Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Cerfluniau Byw

Gwasanaeth diwedd blwyddyn ysgol i ffarwelio â rhai sy’n gadael yr ysgol

gan The Revd Alan M. Barker

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 2

Nodau / Amcanion

Dathlu llwyddiant unigolion a chydnabod bod pob person yn unigryw.

Paratoad a Deunyddiau

  • Mae gwaith paratoi o flaen llaw angen ei wneud ar gyfer y gwasanaeth yma. Yn ddelfrydol, fe allai’r plant sy’n gadael yr ysgol wneud y gwaith paratoi. Paratowch bodiwm addas a gwahoddwch bob un sy’n gadael yr ysgol i sefyll yn ei dro mewn ystum hyderus a balch, (peidiwch ag anghofio arddangos enw’r unigolion fesul un ar y plinth) fel y gallwch chi dynnu lluniau digidol o bob un i’w defnyddio i wneud cyflwyniad PowerPoint o’r plant.
    (Er mwyn cydymffurfio ag argymhellion diogelu, rhaid i chi ddileu’r delweddau yn dilyn y gwasanaeth.)
  • Gofynnwch i bob un o’r rhai sy’n ymadael ddisgrifio mewn llai na deg gair, naill ai un o’u llwyddiannau neu un o’u diddordebau yn ystod eu hamser yn yr ysgol.
  • Cyfunwch y delweddau a’r datganiadau mewn cyflwyniad PowerPoint. Fe allai hynny fod yn brosiect diwedd tymor i’r rhai dan sylw.
  • Dechreuwch y cyflwyniad gyda nifer o ffotograffau o gerfluniau lleol a/neu enwog. Fe allech chi ddiweddu’r gyfres gyda delwedd o’r cerflun enfawr enwog sydd i’w weld yn Rio de Janeiro, Crist y Gwaredwr, neu Christ the Redeemer. Ychwanegwch y geiriau: ‘Rhaid i’r un mwyaf ohonoch fod yn was i chwi’ (gwelwch Mathew 23.11).

Gwasanaeth

  1. Dangoswch y delweddau o’r cerfluniau lleol a/neu enwog. Pwy yw’r bobl sy’n cael eu coffáu? (Eglurwch y term ‘coffáu’.) Am beth roedden nhw’n cael eu cofio? Pa bryd y cawson nhw’u geni, a pha bryd y buon nhw farw? Pam y codwyd y cerfluniau?

    Myfyriwch ar y ffaith bod cerfluniau’n cael eu llunio i anrhydedd pobl sydd wedi gwneud cyfraniad gwerthfawr i’w gwlad neu i’w cymuned. Mae’r rhan fwyaf (ond nid pob un) yn darlunio pobl sydd wedi marw. Yn aml, fe fydd y cerfluniau wedi’u gwneud allan o fetel fel efydd.

  2. Cyhoeddwch (yn frwdfrydig): ‘Heddiw, rydyn ni’n mynd i ganolbwyntio yn y gwasanaeth ar anrhydeddu’r rhai hynny sydd wedi gwneud cyfraniad gwerthfawr i fywyd yr ysgol hon. Dyma rai cerfluniau byw y gwnewch chi eu hadnabod, ynghyd â’r rhesymau pam y maen nhw’n falch o fod wedi cael bod yn rhan o gymuned yr ysgol hon.’

    Cyn i chi  ddechrau’r cyflwyniad, trefnwch fod rhywun yn cyhoeddi enw pob un o’r ‘cerfluniau byw’ pan fydd eu lluniau’n ymddangos. Pan fydd 10 neu 12 o luniau wedi cael eu dangos, oedwch i’w cymeradwyo, a galwch ar y disgyblion rheini i ddod ymlaen a gwneud ‘ymddangosiad byw’. Fe allai hwn fod yn gyfle i chi gyflwyno tystysgrifau neu beth bynnag arall yr hoffech chi ei gyflwyno i’r plant ar eu hymadawiad.

    Pan ddaw’r cyflwyniad i ben, myfyriwch ar amrywiaeth llwyddiannau a diddordebau’r ‘cerfluniau byw’. Mae pob un sy’n ymadael yn wahanol - mae pob un wedi bod yn aelod gwerthfawr o gymuned yr ysgol. Diolchwch i’r plant yma am yr amrywiol ffyrdd y maen nhw wedi cyfrannu tuag at fywyd yr ysgol.

  3. Rhowch sylw i’r ffaith bod cerfluniau efydd yn aros yn llonydd, ond mae’r cerfluniau byw yn newid ac yn tyfu. Anogwch y rhai sy’n ymadael i edrych ymlaen yn gadarnhaol i’r dyfodol, a sylweddoli eu potensial. Dydi pawb ddim yn gallu bod yn enwog, ond fe all pawb helpu i wneud y byd yn lle gwell a hapusach.

  4. Dangoswch y ddelwedd olaf, a dewch i gasgliad trwy ofyn i’r plant ystyried un peth, sef bod Iesu’n dysgu i ni ystyr y gwir fawredd. Fe ddywedodd, ‘Rhaid i’r un mwyaf ohonoch fod yn was i chwi.’

Amser i feddwl

Addasiad o linellau o weddi Dag Hammarskjöld, cyn Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig

Am yr hyn oll sydd wedi bod – Diolch!
Am yr hyn oll a fydd – Ie!

Dyddiad cyhoeddi: Gorffennaf 2011    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon