Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Beth Sy'n Gwneud Ffrind?

Helpu’r plant i feddwl am beth sy’n gwneud ffrind da.

gan The Revd Sophie Jelley

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Helpu’r plant i feddwl am beth sy’n gwneud ffrind da.

Paratoad a Deunyddiau

  • Clip fideo o’r ffilm Toy Story 3 The Movie (DVD neu oddi ar YouTube, gwelwch adran 2) neu, os nad yw’r dechnoleg gennych chi, argraffwch rai lluniau o’r ffilm (efallai y gallech chi gael benthyg posteri arddangos o siop neu gan adwerthwr).
  • Darlleniad o’r Beibl; mae geiriau Iesu i’w gweld yn Efengyl Ioan 15.12–14.

Gwasanaeth

  1. Sgwrsiwch am brofiad rydych chi wedi’i gael wrth fod yng nghwmni ffrind, er enghraifft, cwrdd â ffrind pan oeddech chi’n brysur iawn, ond roeddech chi’n teimlo’n llawer gwell wedyn.

    Holwch: Beth sy’n gwneud rhywun yn ffrind da?

  2. Dangoswch glip o’r ffilm, Toy Story 3 – naill ai’r olygfa olaf neu’r clip oddi ar YouTube, sef ‘You got a friend in me’.

    Eglurwch bod y ffilmiau Toy Story i gyd yn ymwneud â chyfeillgarwch. Yn y diwedd, mae’r cyfeillgarwch pennaf un wedi datblygu rhwng bachgen o’r enw Andy a’i gowboi tegan Woody. Ac mae hynny oherwydd bod Woody yn bopeth y dylai gwir ffrind da fod.

    Mae Andy’n dweud fod Woody wedi bod yn ffrind da iddo ar hyd yr amser – mae Woody’n ddewr, yn driw ac yn ffyddlon. Fe fydd yno bob amser, a byth yn ei siomi. Dyma’r dyfyniad: ‘Woody’s been my pal for ever – he’s brave and true and loyal. He’ll always be there for you and will never let you down.’ (Efallai yr hoffech chi egluro mai gair Americanaidd am ffrind yw ‘pal’.)

  3. Yn y Beibl, rydyn ni’n darllen bod Iesu wedi dweud hyn, ‘Dyma fy ngorchymyn i chi: carwch eich gilydd fel y cerais i chwi. Nid oes gan neb gariad mwy na hyn, sef bod rhywun yn rhoi ei einioes dros ei gyfeillion. Yr ydych chwi’n gyfeillion i mi os gwnewch yr hyn yr wyf yn ei orchymyn ichwi.’

    Mae Cristnogion yn credu mai mab Duw yw Iesu. Ac mae Cristnogion yn credu bod Iesu’n addo’r math o gyfeillgarwch rydyn ni wedi bod yn sôn amdano nawr (byth yn ein siomi, ac yno bob amser i ni) ac yn credu bod Iesu’n ffrind i bawb, yn cynnwys pob un ohonom ni.

Amser i feddwl

Rhowch eich llaw ar eich glin, gan ymestyn eich bysedd yn llydan Treuliwch foment yn dychmygu bod pob un o’ch bysedd yn cynrychioli un o’ch ffrindiau (ffrindiau ysgol, ffrindiau gartref neu ymhellach i ffwrdd, dim gwahaniaeth pwy ydyn nhw).

Yn awr, rhowch eich llaw arall dros y ‘ffrindiau’, a threuliwch foment yn meddwl am fod y ffrind gorau posib i bob un o’r rhain.

Gweddi

Arglwydd Dduw, diolch dy fod yn dangos i ni beth yw ystyr gwir gyfeillgarwch.

Helpa ni i fod yn ffrindiau sy’n trin pobl eraill yn y ffordd y byddem ni’n hoffi iddyn nhw ein trin ni,

ffrindiau sydd ddim yn siomi pobl eraill,

ac sydd yno bob amser i eraill, dim gwahaniaeth beth sy’n digwydd.

Cân/cerddoriaeth

Cerddoriaeth ychwanegol a argymhellir

‘Gwrandewch ar y gerddoriaeth o’r ffilm Toy Story – ‘You got a friend in me’, gan Randy Newman (ar gael i’w llwytho i lawr oddi ar y rhyngrwyd).

Dyddiad cyhoeddi: Hydref 2011    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon