Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Ffrindiau Newydd

gan Jill Fuller

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Helpu’r plant i adnabod y sgiliau angenrheidiol i wneud ffrindiau newydd.

Paratoad a Deunyddiau

  • Paratowch sefyllfa o’ch profiad eich hun lle buoch chi’n teimlo’n ddieithr ac yn ‘wyneb newydd’ mewn cymuned sefydledig. Gofalwch eich bod yn gallu disgrifio’r sefyllfa’n glir, a byddwch yn barod i archwilio’r teimladau sy’n ymwneud â’r sefyllfa a’r dewisiadau o ran ymddygiad (gwelwch adran 1).

Gwasanaeth

  1. Rhannwch stori gyda’r disgyblion am sefyllfa pan fuoch chi’n ddieithr, efallai mewn parti neu gyfarfod. Disgrifiwch yr olygfa: pawb yn siarad gyda rhywun arall, fel pe baen nhw’n adnabod ei gilydd, yn dweud jôcs ac yn chwerthin.  Mae rhai pobl eisoes yn chwarae gêm o gardiau, yn gweithio gyda’i gilydd, tra’r ydych chi yn sefyll ar eich pen eich hun, yn eu gwylio - beth maen nhw’n ei wisgo, sut maen nhw’n ymddwyn - a theimlo eich bod chi ar y cyrion.

    Holwch y plant sut y bydden nhw wedi teimlo mewn sefyllfa o’r fath: yn lletchwith, yn ofnus, yn nerfus, yn unig, wedi eu cau allan, yn ansicr, wedi eu hanwybyddu, yn flin, wedi eu cyffroi, yn poeni bod y lleill yn chwerthin am eu pen.
  1. Gofynnwch i’r plant ystyried beth allai ddigwydd wedyn.  Pa gyngor fydden nhw’n ei roi i chi?

    Trafodwch beth allech chi ei wneud.  Gadael?  Eistedd mewn cornel ar eich pen eich hun?  Sefyll ar ymyl grwp gan obeithio y bydd rhywun yn sylwi arnoch chi?  Mynd at grwp ac aros am gyfle da i gyflwyno eich hun a gofyn a gewch chi ymuno â nhw?  Gwthio i mewn i’r grwp a dechrau siarad ar unwaith?
  1. Yn awr, gofynnwch i’r plant ddychmygu eu bod nhw ymysg y gwesteion sydd eisoes yn yr ystafell.  Pan fyddan nhw’n sylwi ar y newydd-ddyfodiad, beth fyddan nhw’n ei wneud?  Gofyn i’r dieithryn ymuno â’u grwp?  Eu hanwybyddu nhw a pharhau i siarad gyda’u ffrindiau eu hunain?  Gobeithio y bydd y dieithryn yn mynd oddi yno?  Disgwyl i rywun arall fynd i siarad gyda’r newydd-ddyfodiad?
  1. Helpwch y plant i nodi rhai o broblemau bod mewn sefyllfa newydd.  Efallai bod gan y bobl eraill reolau gwahanol o ran ymddygiad, ffyrdd gwahanol o wneud pethau, a hiwmor gwahanol i’r arfer.  Efallai y bydd yn cymryd amser i ddeall hyn.  Efallai y bydd angen egluro rhai pethau i osgoi camddealltwriaeth.

    Atgoffwch nhw fod Iesu, arweinydd pwysicaf Cristnogion, wedi dangos drwy ei ffordd o fyw bod gofalu am bobl eraill, a’u derbyn, yn bwysig.  Roedd Iesu eisiau creu cymuned o ffrindiau.  Rhoddodd orchymyn: ‘Dyma fy ngorchymyn i: carwch eich gilydd fel y cerais i chwi’. (Ioan 15.12).

Amser i feddwl

Ar ddechrau tymor newydd, efallai y bydd nifer o wynebau newydd yn ein cymuned.  Mewn moment dawel, gadewch i ni fyfyrio gyda’n gilydd ar sut gall pob un ohonom ofalu am ein gilydd a helpu ein gilydd i wneud ffrindiau. (Saib)

Gweddi
Annwyl Dduw,
Dangosodd Iesu i ni pa mor bwysig yw edrych ar ôl ein ffrindiau.
Croesawodd nifer o bobl newydd
a’u helpu i ddod i adnabod ei gilydd a dysgu gan ei gilydd.
Ar ddechrau’r flwyddyn ysgol newydd hon,
helpa ni i fod yn gyfeillgar a chymwynasgar gyda phawb.

Dyddiad cyhoeddi: Medi 2011    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon