Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Ymateb I Newid

Atgoffa’r plant bod ‘newidiadau’ yn aml y tu allan i’n rheolaeth ni, ond fe allwn ni reoli ein hymateb i newidiadau. Awgrymir tair ffordd o wneud hynny yma.

gan Helen Redfern

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 2

Nodau / Amcanion

Atgoffa’r plant bod ‘newidiadau’ yn aml y tu allan i’n rheolaeth ni, ond fe allwn ni reoli ein hymateb i newidiadau. Awgrymir tair ffordd o wneud hynny yma.

Paratoad a Deunyddiau

  • Tri darllenydd.

Gwasanaeth

  1. Mae newidiadau’n digwydd. Mae newidiadau’n anochel. Mae newidiadau’n digwydd, pa un a ydyn ni’n hoffi hynny ai peidio. Mae rhai newidiadau sy’n bethau i’w croesawu, ond mae rhai newidiadau eraill sydd ddim mor dderbyniol.

    Mae newidiadau’n digwydd o’n cwmpas ym myd natur trwy’r amser. Mae’r tymhorau’n newid. Mae’r gerddi’n newid. Mae’r lindysyn yn newid i fod yn bili pala. Mae’r penbwl yn newid i fod yn llyffant.

    Mae newidiadau’n digwydd ym myd gwyddoniaeth a thechnoleg o ddydd i ddydd. Pan oeddwn i’n blentyn, doedd dim ffonau symudol. Doedd gennym ni ddim cyfrifiaduron yn ein cartrefi ein hunain. Hyd yn oed yn fy oes i, mae’r byd wedi newid yn gyflym iawn.

    Mae newidiadau’n digwydd yn ein bywydau ni ein hunain hefyd. Mae pob un ohonom yn cael ei eni’n faban bach. Rydyn ni’n tyfu ac yn datblygu, yn dysgu cerdded, siarad, ac yn dysgu bwydo ein hunain. Mae ein dannedd yn tyfu, a’n gwallt yn tyfu. Rydyn ni’n newid o fod yn fabanod i fod yn blant, ac yn parhau i dyfu gan ddysgu pethau newydd bob dydd.

  2. Dyma dri phlentyn sy’n wynebu newid yn eu bywyd.

    Darllenydd 1  Mae fy mam yn mynd i gael babi bach cyn hir. Mae hi wedi bod yn tyfu’n fwy ac yn fwy, yn raddol bach, ac mae bron yn amser i’r babi gael ei eni.

    Darllenydd 2  Mae fy nhad i wedi cael swydd newydd yn Llundain, ac rydyn ni’n symud i fyw. Fe fydd yn rhaid i ni chwilio am gartref newydd, ac fe fydd yn rhaid i mi adael yr ysgol yma a mynd i ysgol arall.

    Darllenydd 3  Mae fy nghi i, Gelert, wedi marw ddoe. Roedd yn hen iawn. Dydw i ddim yn cofio bywyd heb Gelert.

  3. Mae’r newidiadau sy’n digwydd i’r plant yma y tu hwnt i reolaeth. Allan nhw wneud dim i rwystro’r newid sy’n dod i’w rhan. Yr unig beth y gallan nhw’i reoli yw sut y maen nhw’n ymateb i’r newid. Y peth cyntaf i’w wneud yw cyfathrebu a mynegi eu teimladau. Dywedwch sut rydych chi’n teimlo.

    Darllenydd 1  Rydw i’n teimlo wrth fy modd wrth ddisgwyl am y babi bach newydd, ond rydw i’n pryderu na fydd gan fy mam lawer o amser i’w roi i mi wedyn. Beth pe byddai hi’n caru’r babi newydd yn fwy na fi? Efallai y dylwn i ddweud wrth fy mam sut rydw i’n teimlo.

    Darllenydd 2  Rydw i’n teimlo’n ddig bod fy nhad wedi cael swydd yn Llundain. Dydw i ddim eisiau mynd i fyw i dy arall. Dydw i ddim eisiau symud i ysgol arall. Rydw i’n bryderus. Efallai y dylwn i ddweud wrth fy nhad sut rydw i’n teimlo.

    Darllenydd 3  Rydw i’n teimlo’n drist iawn bod Gelert wedi marw. Rydw i’n teimlo mor unig hebddo. Rydw i eisiau crio trwy’r amser. Rydw i’n mynd i siarad gyda fy nain am y peth am fod ei chi hi wedi marw y llynedd. Fe fydd hi’n gwybod sut rydw i’n teimlo.

    Felly, pan fyddwn ni’n wynebu newid yn ein bywydau, mae’n bwysig cyfathrebu. Ewch at rywun i siarad am eich teimladau a dywedwch wrtho ef neu hi sut rydych chi’n teimlo. Dywedwch sut rydych chi’n teimlo.

  4. Yr ail beth i’w wneud yw cydweithredu â’r newid. Yn aml, ein hymateb cyntaf naturiol yw ymladd yn erbyn y newid a’i wrthwynebu. Ond, mae’n well ceisio gwneud i bethau weithio yn hytrach na’u gwrthwynebu.

    Darllenydd 1  Mae gennym ni lyfr da sy’n sôn am gael babi bach newydd yn y teulu, ac rydw i’n darllen y llyfr er mwyn dysgu mwy am sut i helpu pan fydd y babi wedi cyrraedd. Mae mam wedi gadael i mi ei helpu i ddewis dilladau bach newydd a theganau i’r babi, ac rydyn ni wedi bod yn trafod sut i addurno ystafell y babi.

    Darllenydd 2  Rydw i wedi bod yn dysgu mwy am ddinas Llundain ar y Rhyngrwyd, ac rydw i wedi ysgrifennu rhestr o enwau’r llefydd yr hoffwn i fynd i’w gweld ar ôl i ni symud yno i fyw. Rydw i’n mynd i gadw mewn cysylltiad gyda fy ffrindiau trwy’r Rhyngrwyd a thrwy anfon negeseuon testun ac ati.

    Darllenydd 3  Rydw i wedi gwneud llyfr arbennig o luniau a disgrifiadau o Gelert fel na fydda i byth yn ei anghofio. Mae mam wedi dweud y gallwn ni gael ci arall pan fyddwn ni’n barod.

    Felly, pan fyddwn ni’n wynebu newid yn ein bywydau, mae’n bwysig cydweithredu. Dewch o hyd i ffyrdd o wneud y gorau o’r newid sy’n digwydd. Gwnewch i bethau weithio.

  5. Y trydydd peth i’w wneud yw dathlu’r newid. Wedi i ni gyfathrebu a dweud sut rydyn ni’n teimlo am y newid a cheisio cydweithredu gyda’r newid, mae’n bosib i bethau fod yn dda. Fe allwn ni wedyn ddathlu’r elfen dda sydd wedi dod o ganlyniad i’r newid.

    Darllenydd 1  Mae fy chwaer fach i erbyn hyn yn chwe mis oed, ac rydw i’n ei charu’n fawr. Rydw i wrth fy modd yn helpu ac mae fy mam yn falch iawn ohonof fi.

    Darllenydd 2  Fe symudais i fyw i Lundain chwe mis yn ôl ac er bod pob man yn ddieithr i mi rydw i’n dechrau setlo yno ac rydw i’n hoffi fy ysgol newydd. Fe fyddwn ni’n mynd i wahanol amgueddfeydd a llefydd diddorol bob penwythnos ac mae pob math o wahanol bethau difyr i’w gweld ac i’w gwneud yma.

    Darllenydd 3  Mae chwe mis ers pan fu Gelert farw, ac rydw i’n cadw’r llyfr arbennig wnes i amdano wrth ymyl fy ngwely. Mae gennym ni gi bach newydd erbyn hyn ac mae o’n gi bach hoffus iawn. Fe alla i ddefnyddio’r holl brofiadau gefais i wrth ofalu am Gelert i ofalu am ein ci bach newydd nawr.

    Felly, pan fyddwn ni’n wynebu newid yn ein bywydau, mae’n bwysig dathlu. Byddwch yn barod i gydnabod y canlyniadau cadarnhaol sy’n dod oherwydd y newid. Ceisiwch weld yr ochr dda.

Amser i feddwl

Gadewch i ni nawr, bob un ohonom, dreulio moment neu ddwy i feddwl am ryw newid sy’n digwydd yn ein bywydau ni ein hunain.

Gyda phwy y gallwch chi  gyfathrebu a siarad am y ffordd rydych chi’n teimlo?
Sut y gallwch chi gydweithredu gyda’r newid yn hytrach na’i wrthwynebu?
Ym mha ffyrdd y galwch chi ddathlu’r newid?

Mae newid yn digwydd.
Mae’r ffordd rydych chi’n ymateb i ‘newid’ yn dibynnu arnoch chi.

Dyddiad cyhoeddi: Gorffennaf 2011    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon