Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Bywyd Cyfoethog

Dathlu Wythnos y Gwirfoddolwyr

gan Janice Ross

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Ystyried sut mae bywyd yn cael ei gyfoethogi trwy roi i eraill.

Paratoad a Deunyddiau

  • Tocyn raffl neu docyn loteri, llyfr cynilion banc.
  • Dangoswch y ddau ddyfyniad canlynol ar y bwrdd gwyn: ‘Mae rhoi amser i helpu pobl eraill wedi fy helpu i, ac wedi gwneud fy mywyd yn fwy cyfoethog’, a ‘Mae gwirfoddoli wedi newid fy mywyd ac wedi ei gyfoethogi.’
  • Adnod o’r Beibl: ‘Dedwyddach yw rhoi na derbyn’ (Actau 20.35).
  • Am fod y gwasanaeth yn canolbwyntio ar werth gwirfoddoli, fe fyddai’n ddefnyddiol pe byddai athrawon yn gallu gofyn am wirfoddolwyr i wneud tasgau syml yn y dosbarth yn ystod yr wythnos. Gofalwch eich bod yn diolch i’r plant sy’n gwirfoddoli, ac yn eu hannog oherwydd eu parodrwydd i helpu. Fe fydd y plant wedyn yn gallu uniaethu â’r wers sy’n gynwysedig yn y gwasanaeth yma, sef bod gwirfoddoli’n gallu cyfoethogi ein bywydau.
  • Am ragor o wybodaeth a storïau i’ch ysbrydoli, edrychwch ar y wefan: http://www.volunteersweek.org.uk.

Gwasanaeth

  1. Gofynnwch: Sut y gallwn ni ddod yn gyfoethog? Dangoswch y tocyn raffl, neu’r tocyn loteri, y llyfr cyfrif cynilo, ac ati.

  2. Dangoswch y dyfyniadau ar y bwrdd gwyn. Trafodwch beth yw eu hystyr. At ba fath o ‘gyfoeth’ y mae’r dyfyniadau’n cyfeirio?

    Eglurwch fod llawer o bobl yn ein cymuned, ac yn ein gwlad, yn gwirfoddoli i helpu eraill mewn pob math o wahanol ffyrdd. Gwirfoddoli yw gwneud rhywbeth i rywun arall yn ddi-dâl. Yn wir, mae’r mudiad, Volunteering England, yn nodi bod 22 miliwn o oedolion yn Lloegr yn gwirfoddoli i helpu eraill bob blwyddyn. Ac mae’n debyg bod y sefyllfa’n debyg ar gyfartaledd yng Nghymru hefyd.

    Gofynnwch eto: Ydych chi’n adnabod rhywun sy’n gwneud gwaith gwirfoddol?

  3. Gadewch i ni weld a oes gwirionedd yn y dyfyniadau hyn. Ydi gwirfoddoli’n cyfoethogi ein bywydau?

    Holwch oes rhywun sydd yn y gwasanaeth heddiw wedi gwirfoddoli i wneud rhywbeth yn ddiweddar. (Rhag ofn i’r plant beidio ymateb, gofynnwch o flaen llaw i athro neu athrawes fod yn barod i enwi rhai plant o’u dosbarth sydd eisoes wedi gwirfoddoli i wneud rhywbeth.)

    Beth wnaethoch chi? Sut roedd hynny’n gwneud i chi deimlo?

  4. Mae’r Beibl yn dweud hynny hefyd: ‘Dedwyddach yw rhoi na derbyn.’

    Meddyliwch am foment am adeg y Nadolig. Er ei bod yn hyfryd derbyn anrhegion, fyddwch chi’n cyffroi o gwbl wrth aros i rywun agor anrheg rydych chi wedi’i roi iddo ef neu hi?

    Fe fydd gwirfoddolwyr yn dweud yn aml eu bod yn mwynhau gwneud y pethau maen nhw’n eu gwneud, a bod gwaith gwirfoddol yn eu  gwneud yn gyfoethog mewn ffordd arbennig na all arian ei wneud.

    (Os hoffech chi, fe allech chi gyfeirio at rai o’r storïau ysbrydoledig oddi ar y wefan sy’n sôn am wirfoddoli.)

Amser i feddwl

Meddyliwch am rywbeth y gallech chi wirfoddoli i’w wneud i rywun arall heddiw.
Meddyliwch am sut y byddai’n gwneud i’r person hwnnw deimlo pe byddech chi’n gwirfoddoli.
Meddyliwch am sut y byddai’n gwneud i chi deimlo pe byddech chi’n gwneud y dasg honno.

Rydyn ni’n mynd i ddiolch i Dduw am wirfoddolwyr.

(Lluniwch y gweddïau canlynol yn ôl yr hyn a fyddai’n briodol i’ch disgyblion a’ch cymuned chi.)
(Gofynnwch i’r plant ymuno i gydadrodd y geiriau, ‘Rhown ddiolch i ti’, os oes rhai o’r gwirfoddolwyr hyn yn eu helpu yn eu bywydau.)

Gweddi
Annwyl Dduw,
am y rhai hynny sy’n ein gwasanaethu yn y Brownies, Scouts, Guides a’r Boys’ Brigade,
rhown ddiolch i ti.
Am y rhai hynny sy’n gwirfoddoli i’n helpu ni gyda gwahanol chwaraeon,
rhown ddiolch i ti.
Am y rhai hynny sy’n gwirfoddoli i’n dysgu am Dduw,
rhown ddiolch i ti.
Am y rhai hynny sy’n gwirfoddoli i’n gyrru mewn cerbydau i glybiau a gweithgareddau,
rhown ddiolch i ti.
Am y rhai hynny sy’n gwirfoddoli i ofalu am berthnasau sy’n wael,
rhown ddiolch i ti.

Dyddiad cyhoeddi: Mehefin 2011    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon