyfweliad. Byddai’r plant sydd yn well ganddyn nhw weithio y tu ôl i’r llenni yn mwynhau creu’r pethau hyn.
  • Darlleniad o’r Beibl: Mathew 7.1–5.

Gwasanaeth

  1. Dywedwch eich bod yn mynd i feddwl am neges arbennig iawn mewn stori heddiw. Yn y Beibl, yn Efengyl Mathew, pennod 7, mae’n dweud, ‘Peidiwch â barnu, rhag i chwi gael eich barnu.’ Fe wnawn ni archwilio ystyr hyn gyda fersiwn modern o stori rydych chi’n gyfarwydd â hi efallai.

  2. Yr hwyaden a ddaeth yn seren bop

    Cymeriadau
    Cyflwynydd
    Alan
    Alarch 1
    Alarch 2

    Teulu Cwac:
    - Anna (mam)
    -
    Alan Ifanc
    - Annes
    - Albert

    Gwenda Gwydd
    Glenda Gwydd

    Y Bwlis:
    - Tony
    - Tom
    - Tina

    Mr Plu, yr athro
    Wenna Wiwer
    Cai Cwningen

    (Mae’r ddrama’n dechrau mewn stiwdio deledu. Daw’r Cyflwynydd i mewn, gan sefyll ar ganol y llwyfan)

    Cyflwynydd   Diolch i chi am ymuno â ni ar y rhaglen Sêr yr Wythnos, y rhaglen deledu sy’n rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am y pethau rydych chi eisiau eu gwybod am eich hoff fandiau a chantorion pop. Yr wythnos hon, rydyn ni’n cyfweld y sêr pop sy’n creu cynnwrf ar hyn o bryd ym myd yr anifeiliaid. Maen nhw wedi rhyddhau eu sengl gyntaf ac mae honno wedi saethu i frig y siartiau. Rhowch groeso os gwelwch chi’n dda i’r Elyrch!

    (Daw Alan, ac Alarch 1 a 2 i mewn)

    Cyflwynydd   Helo, hogiau, diolch i chi am alw i mewn i’r stiwdio heddiw. Y cwestiwn rydyn ni eisiau ei ofyn i chi yw: Sut gwnaethoch chi ddechrau canu gyda’ch gilydd fel band?

    Alarch 1   Wel, roedden ni’n dau, Als a fi, yn canu fel deuawd i ddechrau, yn mynd rownd y clybiau yn nheyrnas yr anifeiliaid.

    Alarch 2   Ond roedd ein rheolwr yn teimlo y byddai Ali a finnau’n fwy llwyddiannus pe bydden ni’n cael aelod arall atom ni - a dyna pryd y gwnaethon ni gwrdd ag Alan.

    Cyflwynydd   Ie, Alan, rwyt ti wedi sôn droeon am dy orffennol trwblus, a’r drafferth roeddet ti’n ei gael i ffitio, rywsut. Fe fydden ni wrth ein bodd pe byddet ti’n gallu dweud ychydig o’r hanes wrthym ni heddiw ar Sêr yr Wythnos.

    Alan   Wel, mae wedi bod yn siwrne faith, ond erbyn hyn rydw i’n teimlo’n barod i rannu fy stori gyda gweddill y byd.

    (Daw Anna, Albert  ac Annes  i mewn)

    Alan   Fe ddechreuodd pan ddois i i’r byd - fel hwyaden.

    (Mae’r Cyflwynydd, Alan, ac Alarch 1 a 2 yn symud i’r ochr dde yn y tu blaen ac yn troi i wylio)

    Golygfa Un: Cartref Teulu Cwac

    Annes   Mam! Mam! Dwi isio bwyd!

    Anna   Iawn, cariad, dwi’n gwybod. Rydyn ni’n mynd i’r pwll toc. Dim ond aros am dy frawd. Mae o bob amser yn cymryd ei amser i ddeffro yn y bore .

    Albert   Mam? Pam dydi Alan ddim yn edrych yr un fath â fi? Rydyn ni’n frodyr, ond dydyn ni ddim byd tebyg i’n gilydd! Mae golwg ofnadwy arno fo!

    Anna   Taw di, Albert, dydi hynny ddim yn beth caredig iawn i’w ddweud. Mae pawb yn arbennig, yn cynnwys Alan. Fe fyddai’r byd yn lle diflas iawn pe byddai pawb yn edrych yr un fath â’i gilydd?

    Annes   Ond rydw i’n edrych yr un fath ag Albert!

    Anna   Wyt, Annes, ac mae hynny’n wych.

    (Daw Alan Ifanc i mewn)

    Alan Ifanc   Sori! Ond rydw i wedi blino’n ofnadwy! Dy fai di yw hyn, Albert!

    Albert   Pam? Beth ydw i wedi’i wneud?

    Alan Ifanc  Rwyt ti’n chwyrnu!!

    (Mae Alan Ifanc ac Annes  yn rhedeg oddi ar y llwyfan yn chwerthin ac mae Albert ac Anna yn eu dilyn)

    Cyflwynydd (wrth Alan)  Felly, fe gefaist ti fywyd teuluol digon hapus?

    Alan   Do, ond roeddwn i bob amser yn gwybod fy mod i’n edrych yn wahanol i fy mrawd a’m chwaer. A doeddwn i ddim yn deall pam.

    Golygfa Dau: Wrth y pwll

    (Mae Gwenda a Glenda Gwydd wrth y pwll yn cael diod o ddwr.)

    (Daw Annes ac Alan Ifanc i mewn, ac mae Albert ac Anna yn eu dilyn)

    Annes   Tyrd, Alan, am y cyntaf at y pwll! Gawn ni ras.

    Albert   A fi!

    Anna   Peidiwch â mynd yn rhy bell, blant!

    Glenda   O! Gwenda, edrych. Dyma deulu’r hwyaid yn dod i’r pwll. Y teulu hwnnw gyda’r hwyaden ifanc od.

    Gwenda   O, ie. Oes, mae un hwyaden ifanc sy’n edrych yn od yn eu canol. Dim yn debyg i un hwyaden ifanc rydw i wedi’i gweld o’r blaen.

    Glenda   Dydw i ddim yn siwr ydw i eisiau yfed o’r un pwll â hwyaden mor od.

    Gwenda Ie, dwi’n gwybod beth rwyt ti’n ei feddwl. Well i ni fynd cyn i Anna y fam ein gweld ni.

    (Maen nhw’n ceisio ymadael)

    Anna   Glenda! Gwenda! Pa hwyl? Dydi hi’n ddiwrnod braf?

    Gwenda (wrth Glenda)   Oedd, mi roedd hi!

    Glenda   Helo, Anna, Mae’n ddrwg gen i na fedrwn ni aros. Rydyn ni’n brysur iawn heddiw.

    Anna   O, yn wir, yn gwneud beth?

    (Mae Alan Ifanc yn rhedeg at Anna)

    Alan Ifanc  Mam! Mam! Mae Albert wedi rhoi cic gas i mi!

    (Mae Glenda a Gwenda yn symud oddi yno)

    Glenda   Mae’n wir ddrwg gen i, ond mae’n rhaid i ni fynd!

    (Glenda a Gwenda yn rhedeg allan)

    Alan  Ifanc  Beth oedd yn bod arnyn nhw, Mam?

    Anna   Wn i ddim yn wir, ’ngwas i. Maen nhw’n ymddwyn yn od iawn ar y foment.

    Alan Ifanc   Ydi hyn rywbeth i’w wneud efo fi?

    Anna   Na, cariad, dydi o ddim. A dydw i ddim eisiau i ti deimlo’n ddrwg oherwydd dy fod yn edrych ychydig yn wahanol. Fe ddylai pobl dderbyn pawb am yr hyn ydyn nhw, nid am y ffordd maen nhw’n edrych. Cofia di hynny.

    Alan Ifanc   Iawn, Mam, gofia i.

    Cyflwynydd   (wrth Alan) Rhaid bod hynny wedi bod yn anodd i ti.

    Alan   Do, a doedd pethau ddim gwell yn yr ysgol.

    Golygfa Tri: Yn yr Ysgol

    (Daw Tina, Tom a Tony i mewn gydag Alan Ifanc, Annes  ac Albert yn eu dilyn.)

    Tina   Edrychwch ar Alan. Dwi’n siwr nad ydi o’n frawd i Annes, go iawn. Dydyn nhw ddim yn debyg i’w gilydd o gwbl.

    Annes   Ydi, mae o’n frawd i mi, peidiwch â bod yn gas.

    Tony   Efallai mai wedi cael ei fabwysiadu mae Alan.

    Alan Ifanc   Na, dydw i ddim wedi cael fy mabwysiadu! Fe gefais i fy ngeni gyda fy mrawd a fy chwaer.

    Tom   Na, dwi ddim yn credu hynny. Dwi’n meddwl mai rhyw fath o arbrawf gwyddonol wyt ti!

    (Mae Tina, Tom a Tony yn chwerthin am ben y teulu Cwac)

    Albert   Pam rydych chi’n bod mor gas? Gadewch lonydd i Alan!

    Tina   Rwyt ti’n edrych fel rhywbeth annaearol!

    Tom   Rwyt ti’n hyll!

    Tony   Nid hwyaden wyt ti!

    (Mae Tina, Tom a Tony yn casglu o gwmpas Alan gan lafarganu drosodd a throsodd, ‘Nid hwyaden wyt ti!’)

    Annes   Stopiwch! Pam rydych chi’n gwneud hyn?

    Albert   Mae’n well i chi roi’r gorau iddi, neu fe fydda i’n ymosod arnoch chi!

    (Daw Mr Plu i mewn)

    Mr Plu   Esgusodwch fi? Dw i ddim yn meddwl bod neb yn mynd i ymosod ar unrhyw un yn yr ysgol yma. Albert, dos ar unwaith i ystafell y prifathro, nawr!

    Albert   Ond, Syr . . .

    Mr Plu  Nawr! Rydw i wedi hen flino arnat ti’n colli dy dymer o hyd ac o hyd yn yr ysgol.

    (Mae Mr Plu  ac Albert yn ymadael)

    Tina (wrth Alan Ifanc)   Nawr, wyt ti’n gweld beth wnest ti? Mae Albert mewn trwbl o dy achos di.

    Alan Ifanc   Na, ceisio fy ngwarchod i yr oedd Albert!

    Tom   Fyddai dim angen i neb dy warchod di pe byddet ti’n normal!

    (Mae Tina, Tom a Tony yn mynd oddi ar y llwyfan, gan adael Alan ac Annes ar ôl)

    Annes   Paid â phoeni, Alan, fe wnaiff Albert egluro popeth.

    Alan Ifanc   Na, mae Tom yn iawn, Annes. Fyddai Albert byth mewn trwbl oni bai ei fod yn gorfod achub fy ngham i o hyd.

    Annes  Ond mae Albert yn gwneud hynny am ei fod yn dy garu di.

    Alan Ifanc   Efallai y byddai’n well pe byddwn i’n mynd i ffwrdd oddi yma. Wedyn, fyddai Albert ddim yn gorfod fy amddiffyn i drwy’r amser.

    (Mae Alan Ifanc yn mynd allan, ac Annes yn ei ddilyn.)

    Alan (wrth y Cyflwynydd)   Roedd pethau fel hyn yn digwydd o hyd ac o hyd am amser hir nes y gwnes i ddod yn ddigon hen i adael y nyth a byw’n annibynnol ar ben fy hun.

    Golygfa Pedwar: Mynd ar antur

    (Daw Anna, Annes, Albert ac Alan Ifanc i mewn - Mae Alan Ifanc yn cario ces dillad)

    Anna  Nawr, wyt ti’n siwr y byddi di’n iawn?

    Alan Ifanc  Byddaf, Mam, peidiwch â phoeni. Fe wna i gysylltu’n rheolaidd i roi gwybod i chi lle byddaf i a sut y bydda i’n dod ymlaen.

    Albert   Cymer ofal, Alan. Fe fyddai’n dda gen i pe byddwn i’n dod efo ti.

    Alan Ifanc  Edrych di ar ôl Mam. Mae digon o waith i ti o gwmpas y pwll, aros di yma.

    Albert   Rwyt ti bob amser yn meddwl am bobl eraill. Cymer ofal, frawd.

    Annes   Bydd yn ofalus, Alan.

    (Mae Alan Ifanc yn mynd i ffwrdd ar ben ei hun)

    Alan   A dyna beth fu fy hanes i am rai misoedd, dim ond crwydro yma ac acw. Doeddwn i ddim yn gwybod mewn gwirionedd am beth roeddwn i’n chwilio. Roeddwn i’n gwybod fy mod i’n perthyn i rywun yn rhywle. Ond roeddwn i’n ansicr iawn, a doedd yr anifeiliaid eraill roeddwn i’n cwrdd â nhw’n fawr o help chwaith.

    (Alan Ifanc yn cerdded ar y llwyfan eto ac yn cwrdd â Wenna Wiwer)

    Wenna   Hei, gwylia lle’r wyt ti’n mynd. Rwyt ti’n gwasgu’r cnau yna i’r ddaear!

    Alan Ifanc  Mae’n ddrwg gen i.

    Wenna   Pwy wyt ti, beth bynnag?

    Alan Ifanc  Wel, Alan Cwac ydi fy enw i.

    Wenna   Cwac? Dyna gyfenw od!

    Alan Ifanc Pam rwyt ti’n meddwl ei fod yn gyfenw od? Hwyaden ydw i. Ydi Cwac ddim yn enw rwyt ti’n ei gysylltu â hwyaid?!

    Wenna   Ond nid hwyaden wyt ti, y twpsyn!

    (Mae Wenna’n cychwyn cerdded oddi wrtho gan ysgwyd ei phen)

    Alan Ifanc  Ond, os nad ydw i’n hwyaden, beth ydw i? Dewch yn ôl Miss Wiwer. Esgusodwch fi, beth ydych chi’n feddwl ydw i?

    (Mae Alan Ifanc yn cerdded o gwmpas y llwyfan yn edrych yn ddiflas)

    Alan  A diflas a dryslyd oeddwn i wedyn, nes i mi gwrdd â Cai Cwningen. Fe newidiodd hynny fy mywyd i am byth.

    (Daw Cai Cwningen i mewn. Mae golwg prysur arno. Mae’n chwilio am bobl ddawnus.)

    Cai (ar ei  ffôn symudol)   OK, wel, mae dau ohonyn nhw wedi cael eu harwyddo. Fe wnest ti ofalu eu bod yn arwyddo’r contractau, do? Iawn, a nawr dwi eisiau . . . (mae Cai yn gweld Alan Ifanc)  . . . aros . . . fe wna i dy ffonio di’n ôl. Esgusodwch fi, wr ifanc, beth ydi’ch enw chi?

    Alan Ifanc  Alan. Beth ydi’ch enw chi?

    Cai  Y fi, gyfaill, yw Cai Cwningen , asiant sêr pop y dyfodol, ac mae’n rhaid i mi ofyn i ti, wyt ti’n gallu canu?

    Alan Ifanc  Wel, ydw, dipyn bach, ond dydw i ddim wedi mynd ati o ddifrif erioed. Fe fyddai fy mam yn dweud bob amser fy mod i’n eithaf cerddorol, yn wahanol iawn i fy mrawd a’m chwaer, a oedd yn anobeithiol!

    Cai   Alan, Alan, Alan, (mae’n rhoi ei fraich am ysgwydd Alan Ifanc) rydw i wedi bod am fisoedd lawer yn chwilio’r caeau a’r coedwigoedd am drydydd aelod i’r band sydd gen i ar hyn o bryd, ac rydw i’n meddwl efallai mai ti fydd yr un aelod hwnnw i wneud y band yn gyflawn.

    Alan Ifanc  Band cyflawn? Pa fand?

    Cai   Yr Elyrch! Fe fyddwch chi’n llwyddiant ysgubol!

    Alan Ifanc   Elyrch? Ond dydw i ddim yn Alarch. Hwyaden ydw i!

    Cai  Ddim yn Alarch? Tynnu fy nghoes i, wyt ti? Wyt ti ddim wedi gweld dy lun yn y drych yn ddiweddar? (Mae’n estyn drych i Alan Ifanc) Edrych. Beth weli di? Dydw i ddim yn gweld hwyaden!

    Alan Ifanc  O! Dydw i ddim yn hwyaden! Alarch ydw i! A dyma fi, wedi bod yn meddwl ar hyd yr amser mai hwyaden hyll oeddwn i. Ond, mewn gwirionedd, rydw i’n . . .

    Cai  Alarch ysblennydd! Nawr wyt ti am ddod efo fi, Alan? Rydw i eisiau i ti ddod efo fi i’r stiwdio, a chanu i mi! (Mae Cai yn arwain Alan Ifanc oddi ar y  llwyfan)

    Cyflwynydd  Felly, fe wnaethost ti sylweddoli dy fod yn alarch pan ddywedodd dy asiant hynny wrthyt ti! Rhaid bod hynny wedi bod yn brofiad anhygoel.

    Alan   Do, profiad anhygoel a newidiodd fy mywyd yn gyfan gwbl! A phan es i yn ôl adref wedyn . . . wel . . .

    Golygfa Pump: Mynd adref  (Pentref Afon Pwll Hwyaid)


    (Daw Tina, Tom, Tony, Anna, Annes, Albert, Glenda a Gwenda i mewn)

    Glenda   O, alla i ddim aros nes cael gweld Yr Elyrch. Mae’r ddwy sengl gen i’n barod.

    Gwenda   Ac maen nhw’n Elyrch ifanc mor olygus.

    Anna   Biti na fyddai eich brawd yma, fe fyddai wrth ei fodd yn cael gweld band fel yr Elyrch. Alan druan!

    Albert   O, mae Alan yn iawn, peidiwch â phryderu. Roedd o’n sôn yn ddiweddar bod ei fywyd yn reit braf ar hyn o bryd, a’i fod yn llwyddiannus iawn yn gwneud rhywbeth.

    Annes   Ac fe ddywedodd y byddai’n ein gweld ni’n fuan, yn do? Efallai ei fod yn cynllunio i ddod yma i ar ei wyliau cyn bo hir.

    Tina   Dyma nhw’n dod! Yr Elyrch

    (Mae’r anifeiliaid i gyd yn dechrau curo’u dwylo, a gweiddi hwre, wrth i aelodau’r band ddod ymlaen -  Alan Ifanc ac Alarch 1 a 2)

    Alan Ifanc   Diolch yn fawr! Mae’n bleser o’r mwyaf cael bod yma ym Mhentref Afon Pwll Hwyaid.

    (Mwy o gymeradwyaeth)

    Alan Ifanc  Mae’n anodd credu fy mod i fy hun, flwyddyn yn ôl, wedi bod yn byw yn y pentref yma.

    Tom   Fo? Wedi bod yn byw yma?

    Tony   Does dim teulu o elyrch wedi bod yn byw ym Mhentref Afon Pwll Hwyaid, nag oes?

    Alan Ifanc Pan oeddwn i’n byw yma, roeddwn i bob amser yn teimlo’n wahanol, ac fe gymrodd beth amser i mi sylweddoli fy mod i mewn gwirionedd yn wahanol i’r gweddill ohonoch chi yma. Ond y gwirionedd oedd fy mod i’n aderyn o rywogaeth hollol wahanol!

    Anna   Alan?

    Alan Ifanc Ie, Mam, fi Alan sydd yma!

    (Dryswch ac anhrefn yn y dyrfa)

    Alan Ifanc  (wrth Tom, Tony a Tina)   Roeddech chi’ch tri bob amser yn pigo arnaf fi am fy mod i’n wahanol. Wel, mae bod yn wahanol wedi golygu fy mod i erbyn hyn yn rhan o un o’r bandiau mwyaf llwyddiannus sy’n bod.

    Albert   Wel, yn wir, ac edrychwch pwy sy’n chwerthin heddiw?

    Annes    Ie, a phwy sy’n edrych fel rhywbeth annaearol nawr?

    (Mae Albert, Annes ac Anna’n rhedeg at Alan Ifanc a’i gofleidio)

    Anna   O, Alan, rwyt ti’n Alarch, yn Alarch hardd! Roeddwn i bob amser yn gwybod dy fod ti’n hardd.

    Alan Ifanc   O diolch, Mam, roeddech chi’n fy nerbyn i am yr un oeddwn i, ac yn fy ngharu er gwaethaf popeth.

    Cyflwynydd (yn symud tua chanol y llwyfan gydag Alan a’r Elyrch)   Felly beth ddigwyddodd i ti, Alan, ar ôl hynny?

    Alan  Wel, erbyn hyn rydw i wedi prynu ty newydd i fy nheulu. Ac mae Tom, Tina a Tony wedi ceisio ymddiheuro sawl gwaith.

    Alarch 1   Ond fyddwn ni ddim yn gallu rhoi caniatâd iddyn nhw ddod i gefn y llwyfan pan fyddwn ni’n gigio!

    Alarch 2   Rydw i’n meddwl bod stori Alan yn dangos yn glir, dim gwahaniaeth sut rydych chi’n edrych, fe ddylai pawb gael ei drin yn gyfatal. Bwlio yw rhywbeth mae anifeiliaid yn ei wneud pan fyddan nhw’u hunain yn teimlo’n wan.

    Alan   Felly, does dim pwrpas bwlio. Mae pawb yn bwysig, a does dim gwahaniaeth sut rydych chi’n edrych o’r tu allan, yr hyn sydd y tu mewn sy’n bwysig.

    Cyflwynydd   Dyna arwyddair y gallem ni i gyd ei dilyn a bod yn ffyddlon iddo. Diolch i chi, Yr Elyrch, ac yn enwedig i ti, Alan, am fod yn gymaint o ysbrydoliaeth i ni.

Amser i feddwl

Gweddi
Annwyl Dduw,
helpa ni i garu pawb am bwy ydyn nhw.
Helpa ni i drin pobl
yn y ffordd y byddem ni’n hoffi cael ein trin,
a helpa ni i wybod dy fod ti’n caru pob un ohonom am bwy ydyn ni.

Dyddiad cyhoeddi: Mehefin 2011    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon