Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Newydd

Atgoffa’r plant am y llawenydd a deimlwn wrth gael pethau newydd, ac am y cyfleoedd o newid a ddaw gyda phob diwrnod newydd.

gan Helen Redfern

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 1/2

Nodau / Amcanion

Atgoffa’r plant am y llawenydd a deimlwn wrth gael pethau newydd, ac am y cyfleoedd o newid a ddaw gyda phob diwrnod newydd.

Paratoad a Deunyddiau

Pedwar darllenydd a rhywfaint o ‘bropiau’ syml os dymunwch (gêm Playstation, neu gêm debyg, jam siocled, esgidiau glaw, llyfr nodiadau, pad braslunio mawr a phen neu bensil).

Gwasanaeth

  1. Arweinydd  Onid ydi ‘newydd’ yn air rhyfeddol?  Mae’n air llawn cyffro a disgwyliad.  Mae’n orlawn o hapusrwydd a chyfleoedd. Onid ydi pethau newydd yn rhyfeddol?  Dyma rai enghreifftiau gwych.

    Darllenydd 1  Pan fyddaf yn cael gêm Playstation newydd, rydw i’n llawn cyffro. Rwy’n methu disgwyl nes y caf i dynnu’r papur lapio ac agor y bocs.  Mae’r ddisg mor sgleiniog, heb grafiadau nac olion bysedd arno.  Mae’n wefreiddiol.

    Darllenydd 2  Rydw i wrth fy modd pan mai fi yw’r cyntaf i agor jar o siocled taenu.  Mae agor y caead a thynnu’r gorchudd aur mor gyffrous.  Suddo fy nghyllell i’r wyneb siocled llyfn am y tro cyntaf yw’r peth gorau erioed.

    Darllenydd 3  Un bore yn y gaeaf, mi wnes i ddeffro ac edrych allan drwy’r ffenest, ac mi welais i rywbeth anghredadwy.  Roedd yr ardd wedi ei gorchuddio ag eira newydd perffaith lân, heb ei gyffwrdd gan neb. Roeddwn i’n methu disgwyl nes byddwn i’n cael rhedeg i lawr y grisiau a gwisgo fy esgidiau glaw.  Agorais y drws yn llydan, ac roeddwn i mor hapus pan gerddais allan i’r perffeithrwydd gwyn hwn.

    Darllenydd 4  Fy hoff beth yw cael llyfr gwaith newydd yn yr ysgol.  Rydw i wrth fy modd yn agor y llyfr am y tro cyntaf ac ysgrifennu’r geiriau cyntaf ar dudalen newydd sbon.
  1. Arweinydd  Mae pawb ohonom yn gyfarwydd â’r llawenydd sy’n dod yn sgil pethau newydd.  Nid oes unrhyw beth yn fwy cyffrous na dalen lân o bapur (daliwch lyfr ysgrifennu a beiro yn eich llaw).  Rydw i’n dysgu sut i dynnu llun . . . beth ydych chi’n ei feddwl o hwn? (Tynnwch lun gwael o gath.)  Rydych chi’n iawn, dydi o ddim yn dda iawn.  Rwy’n meddwl y gwna i rwygo’r dudalen yma a dechrau eto.  Beth am hwn?  (Tynnwch lun cath arall, ychydig yn well na’r llall ond ddim yn dda iawn.)  Ddim digon da o hyd?  Mi wna i rwygo’r dudalen yma eto ac ailddechrau. (Tynnwch lun llawer gwell o gath.)  Dyna ni, mae hwn yn llawer gwell.  Fe wna i gadw’r llun yma, a dal ati i weithio arno eto yn nes ymlaen.

    Onid yw hi’n wych gallu dechrau eto pan fyddwn ni’n gwneud llanast o bethau neu’n gwneud camgymeriad?  Mae yr un fath â chael dalen wag o bapur i roi cynnig arall arni.  Mae bywyd yn debyg i hynny, hefyd.
  1. Darllenydd 1  Ar ddechrau’r flwyddyn newydd hon, penderfynais geisio bwyta rhagor o ffrwythau a gwneud rhagor o ymarfer corff.  Rydw i’n bwrw ymlaen yn reit dda ac yn teimlo’n fwy iach yn barod.

    Darllenydd 2  Rydw i wrth fy modd yn troi fy nghalendr drosodd ar ddiwedd y mis, a dechrau tudalen newydd, a mis newydd hefyd.  Y mis hwn, rydw i am geisio brwsio fy nannedd yn ofalus bob bore a phob nos.

    Darllenydd 3  Os ydw i wedi cael wythnos wael, mae’n braf gorwedd yn fy ngwely ar nos Sul yn meddwl am yr wythnos newydd sydd o’m blaen.  Yr wythnos hon, rydw i am geisio bod yn fwy caredig tuag at fy ffrindiau yn yr ysgol.

    Darllenydd 4:  Rydw i bob amser yn ceisio cofio fod pob diwrnod yn ddiwrnod newydd.  Os ydw i wedi gwneud camgymeriadau, neu wedi gwneud rhywbeth o’i le, yna fe allaf roi cynnig arall arni’r diwrnod canlynol.

Amser i feddwl

Gadewch i ni dreulio rhywfaint o amser yn meddwl yn dawel am yr hapusrwydd sy’n gallu dod yn sgil pethau newydd –
ci bach newydd, baban newydd, tegan newydd, profiad newydd.
Gadewch i ni ddiolch am y pethau hyn.

(saib)

Yn awr, gadewch i ni feddwl am gyfleoedd newydd a gawn ni yn ystod ein bywydau – blwyddyn newydd, mis newydd, wythnos newydd, diwrnod newydd.
Treuliwch ychydig o amser yn myfyrio ar beth hoffech chi ei newid,
beth fyddech chi’n hoffi ei wneud yn wahanol.

(saib)

Cofiwch, mae pob diwrnod fel dalen lân o bapur.
Mae pob diwrnod yn gyfle newydd.
Onid yw hynny’n gyffrous?
Awn amdani!

Gweddi
Gwrandewch ar eiriau’r weddi hon, ac os hoffech chi, fe allech chi eu troi’n weddi i chi eich hunan hefyd:

Dduw Dad,
Rydym yn diolch i ti am yr hapusrwydd sy’n gallu dod yn sgil pethau newydd.
Rydym yn diolch i ti am gyfleoedd newydd yn ein bywydau.
Helpa ni i fod yn ddigon dewr i newid pethau.
Helpa ni i wneud gwahaniaeth.
Diolch i ti am bethau newydd.
Amen.

Os ydych chi’n teimlo eich bod chi angen help i newid rhywbeth, yna siaradwch gydag aelod o’ch teulu, neu gyda ffrind neu athro.  Weithiau, rydym angen cefnogaeth ac anogaeth wrth newid pethau.

Dyddiad cyhoeddi: Medi 2011    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon