Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Dewisiadau : Pwy ddylwn i ei ddilyn?

Annog y plant i feddwl am sut maen nhw’n gwneud penderfyniadau.

gan Christopher Ruddle

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 2

Nodau / Amcanion

Annog y plant i feddwl am sut maen nhw’n gwneud penderfyniadau.

Paratoad a Deunyddiau

  • Potel o Diet Coke a photel o cola brand siop / brand rhad - newidiwch gynnwys y poteli, gan ddefnyddio jwg a thwmffat/twndis.
  • Tun bychan o ffa pob Heinz a thun bychan o ffa pob rhad – newidiwch gynnwys y rhain, hefyd.
  • Pecyn o CocoPops Kellogg’s a phecyn o rawnfwyd reis siocled rhad – unwaith eto, newidiwch gynnwys y rhain.
    (Ym mhob achos, gallech ddefnyddio brandiau eraill os ydych chi’n dymuno.)
  • Byddai stori Elias a Phroffwydi Baal (adran 3), yn wych fel drama neu gyfres o ddarluniau stori fel tableau.  Mae cyflwyniad PowerPoint Saesneg o’r stori hon ar gael i’w lwytho i lawr o wefan Scripture Union – http://www.scriptureunion.org.uk/uploads/wordlight/resources/PowerPoint%20for%20Bible%20story%20with%20PowerPoint.ppt
  • Mae stori Elias i’w chael yn 1 Brenhinoedd 18.17–40.

Gwasanaeth

  1. Dechreuwch drwy ddweud wrth y plant ein bod ni heddiw yn mynd i drafod sut rydym yn gwneud penderfyniadau – pa un ai dilyn y dorf ydyn ni, neu a ydyn ni’n meddwl drosom ein hunain.

  2. Gofynnwch i rywun wirfoddoli i flasu diet Coke a’r Cola rhad, gan holi ar ba un y mae’r blas gorau.

    Ewch drwy’r un broses gyda’r ffa pob oer a’r grawnfwyd reis siocled (Efallai y bydd angen i chi egluro fod pobl yn meddwl bod blas gwell ar gynnyrch brandiau enwog gan eu bod yn ddrytach ac yn fwy poblogaidd.)

    Dywedwch wrth y plant eich bod chi wedi newid y cynnwys o’r naill i’r llall.  Os oedd yn well gan y plant fwyd a diod y brandiau enwog, dywedwch wrthyn nhw mai bwyd a diod y brandiau rhad yr oedden nhw wedi ei fwynhau fwyaf mewn gwirionedd.  Awgrymwch iddyn nhw y dylen nhw ddweud wrth eu rhieni am brynu’r cynnyrch rhad y tro nesaf os ydi’n well ganddyn nhw’r rheiny!

    Dywedwch wrth y plant ein bod ni’n aml yn penderfynu pethau gan ein bod yn dilyn y dorf – beth mae pobl eraill yn ei feddwl – yn hytrach na phenderfynu drosom ein hunain.
  1. Adroddwch, neu cyflwynwch stori Elias a Phroffwydi Baal (gweler yr adran ‘Paratoad a deunyddiau’).

    -  Roedd pawb yn Israel wedi penderfynu eu bod eisiau dilyn Baal (duw ffug; roedd pobl wedi dychmygu sut un oedd o, o ran pryd a gwedd, ac wedi  gwneud delwau ohono mewn aur ac arian). Roedden nhw’n meddwl ei fod yn gallu rheoli’r tywydd.  Roedd yn cwl dilyn Baal.  Roedd hyd yn oed y brenin yn dilyn Baal.

    -  Roedd Elias yn gwybod nad oedd Baal yn dduw go iawn, a’i fod yn beth gwirion ei ddilyn.  Aeth at y brenin a dweud wrtho am beidio â bod mor wirion.  Ond nid oedd y brenin eisiau gwrando arno.

    -  Dywedodd Elias wrth y bobl am beidio â bod mor wirion.  Roedd yn wirion gweddïo ar dduw a oedd wedi ei wneud o lwmp o aur yn hytrach na gweddïo ar y gwir Dduw, yr Arglwydd.  Ond dywedodd y bobl, ‘Dydyn ni ddim mor siwr.  Mae gan Baal 450 proffwyd, ond rwyt ti ar dy ben dy hun.  Go brin fod pawb ohonyn nhw’n anghywir. Mae hyd yn oed y brenin yn dweud fod Baal yn cwl.’

    -  Felly, heriodd Elias broffwydi Baal i fod yn rhan o gystadleuaeth.  Byddai ef a hwythau’n cynnig offrwm i’w duw i weld pa dduw fyddai’n gallu rhoi’r offrwm ar dân.

    -  Cytunodd proffwydi Baal.  Fe wnaethon nhw gasglu coed a’u rhoi ar fwrdd wedi ei wneud o gerrig (sy’n cael ei alw’n allor).  Fe wnaethon nhw ladd tarw a’i roi ar yr allor, gan ddechrau gweddïo ar Baal.  Fe wnaethon nhw ddechrau gweiddi a gweddïo mor uchel ag y gallen nhw, a dawnsio o amgylch yr allor.  Ond ni ddigwyddodd unrhyw beth.

    -  Chwarddodd Elias wrth eu gweld, a dweud ‘Fe ddylech chi weiddi’n uwch.  Efallai bod Baal yn fyddar!  Efallai ei fod o wedi mynd i’r ty bach, ac nad ydi o’n gallu eich clywed chi!’  Felly, gwaeddodd proffwydi Baal yn uwch fyth.  Ond ni wnaeth Baal eu hateb.

    -  Yna, adeiladodd Elias ei allor o gerrig, gan roi coed arni a rhoi ei darw ar ben y rheiny.  Yna, fe wnaeth rywbeth a oedd yn ymddangos yn wirion.  Tywalltodd ddwr dros ei offrwm, nid unwaith, na dwywaith, chwaith, ond deirgwaith.

    -  Yna, siaradodd gyda’r Arglwydd. ‘Os gweli di’n dda, Arglwydd, dangos i’r bobl mai ti ydi’r gwir Dduw.  Er bod pawb yn meddwl bod Baal yn cwl, dydi o ddim yn bod.  Dangos mai ti ydi’r unig wir Dduw.’

    -  Yna, anfonodd Duw dân o’r nefoedd.  Trodd y dwr yn stêm.  Llosgodd y tân  y tarw, y coed a’r cerrig.  Bu bron i’r tân losgi aeliau Elias gan ei fod mor boeth!  Doedd dim ar ôl o offrwm Elias.

    -  Roedd y dyrfa gyfan yn gwybod mai’r Arglwydd oedd Duw, ac fe ddywedodd pawb, ‘Yr Arglwydd!  Ef yw ein Duw!’
  1. Trafodwch sut rydym yn gwneud penderfyniadau.  Weithiau rydym yn penderfynu fod pethau’n cwl am mai dyna y mae pawb arall yn ei ddweud.

    Yn y maes chwarae, mae’n bosibl y gwnewch chi rywbeth drygionus am fod eich ffrindiau yn gwneud hynny.

    Os ydych chi’n fachgen, efallai bod bechgyn eraill y dosbarth yn dweud, ‘Dydi bechgyn ddim yn hoffi’r peth yma a’r peth arall. . .’  Does dim rhaid i chi fod o’r un farn dim ond am fod pobl eraill yn dweud hynny.

    Os ydych chi’n ferch, efallai bod merched eraill y dosbarth yn dweud, ‘Dydi merched ddim yn hoffi hyn a’r llall. . .’  Nid oes yn rhaid i chi fod o’r un farn dim ond am fod pobl eraill yn dweud hynny.

Amser i feddwl

Meddyliwch am yr adegau pan y byddai’n bosibl i bobl eraill ddylanwadu arnoch chi i wneud penderfyniadau mewn ffyrdd penodol, yn hytrach na phwyso a mesur y dystiolaeth drosoch eich hun.
 
Meddyliwch sut y gallwch chi benderfynu drosoch eich hun, yn hytrach na dim ond dilyn y dorf.

Dyddiad cyhoeddi: Medi 2011    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon