Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Yn Iawn I Fod Yn Wahanol

Annog myfyrwyr i weld nad oes angen pryderu os yw rhywbeth yn ‘wahanol’, ond bod hynny’n rhywbeth sy’n bosib ei gofleidio a’i ddathlu.

gan Helen Redfern

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 1/2

Nodau / Amcanion

Annog myfyrwyr i weld nad oes angen pryderu os yw rhywbeth yn ‘wahanol’, ond bod hynny’n rhywbeth sy’n bosib ei gofleidio a’i ddathlu.

Paratoad a Deunyddiau

  • Pedwar darllenydd (dau fachgen a dwy ferch) ac, o bosib, rhai ‘props’ syml i ddarlunio’r hyn mae’r plant yn ei ddweud.

Gwasanaeth

  1. Arweinydd (gyda’r ddwy ferch)  Gadewch i mi gyflwyno [Enw] a [Enw]. Maen nhw’n mynd i ddweud ychydig amdanyn nhw’u hunain wrthych chi.

    Merch 1  Rydw i’n hoffi cathod. Mae gen i ddwy gath, eu henwau yw Topsi a Lwsi. Maen nhw mor giwt!

    Merch 2  Mae’n well gen i gwn na chathod. Fe allwch chi fynd a chwn am dro, a chael hwyl yn chwarae efo nhw yn y parc.

    Merch 1  Rydw i wrth fy modd yn gwylio Strictly Come Dancing. Dyna yw fy hoff raglen deledu.

    Merch 2  Rydw i wrth fy modd yn gwylio X-Factor. Rydw i’n edrych ymlaen at nos Sadwrn ac yn methu aros i gael gweld y rhaglen.

    Merch 1  Rydw i’n dda am ddawnsio. Rydw i’n ymarfer bob dydd ar iard yr ysgol.

    Merch 2  Rydw i’n dda am wneud gymnasteg. Rydw i’n mynd i’r clwb ddwy waith yr wythnos.

    Merch 1  Fy hoff liw yw porffor.

    Merch 2  Fy hoff liw i yw pinc.

    Merch 1  Rydw i wrth fy modd yn bwyta ffrwythau, ond dydw i ddim yn hoffi llysiau.

    Merch 2  Rydw i wrth fy modd yn bwyta llysiau. Fydda i ddim yn bwyta llawer o ffrwythau, mewn gwirionedd.

  2. Arweinydd  Wel, mae’r ddwy ferch yn wahanol iawn i’w gilydd, yn dydyn nhw? Maen nhw’n hoffi pethau gwahanol, maen nhw’n dda am wneud pethau gwahanol, ac maen nhw’n hoffi bwyta pethau gwahanol. Sut mae’n bosib iddyn nhw fod yn ffrindiau?

    Gwaetha’r modd, dydyn nhw ddim yn ffrindiau.

    Maen nhw’n cweryla drwy’r amser pa un ai cathod neu gwn yw’r gorau.

    Fyddan nhw ddim yn mynd i gartrefi ei gilydd ar ddydd Sadwrn am na allan nhw gytuno ar beth i’w wylio ar y teledu.

    Fyddan nhw ddim yn chwarae gyda’i gilydd allan am na allan nhw gytuno ar beth i’w chwarae.

    Fydd [Enw] byth yn gwisgo unrhyw beth pinc. Ac fe fydd [Enw] yn osgoi defnyddio’r lliw porffor.

    Fyddan nhw ddim yn bwyta gyda’i gilydd am nad ydyn nhw’n hoffi beth mae’r naill a’r llall yn ei fwyta.

    Dyna i chi drist! Dwy ferch hyfryd a allai fod yn ffrindiau, ond dydyn nhw ddim. Maen nhw’n gadael i’r gwahaniaethau rhyngddyn nhw ddod ar eu traws.

  3. Arweinydd  Gadewch i ni, nawr, gwrdd â’r ddau fachgen, [Enw] a [Enw]. Maen nhw hefyd yn mynd i ddweud ychydig amdanyn nhw’u hunain wrthych chi.

    Bachgen 1  Rydw i wrth fy modd yn chwarae pêl-droed. O’r holl chwaraeon, pêl-droed yw’r gorau.

    Bachgen 2  Rydw i’n hoffi nofio. Rydw i wrth fy modd yn neidio i’r dwr.

    Bachgen 1  Rydw i’n hoffi chwarae gyda’r Xbox. Mae’n grêt, ac rydw i’n cael lot fawr o hwyl.

    Bachgen 2  Rydw i’n hoffi chwarae gyda’r Playstation bob dydd pan fydda i’n dod adref o’r ysgol.

    Bachgen 1  Rydw i’n dda am wneud gwaith rhif.

    Bachgen 2  Rydw i’n dda am ddarllen ac ysgrifennu.

    Bachgen 1  Rydw i wrth fy modd efo Ben 10.

    Bachgen 2  Rydw i’n meddwl mai Spider-Man yw’r gorau.

    Bachgen 1  Rydw i’n cefnogi Newcastle United.

    Bachgen 2  Rydw i’n cefnogi Manchester United.

  4. Arweinydd  Wel, mae’r ddau fachgen hefyd yn wahanol iawn i’w gilydd, yn dydyn nhw? Mae’n well gan [Enw] chwarae pêl-droed; fe fyddai’n well gan [Enw] fynd i nofio. Maen nhw’n dda am wneud pethau gwahanol, ac maen nhw’n cefnogi timau pêl-droed gwahanol. Sut mae’n bosib iddyn nhw fod yn ffrindiau?

    Arweinydd  Y newydd da yw eu bod yn ffrindiau, er hynny.

    Fe fyddan nhw’n cymryd eu tro i ddewis beth i’w chwarae ar yr iard.

    Fe fyddan nhw’n chwarae gyda’r Xbox pan fyddan nhw yng nghartref [Enw], ac yn chwarae gyda’r Playstation pan fyddan nhw yng nghartref [Enw].

    Fe fydd y ddau yn helpu ei gilydd gyda’u gwaith cartref.

    Fe fyddan nhw’n cyfnewid teganau a chardiau a phosteri, fel y gall y ddau ohonyn nhw greu casgliad o’u hoff bethau.

    Maen nhw’n ceisio peidio â bod yn gas ynghylch y tîm pêl-droed y mae’r naill a’r llall yn ei gefnogi. Mae’r naill yn teimlo dros y llall pan fydd ei dîm yn colli, ac yn dathlu pan fydd yn ennill.

    Dyna i chi ardderchog! Er eu bod yn wahanol iawn, maen nhw wedi dod o hyd i ffordd o fod yn ffrindiau. Ac maen nhw’n llawer hapusach oherwydd hynny.

Amser i feddwl

Arweinydd  Wyddoch chi be? Mae’n iawn i fod yn wahanol.

Gadewch i ni feddwl am hynny, am foment, yn dawel.

Mae’n iawn i fod yn wahanol.
Mae’n iawn i fod yn edrych yn wahanol.
Mae’n iawn i fod yn swnio’n wahanol.
Mae’n iawn i fod yn dda am wneud gwahanol bethau.
Mae’n iawn i fod yn hoffi pethau gwahanol.
Mae’n iawn i fod yn hoffi bwyta pethau gwahanol.
Mae’n iawn i gefnogi timau gwahanol.

Fe allwn ni ddewis gadael i ‘fod yn wahanol’ fod yn broblem.
Fe allwn ni ddewis gadael i ‘fod yn wahanol’ fod yn rheswm dros beidio â bod yn ffrindiau.
Neu, fe allwn ni ddewis dod o hyd i ffordd o fod yn ffrindiau er gwaetha’r ffaith ein bod yn wahanol.
Fe allwn ni ddewis peidio â gadael i ‘fod yn wahanol’ fod yn rhwystr i ni.

Beth ydych chi’n mynd i’w ddewis, heddiw?

Gweddi
Gwrandewch ar eiriau’r weddi hon, a’u gwneud yn weddi i chi eich hunan os hoffech chi wneud hynny:

Dduw Dad, rydyn ni’n diolch i ti ein bod ni i gyd yn wahanol.
Fe fyddai bywyd mor anniddorol pe bydden ni i gyd yr un fath.
Helpa ni i gofleidio’r gwahaniaeth.
Helpa ni i ddathlu’r gwahaniaeth.
Helpa fi i fod yn ffrind da.
Gadewch i  ni gofio, bob amser, fod ‘bod yn wahanol’ yn iawn.

Dyddiad cyhoeddi: Tachwedd 2011    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon