Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Tyfu'n Hyn!

Helpu’r plant i groesawu ‘newid’ fel profiad cadarnhaol mewn bywyd.

gan Sophie Jelley

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 1

Nodau / Amcanion

Helpu’r plant i groesawu ‘newid’ fel profiad cadarnhaol mewn bywyd.

Paratoad a Deunyddiau

  • Lluniwch albwm o ffotograffau (cyfres o ddelweddau ar sgrin fawr fyddai’n ddelfrydol). Casglwch nifer o luniau ar rai o’r camau canlynol o fywyd unigolyn (person go iawn neu rywun dychmygol!): babi; plentyn bach; plentyn oed cynradd; oedran uwchradd; myfyriwr; person ifanc proffesiynol; rhiant; nain neu daid; a hen nain neu hen daid.
  • Copi o’r gerdd, ‘Now we are six’ gan A. A. Milne.

Gwasanaeth

  1. Oes rhywun wedi gofyn i chi erioed: ‘Beth wyt ti eisiau fod pan fyddi di wedi tyfu’n fawr?’ (Gofynnwch i rai o’r plant roi eu hatebion i chi. Fe allech chi gael ychydig o hwyl hefyd wrth ofyn i rai o’r athrawon ydyn nhw’n cofio beth oedden nhw eisiau bod, neu fe allech chi gyfaddef beth oedd eich breuddwydion chi pan oeddech chi’n blentyn!)

    Un peth sy’n sicr, hyd yn oed wrth i ni dyfu a newid, ni ydyn ni bob amser. Mae pob un ohonom ni’n dod i’r byd yn fabi bach ac yn byw nes y byddwn ni’n hen nain neu’n hen daid ein hunain – gobeithio. (Eglurwch y gwahanol gamau yn ein bywydau trwy ddangos y lluniau.)

  2. Mae cerdd Saesneg wedi ei hysgrifennu gan awdur o’r enw A. A. Milne, a oedd hefyd yn awdur y storïau am Winnie- the-Pooh. Dyma’r gerdd: . . . (Darllenwch y gerdd, ‘Now we are six’, gan orffen gyda’r geiriau, ‘So I think I’ll be six now for ever and ever.’)

    Gallwch ddefnyddio’r gerdd Saesneg fel y mae hi, neu ddefnyddio’r addasiad canlynol, os hoffech chi:

    Pan oeddwn i’n Un,

    Roeddwn i’n dechrau bod yn fi fy hun.

    Pan oeddwn i’n Ddwy,

    Roeddwn i’n dal i fod fel newydd, lai neu fwy.

    Pan oeddwn i’n Dair,

    Doeddwn i fawr mwy, ar fy ngair.

    Pan oeddwn i’n Bedair, wel,

    Doeddwn i’n ddim llawer mwy, ond roeddwn i’n ddel.

    Pan oeddwn i’n Bump oed,

    Roeddwn i’n bod, fel roeddwn i wedi bod erioed.

    Ond nawr rwy’n Chwech, ac yn fawr,

    Rwy’n glyfar, glyfar, welwch chi nawr.

    Felly, rwy’n meddwl y bydda i’n chwech ac yn fawr

    Nawr, ac am byth – am byth fel hyn nawr.

  3. Pan fyddwn ni’n chwech oed, efallai ein bod ni’n meddwl ein bod yn gwybod popeth, ac mae’n wych bod llawer o ddysgu difyr yn digwydd yn yr ysgol. Ond y gwir yw, mae llawer mwy o bethau i’w dysgu eto hefyd. Fe fyddwn ni’n dysgu pethau ar hyd ein hoes.

    Mae Cristnogion yn credu ein bod yn gallu dysgu pethau newydd am Dduw trwy gydol ein bywyd, a dysgu pethau amdanom ein hunain hefyd. Mae pob blwyddyn o’n bywyd, trwy gydol ein hoes, yn adeg arbennig ar gyfer dysgu.

Amser i feddwl

Meddyliwch amdanoch eich hun pan oeddech chi’n fabi bach,  
a meddyliwch faint ydych chi wedi newid a thyfu ers hynny.
Meddyliwch faint o bethau rydych chi wedi’u dysgu hyd yma,
a faint mwy o bethau difyr sydd gennych chi i ddysgu amdanyn nhw eto yn y byd.

Gweddi
Annwyl Dduw,
Diolch i ti am yr holl newidiadau sy’n digwydd i ni yn ein bywyd,
o fod yn fabi bach nes byddwn ni wedi tyfu’n hyn.
Helpa ni i ddefnyddio pob cam yn ein bywyd
fel cyfle i ddysgu pethau newydd bob dydd.

Dyddiad cyhoeddi: Gorffennaf 2011    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon