Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Llwyddiant: Mae’n bosib i freuddwydion ddod yn wir

gan Jude Scrutton

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Ystyried sut mae dynoliaeth wedi ymdrechu i gyflawni gweithredoedd mawr, ac awgrymu efallai y gallwn ninnau ryw ddydd gyflawni’r pethau rydyn ni’n dymuno eu gwneud.

Paratoad a Deunyddiau

  • Ceisiwch gopi o’r llyfr i blant, Papa, please get the moon for me, gan Eric Carle (ar gael yn y rhan fwyaf o ysgolion). Neu fe allech chi lwytho i lawr y fideo o’r stori.
  • Model o’r lleuad.
  • Clip ffilm o’r glaniad ar y lleuad, ar gael yn hawdd oddi ar y Rhyngrwyd. (Gweddol yw ansawdd y ffilm oherwydd bod technoleg yn gyntefig ar y pryd, o’i gymharu â safonau technoleg heddiw.)

Gwasanaeth

  1. Gofynnwch: Oes rhywun yn gallu dweud beth yw’r lleuad? Sut le sydd yno tybed?

  2. Dangoswch y llyfr gan ddweud y stori yn eich geiriau eich hun, neu dangoswch y fideo o’r stori. Holwch y plant oedd hi’n bosib gwneud yr hyn a wnaeth y tad i’w ferch fach? Ystyriwch pa mor hir y byddai’n rhaid i’r ysgol fod.

  3. Gofynnwch eto: Beth ydych chi’n feddwl oedd y bobl fyddai’n byw ers talwm, flynyddoedd maith yn ôl, yn ei ddweud oedd y lleuad? Sut rydyn ni’n gwybod llawer mwy am y lleuad y dyddiau hyn nag oedd ein cyndeidiau ni ers talwm?

    Eglurwch fod dyfeisiadau fel lloerennau a rocedi wedi ei gwneud hi’n bosib i ni ddod i wybod mwy am ddeunydd y lleuad a’r atmosffer o’i gwmpas.

  4. 42 o flynyddoedd yn ôl, ym mis Gorffennaf, fe laniodd y dynion cyntaf ar y lleuad. Dyma daith a gyflawnwyd gan wyddonwyr yr Unol Daleithiau. Y llong ofod a deithiodd trwy’r gofod i’r lleuad gyntaf oedd yr Apollo 11.

    Gofynnwch i’r plant ydyn nhw’n gwybod enwau’r bobl gyntaf i deithio i’r lleuad (Neil Armstrong, Michael Collins a Edwin ‘Buzz’ Aldrin.)

  5. Ar 16 Gorffennaf 1969, cododd Apollo 11 oddi ar wyneb y ddaear. Yna, dri diwrnod ar ôl gadael maes disgyrchiant y ddaear, fe aeth y llong ofod i gylchdroi o gwmpas y lleuad. Wedyn fe ddringodd Armstrong ac Aldrin i long ofod fechan a oedd yn addas i’w cludo i lanio ar y lleuad, llong lanio o’r enw  Eagle. Gyda chwythiad cryf o’r peiriant fe wahanodd yr Eagle oddi wrth Apollo 11 ac anelu am wyneb y lleuad. Gadawyd Michael Collins i ofalu am yr Apollo tra roedd y llong ofod honno’n parhau i gylchdroi o gwmpas y lleuad.

    Ar 20 Gorffennaf, am 8.17 p.m., glaniodd Armstrong ac Aldrin yr Eagle ar wyneb y lleuad mewn man sy’n cael ei alw’n Sea of Tranquillity (nid m môr go iawn, ond man creigiog tua maint cae pêl-droed).

    Ar 21 Gorffennaf, am 2.56 a.m., fe gamodd Neil Armstrong allan o’r llong ofod a cherdded ar wyneb y lleuad. Tua ugain munud yn ddiweddarach, fe’i dilynwyd gan Buzz Aldrin. Dyma’r ddau fod dynol cyntaf erioed i gerdded ar y lleuad. Treuliodd y llong lanio, Eagle, 21 awr a 31 munud ar y lleuad.

    Daeth y tri gofodwr yn ôl i’r ddaear, a 21.5 kg o greigiau o’r lleuad gyda nhw. Glaniodd eu llong ofod yn y Môr Tawel ar 24 Gorffennaf. Roedden nhw wedi llwyddo i gyflawni rhywbeth a oedd, cyn hynny, yn ymddangos yn amhosibl.

Amser i feddwl

Meddyliwch beth yr hoffech chi ei gyflawni.
Beth fyddech chi’n hoffi gallu ei wneud, rhywbeth sy’n ymddangos yn amhosibl ar hyn o bryd efallai?
Wyddoch chi ddim, efallai ryw ddydd y byddwch chi’n llwyddo.

Gweddi

Gawn ni gyd weddïo Gweddi’r Arglwydd:
Ein Tad, yr hwn wyt yn y nefoedd ....

Cân/cerddoriaeth

Walking on the Moon’ gan  Police

Dyddiad cyhoeddi: Gorffennaf 2011    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon