Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Neges Yn Y Botel

gan The Revd Alan M. Barker

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Darparu ymateb i newid annisgwyl neu brofedigaeth yn yr ysgol.

Paratoad a Deunyddiau

  • Paratowch botel blastig clir gyda’r neges ganlynol ynddi wedi’i hysgrifennu ar bapur: ‘Yn meddwl amdanoch chi’.
  • Os yw’r gwasanaeth hwn yn cael ei ddefnyddio oherwydd bod cymuned yr ysgol yn wynebu profedigaeth, fe allech chi lunio bwrdd teyrnged gan ddefnyddio llun a geiriau addas, tywod, graean, cerrig man, cregyn ac ati. Gosodwch nifer o boteli bach gwag yn y trefniant.

Gwasanaeth

Os yw cymuned yr ysgol yn wynebu profedigaeth

Dechreuwch trwy amlinellu’r amgylchiadau a soniwch am y teimladau cymysg o dristwch a balchder y mae pobl yn eu teimlo. Symudwch ymlaen wedyn i rannau 1-4 sy’n dilyn, gan eu haddasu fel bo’n briodol.

Rhowch gyfle i’r plant roi eu meddyliau mewn geiriau yn y poteli ar y bwrdd teyrnged. Atgoffwch nhw eu bod hi’n bosib iddyn nhw sgwrsio ag aelod o’r staff a’r gwasanaeth cefnogi os hoffen nhw wneud hynny.

Newid annisgwyl

  1. Cyflwynwch y thema trwy gyfeirio at stori drist fu yn y newyddion yn ystod mis Awst 2010 (Daily Telegraph, 6 Awst 2010).

    Roedd nifer o weithwyr yn clirio olew oedd wedi arllwys i’r môr yng Ngwlff Mecsico, ac fe ddaethon nhw o hyd i botel gyda neges ynddi. Yn drist iawn, roedd y neges yn nodi marwolaeth milwr a oedd wedi bod yn gwasanaethu yn Afghanistan. Roedd y neges wedi ei hysgrifennu gan fam milwr o’r enw James Prosser, a oedd wedi cael ei ladd ym Medi 2009 gan fom oedd wedi ei gadael ar ochr y ffordd. Roedd y botel wedi cael ei thaflu i donnau’r môr oddi ar gwch tra roedd teulu James ar eu gwyliau yn Barbados. Roedden nhw wedi mynd i Barbados oherwydd eu bod yn teimlo na fedren nhw wynebu adeg y Nadolig gartref hebddo.

    Fe arnofiodd y botel yn y môr am tua 1,300 o filltiroedd ac fe’i codwyd hi allan o’r dwr gan nifer o ddynion a oedd yn glanhau’r traethau ar Ynys Horn, ger Louisiana. Wedi iddyn nhw ddarllen y neges oedd yn y botel am James, fe wnaethon nhw anfon llythyr at deulu James. Dyma addasiad o gynnwys y llythyr:

    ‘Ni all geiriau ddatgan ein cydymdeimlad dwysaf â chi fel teulu yn eich profedigaeth o golli James. Rydym yn talu teyrnged i James am ei wasanaeth yn Afghanistan, ac rydym yn cydnabod y cryfder a’r hyder sydd ei angen i wasanaethu yn y lluoedd arfog. Roedd dod o hyd i’r botel gyda’r neges yn rhywbeth nad anghofiwn ni byth.’

    Pan fyddwn ni’n wynebu newidiadau annisgwyl mae’n bwysig iawn gwybod bod pobl eraill yn deall sut rydyn ni’n teimlo. (Dyna beth yw ystyr cydymdeimlad).  

  2. Mae hefyd yn beth da os ydych chi’n gallu mynegi eich teimladau neu ddweud sut rydych chi’n teimlo. Dyna pam yr ysgrifennodd mam James y neges a’i rhoi yn y botel. Fe ddywedodd hi ei bod wedi gwneud hynny am ei bod eisiau gwneud pawb yn ymwybodol ein bod yn gyfrifol am y byd rydyn ni’n byw ynddo, a pheidio ag anghofio’r milwyr sydd wedi rhoi eu bywydau.’

  3. Roedd y dynion ddaeth o hyd i’r botel ar y traeth yn delio â newid annisgwyl o fath gwahanol. Ar ôl ffrwydrad ar y rig olew, roedd swm mawr o olew wedi arllwys i’r môr a hwnnw wedi’i olchi i’r lan a thros y traethau. Cafodd planhigion a chreaduriaid morol eu dinistrio ac fe gafodd mannau hardd eu hanharddu. Fe wnaeth y trychineb hwn bawb yn ymwybodol ein bod yn gyfrifol am y byd rydyn ni’n byw ynddo.

    Mae awydd  newid pethau er gwell yn un ffordd arall o ymateb yn gadarnhaol i newyddion drwg.

  4. Cyfeiriwch at y nodyn yn y botel ac at yr ateb a anfonwyd gan y dynion a ddaeth o hyd iddi. Gwahoddwch aelodau cymuned yr ysgol i feddwl am bobl sydd wedi eu hysbrydoli a’u helpu nhw.

    Sut y bydden nhw’n hoffi newid y byd er gwell?

    Pa fath o neges o obaith y bydden nhw’n hoffi ei rhoi mewn potel?

Amser i feddwl

(Yn achos ysgolion eglwys, efallai yr hoffech chi osod geiriau o’r Beibl mewn potel i gyflwyno’r amser i feddwl, er enghraifft: fe ddywedodd Iesu, ‘Ac yn awr, yr wyf fi gyda chwi yn wastad hyd ddiwedd amser’ (Mathew 28.20).)

Gwahoddwch bawb i gofio pa mor bwysig yw deall a chydymdeimlo, ac i ystyried sut y gallen nhw gynnig cysur ac anogaeth ar adegau o newidiadau annisgwyl.

Rhowch gyfnod byr yn gyfle i’r plant dreulio moment mewn gweddi bersonol neu gyda’u meddyliau personol.

Cân/cerddoriaeth

Fe allech chi lwytho i lawr y gân, ‘Message in a bottle’ gan y band Police i’w chwarae wrth i’r plant ymadael â’r gwasanaeth.

Dyddiad cyhoeddi: Gorffennaf 2011    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon