Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Dot Com!

Meddwl pa mor gyflym yw dulliau cyfathrebu heddiw, o’u cymharu ag oes y Rhufeiniaid, ac ystyried a yw cael ein gorlenwi â newyddion yn amharu ar ein gallu i’w ddeall a’i werthfawrogi.

gan Kate Fleming

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Meddwl pa mor gyflym yw dulliau cyfathrebu heddiw, o’u cymharu ag oes y Rhufeiniaid, ac ystyried a yw cael ein gorlenwi â newyddion yn amharu ar ein gallu i’w ddeall a’i werthfawrogi.

Paratoad a Deunyddiau

  • Ffôn symudol.
  • Gliniadur – neu fe allech chi gymryd arnoch eich bod yn tecstio ar eich ffôn symudol.

Gwasanaeth

  1. Dechreuwch y gwasanaeth drwy ddweud rhywbeth fel hyn:  Tra’r ydych chi’n setlo, mi wna i roi caniad sydyn i fy ffrind sy’n byw yn Aberdeen, yn yr Alban, tua xx milltir i ffwrdd’ (gallwch addasu’r lleoliad). Siaradwch ar y ffôn / defnyddiwch y gliniadur, gan ddweud rhywbeth fel:

    Helo Sarah, sut wyt ti? Dim ond galwad sydyn i dy atgoffa di am ben-blwydd Paula.

    (Saib)
     
    Roeddet ti’n cofio – popeth yn iawn!

    (Saib)

Dwi yn yr ysgol, ar fin mynd i arwain gwasanaeth. Mi wna i siarad efo ti wedyn.  Hwyl!

  1. Ewch ymlaen drwy ofyn a allai pawb aros amdanoch ychydig yn hirach, gan eich bod eisiau anfon e-bost (neu neges destun) at eich ffrind Maryanne, sy’n byw yn Phoenix, Arizona, yn Unol Daleithiau America. Yna, dechreuwch deipio, gan siarad wrth i chi (smalio) teipio.

    Helo, Maryanne
    Gobeithio dy fod yn cael wythnos dda, ac yn mwynhau heulwen Arizona. Mae hi braidd yn oer yma, ond roedd yr haf yn braf/wael/iawn.
    Gobeithio fod y gwaith ar y pwll nofio wedi cael ei orffen.
    Cymer ofal, ac mi siaradwn ni eto’n fuan.
    ANFON!
  1. Gofynnwch i’r plant pa bryd bydd eich ffrind yn cael y neges.  Efallai y cewch chi ateb cyn i’r gwasanaeth ddod i ben, oni bai ei bod hi yn ei gwely, wrth gwrs.  Awgrymwch fod y dull hwn o gyfathrebu yn rhyfeddol, er ei fod yn gyffredin iawn erbyn hyn.  Rydym yn clywed am bethau sy’n digwydd ledled y byd i gyd, a hynny o fewn munudau:

    daeargrynfeydd yn India
    sychder yn Ethiopia
    llifogydd yn America
    llofruddiaethau
    coedwigoedd ar dân
    priodasau enwogion
    canlyniadau chwaraeon
    terfysgoedd
    canlyniadau etholiadau
    llongddrylliadau
    arllwysiadau olew.

    Rydym yn cael clywed ar unwaith am bob math o bethau erbyn hyn.  Rydym yn cael ein peledu gyda newyddion.  Eglurwch mai dim od ers tua 20 mlynedd y mae pobl wedi cyfathrebu fel hyn!
  1. Holwch y plant: Beth sy’n gallu digwydd os byddwn yn cael gormod o rywbeth?

    Gormod o siocled?
    Gormod o deledu?
    Gormod o hufen iâ?
    Gormod o bêl-droed?

    Rydych yn cael llond bol, yn blino.  Rydych yn arfer gyda’i gael mor aml.
  1. Holwch: Sut rydych yn meddwl y byddai pobl yn clywed am bethau oedd yn digwydd cyn oes y ffôn a’r cyfrifiadur?  Sut roedd pobl y cyfnod Rhufeinig yn clywed am y newyddion?  Nid ar eu ffonau symudol, na thrwy e-bost, nac ar Twitter na Facebook, nac yn y bwletin newyddion min nos, chwaith.  Sut rydych yn meddwl y clywodd pobl am Iesu?

    Ar lafar.  Gan bobl a oedd yn teithio ar rwydwaith gyfathrebu’r cyfnod - y ffyrdd Rhufeinig hir a syth.  A thrwy lythyrau.  Ysgrifennwyd llythyrau gyda phennau cyrs ar roliau o bapurfrwyn, ac fe fydden nhw’n cael eu cludo gan y teithwyr.  Pwy oedd y teithwyr hyn yn eich barn chi?

    Milwyr yn gorymdeithio o fan i fan i gadw’r heddwch.
    Masnachwyr yn symud o un dalaith i’r llall i brynu a gwerthu nwyddau.
    Athletwyr yn mynd o un bencampwriaeth i’r llall.
    Cenhadon Cristnogol yn lledaenu’r Efengyl.
    Swyddogion y llywodraeth yn casglu trethi ac yn gwirio’r trefniadau ariannol ar hyd a lled yr ymerodraeth.
    Negeswyr yn cludo negeseuon pwysig.
    Ymwelwyr ar eu ffordd i weld rhyfeddodau Rhufain.

    Byddai’r holl bobl hyn yn dod â newyddion yn eu sgil.  Yn amlwg, roedd pethau cymaint arafach bryd hynny, ac roedd gan bobl fwy o amser i werthfawrogi beth oedd yn newyddion, a sut roedd hynny’n effeithio arnyn nhw.  Byddai rhywun oedd yn dod â newyddion gyda nhw yn cael croeso mawr ac yn cael eu gwerthfawrogi.
  1. Allwn ni ddim newid byd cyfathrebu heddiw i fod fel yr oedd ers talwm.  Mae pethau’n mynd yn gynt ac yn gynt, ac ni fyddem eisiau i bethau fod yn wahanol.  Ond mae angen i ni ofalu na fyddwn yn mynd yn imiwn i’r hyn sy’n digwydd i’n cyd-ddyn, neu’n alaru ar hynny neu’n blino ar hynny, nac yn arfer gyda hynny, pa un ai o fewn tafliad carreg y bydd pethau’n digwydd ynteu ym mhen arall y byd.  Yn y byd cyfathrebu rhyfeddol hwn, gadewch i ni fanteisio ar y cyfoeth hwn o wybodaeth sydd ar gael ar unwaith, a dod yn ddinasyddion gwirioneddol gyfrifol.

    Oedwch, a dywedwch rywbeth fel: O, edrychwch!  Mae Maryanne wedi dod yn ôl ataf gyda’i newyddion arbennig o Arizona.
  1. Awgrymwch y gallai pob plentyn ddewis eitem o newyddion a ddigwyddodd yn ystod y 24 awr ddiwethaf, a cheisio cael rhagor o wybodaeth.

Amser i feddwl

Gweddi
Annwyl Dduw,
mae ein byd fel pe bai’n mynd yn llai bob wythnos.
Helpa ni i werthfawrogi ein cyd-ddyn ledled y byd,
a defnyddio dulliau cyfathrebu modern i gynyddu ein dealltwriaeth a’n goddefgarwch.

Dyddiad cyhoeddi: Medi 2011    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon