Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Gormod O Bethau Newydd

Gwerthfawrogi bod rhywbeth newydd yn gallu bod yn rhywbeth cyffrous, ond y gall fod yn heriol hefyd.

gan Janice Ross

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 1

Nodau / Amcanion

Gwerthfawrogi bod rhywbeth newydd yn gallu bod yn rhywbeth cyffrous, ond y gall fod yn heriol hefyd.

Paratoad a Deunyddiau

  • Bag gyda gwrthrychau amrywiol ynddo: fe ddylai’r rhain fod yn bethau anghyffredin ac anghyfarwydd, yn destun dyfalu, ac yn ymwneud â’r pum synnwyr. Detholiad da fyddai pethau fel:

    –  ffrwyth anghyffredin fel ffrwyth seren, star fruit (blasu)
    –  rhodau Cuisenaire (cyffwrdd)
    –  chwyddwydr (gweld)
    –  trawfforch (clywed)
    –  creision ag arogl cryf arnyn nhw, fel rhai blas halen a finegr (arogli).

Gwasanaeth

  1. Dywedwch wrth y plant fod gennych chi, heddiw, nifer o wrthrychau mewn bag. Dydych chi ddim yn siwr fydd y plant yn gwybod beth yw’r gwrthrychau, neu a fyddan nhw’n eu hoffi, ond does dim yn y bag fydd yn gwneud niwed iddyn nhw.

    Gofynnwch am wirfoddolwr i ddod ymlaen atoch chi a thynnu un gwrthrych o’r bag.

    os yw’n gallu, dylai’r plentyn ddweud rhywbeth y mae’n ei wybod am y gwrthrych, er enghraifft, ei enw, sut y byddwn yn ei ddefnyddio, ac ati.

    Gwnewch yr un fath gyda’r pum gwrthrych.

  2. Eglurwch i’r plant bod llawer o bethau newydd iddyn nhw eu profi yn yr ysgol o ddydd i ddydd.

    –  Weithiau fe fyddan nhw’n blasu pethau newydd, fel y ffrwyth.
    –  Weithiau fe fyddan nhw’n edrych yn fanwl ar bethau newydd trwy chwyddwydr.
    –  Weithiau fe fyddan nhw’n clywed pethau newydd, fel swn y drawfforch.
    –  Weithiau fe fyddan nhw’n gweithio gyda phethau newydd, fel y rodiau Cuisenaire.
    –  Weithiau fe fyddan nhw’n arogli arogleuon newydd, fel y creision hyn. Eglurwch mai o dro i dro y byddwch yn prynu’r creision!

    Mae’r ysgol yn lle diddorol gan fod cymaint o bethau newydd yn digwydd yn barhaus.

  3. Er hynny, yn awr ac yn y man, fe allwn ni gael gorddos o bethau newydd.

    Eglurwch ystyr y gair ‘gorddos’ trwy ofyn i’r plant ydyn nhw wedi bod mewn parti pen-blwydd, ryw dro, lle’r oedd llawer iawn o fwydydd wedi eu gosod ar y bwrdd. Holwch y plant beth yw eu hoff fwydydd mewn parti. Holwch wedyn oes rhai o’r plant yn cofio mynd adref o barti pen-blwydd gyda phoen yn eu bol ac yn teimlo ychydig bach yn sâl oherwydd eu bod wedi bwyta gormod o jeli, neu marshmallows, neu ormod o gacennau siocled (neu beth bynnag oedd  y plant wedi nodi fel eu hoff ddanteithion). Er bod bwydydd parti pen-blwydd yn fendigedig, mae’n hawdd iawn bwyta gormod ohono – a chael ‘gorddos’.

    Mae’r sefyllfa rywbeth yn debyg yn yr ysgol, hefyd. Mae pethau newydd yn ddifyr ac yn hyfryd, ond weithiau fe allwch chi gael gorddos o bethau newydd. Pan fydd hyn yn digwydd, mae’n gallu achosi poen bol efallai, neu wneud i chi deimlo ychydig bach yn sâl. Bydd rhai yn teimlo wedi blino ac yn teimlo braidd yn sarrug. Fe allech chi hyd yn oed deimlo fel dweud, ‘Rydw i eisiau mynd adref!’

    Mae ateb syml. Fe allech chi ddweud wrth eich athro neu eich athrawes sut rydych chi’n teimlo, ac efallai y cewch chi dreulio ychydig o amser ar ben eich hun yn gwneud rhywbeth yn dawel am ysbaid - rhywbeth rydych chi’n mwynhau ei wneud, fel darllen llyfr, lliwio llun  neu chwarae gêm. Mae’n braf cael gwneud yr hen bethau cyfarwydd hefyd weithiau!

  4. Eglurwch fod Iesu yn athro gwych. Roedd ganddo lawer iawn o bobl yn ei ddilyn ac yn awyddus iawn iddo eu dysgu. Fe fyddai Iesu’n sôn wrthyn nhw am yr adar yn yr awyr, a’r blodau a’r cynhaeaf yn y caeau. Fe fyddai yn eu dysgu tra roedden nhw wrthi’n cael picnic, neu tra roedden nhw yn pysgota.

    Ond, yn awr ac yn y man, fe fyddai Iesu’n sylwi bod ei ffrindiau’n edrych yn flinedig. Efallai eu bod wedi cael gorddos o bethau newydd. Fe fyddai’n dweud wrthyn nhw, ‘Dewch o’r neilltu am sbel fach, i ni gael gorffwys.’

    Weithiau, fe fydden nhw’n hoffi dringo i ben bryn er mwyn mynd oddi wrth y tyrfaoedd, a dod o hyd i le tawel i orwedd yno a hepian cysgu ar bnawn braf. Yna, fe fydden nhw’n dod i lawr yn ôl o ben y bryn, wedi adfywio ac yn barod i ddysgu rhagor o bethau newydd.

Amser i feddwl

Meddyliwch am un peth newydd rydych chi’n mwynhau ei wneud yn yr ysgol.
Efallai y cewch chi gyfle heddiw, ar adeg dawel, i dynnu llun y gweithgaredd newydd hwnnw i’w arddangos.

Gweddi
Annwyl Dduw Dad,
diolch i ti am yr holl bethau newydd sydd i’w gwneud
ac i ddysgu amdanyn nhw yn yr ysgol.
Mae hynny’n gymaint o hwyl.
Diolch i ti am ein hathrawon sy’n cynllunio’r dyddiau ar ein cyfer.
Diolch i ti hefyd am ffrindiau i ddysgu gyda nhw.

Dyddiad cyhoeddi: Medi 2011    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon