Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Byd Rhyfeddol Planhigion : Gwasanaeth diolch am y cynhaeaf

Deall pa mor bwysig yw planhigion, a dathlu hynny.

gan The Revd Alan M. Barker

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 1/2

Nodau / Amcanion

Deall pa mor bwysig yw planhigion, a dathlu hynny.

Paratoad a Deunyddiau

  • Mae’r gwasanaeth hwn yn addas ar gyfer cyflwyniad dosbarth. Gallai grwpiau o blant ymchwilio i agwedd ar ddefnyddio planhigion a chyflwyno’n gryno yr hyn maen nhw wedi’i ddysgu.
  • Casglwch ynghyd amrywiaeth o ddeunyddiau cyffredin i arddangos y gwahanol ddefnydd a wneir o blanhigion, er enghraifft, bresychen a thorth o fara; balwn; darn o bren a morthwyl neu fwyell gyda choes bren; bocs o fatsis; darn o lo neu lamp nwy ar gyfer gwersylla; model bach o gar ac esgidiau glaw; crys-T cotwm a gwlân cotwm; bocs gwag o dabledi asbirin; siampw neu gel cawod sy’n cynnwys echdynnyn o blanhigion; llyfr, llyfr nodiadau a phensil.
  • Bwrdd neu arwynebedd wedi’i godi i wneud arddangosiad ‘byd planhigion’.
  • Fe fyddai’n bosib taflunio lluniau priodol o’r planhigion a’r prosesau sydd dan sylw, ar gyflwyniad PowerPoint.
  • Yn achos y cymunedau ysgol a fyddai’n dymuno cynnwys darlleniad o’r Beibl yn eu dathliad o ddiolchgarwch am y cynhaeaf, fe allech chi addasu adnodau o Salm 104 i’w cyd-lefaru. Mae adnodau 1, 10–18, 27, 30–31, 33 yn fynegiant cadarnhaol o ddiolchgarwch.

Gwasanaeth

  1. Cyflwynwch y thema trwy ddweud: Ar adeg y diolchgarwch, fel hyn, gadewch i ni fod yn ddiolchgar am blanhigion. Efallai nad ydyn nhw i gyd yn edrych yn ddiddorol iawn, ond mae llawer iawn o bethau yn ein byd yn dibynnu ar fyd rhyfeddol planhigion.

    Gan ddal ati ar gyflymdra da, rhowch sylwebaeth ar y pryd ar yr eitemau sydd gennych chi yn eu tro, gan eu dal i fyny fesul un i’r plant eu gweld, a threfnwch nhw i ffurfio arddangosfa ‘byd rhyfeddol planhigion’.

    -  Ar adeg y diolchgarwch, fe fyddwn ni’n diolch am y planhigion rydyn ni’n eu bwyta, nid yn unig y llysiau fel y fresychen, ond hefyd am y gronynnau gwenith sy’n cael eu malu’n flawd, a hwnnw yn ei dro yn cael ei ddefnyddio i wneud bara.

    Mae cymaint o bethau’n dod o blanhigion! Hyd yn oed yr aer rydyn ni’n ei anadlu! (Chwythwch aer i’r balwn). Mae planhigion yn cynhyrchu’r ocsigen y mae ar ein hysgyfaint a’n corff ei angen.

    -  Heb blanhigion, sut y byddem ni’n gallu adeiladu ein cartrefi a’n hysgolion? Mae’r coed yn rhoi i ni’r pren rydyn ni ei angen i greu lloches a dodrefn. Ac mae pren weithiau’n rhan o’r offer sy’n cael eu defnyddio i wneud y gwaith hwnnw.

    -  Pan fydd y tywydd yn oer, planhigion yw deunydd crai peth o’r tanwydd fyddwn ni’n ei ddefnyddio. Bydd pren yn cael ei ddefnyddio i wneud matsis, a bydd rhai yn gwneud tân i gadw’n gynnes wrth losgi pren. Mae’r glo a’r nwy, sy’n cael eu tynnu o grombil y ddaear i’w ddefnyddio fel tanwydd, yn dod o blanhigion a oedd yn tyfu ar wyneb y ddaear tua 350 miliwn o flynyddoedd yn ôl!

    -  Mae’r petrol a’r olew sy’n cael eu defnyddio mewn ceir a lorïau hefyd yn dod o ddeunydd planhigion. Ac mae bio-diesel yn cael ei wneud o hadau cnydau sy’n cael eu tyfu y dyddiau hyn, a’r hadau wedi eu gwasgu i gael yr olew ohonyn nhw.

    -  Wrth i ni deithio, mae planhigion eraill yn bwysig iawn hefyd. Caiff rwber naturiol ei ddefnyddio ar gyfer gwneud rhai rhannau o’r car. Ac os nad oes gennych chi gar, efallai bod gennych chi esgidiau glaw wedi eu gwneud o rwber!

    -  Mae rhai o’n dilladau wedi cael eu gwneud o ddeunydd planhigion! Yn aml bydd crysau-T a  jîns wedi eu gwneud o gotwm. Cotwm yw’r ffibr gwyn sy’n tyfu oddi amgylch hedyn y planhigyn cotwm.

    -  Mae ein hiechyd yn dibynnu ar blanhigion hefyd. Roedd llawer o feddyginiaeth ar y dechrau wedi eu gwneud trwy ddefnyddio blodau, dail neu wreiddiau planhigion. Mae asbirin, er enghraifft wedi eu gwneud o ddeunydd sydd i’w gael yn rhisgl y pren helyg.

    -  Bydd planhigion yn ychwanegu persawrau i’n byd hefyd, ac yn cael eu defnyddio mewn ambell siampw neu gel cawod. Fyddai ein byd ddim ag arogl mor hyfryd oni bai am y planhigion!

    -  Ac fe fyddai dysgu yn llawer mwy anniddorol. Dychmygwch ysgol heb lyfrau! A heb goed, fyddai dim mwydion pren i’w droi’n bapur - a dim pensiliau ychwaith!

  2. Diweddwch trwy wneud sylw bod cymuned yr ysgol yn awr yn gweld faint y mae ein byd yn dibynnu ar fyd rhyfeddol planhigion. Ar adeg diolchgarwch am y cynhaeaf, rydyn ni’n dathlu adnoddau cyfoethog y ddaear ac yn ystyried sut mae eu defnyddio’n ddoeth. Wrth ofalu am blanhigion, fe fyddwn ni’n gofalu am y blaned, ac mae hyn yn ein cysylltu â phobl eraill ledled y ddaear.

Amser i feddwl

Darlleniad o Salm 104 (gwelwch yr adran ‘Paratoad a deunyddiau’).

Gwahoddwch aelodau o gymuned yr ysgol i gofnodi eu synnwyr o ryfeddod a diolchgarwch ar ddarn o bapur gwyrdd siâp deilen. Ychwanegwch y rhain at yr arddangosfa o ddiolchgarwch am fyd planhigion, a’u defnyddio fel canolbwynt i fyfyrio a gweddïo.

Dyddiad cyhoeddi: Medi 2011    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon