Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Blwyddyn Newydd

gan Gordon and Ronni Lamont

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 1

Nodau / Amcanion

Dathlu’r Flwyddyn Newydd.

Paratoad a Deunyddiau

• Darllenwch y gerdd ymlaen llaw.
• Fe fyddai ychydig o gerddoriaeth hamddenol yn ddefnyddiol ar gyfer yr ‘Amser i feddwl’.

Gwasanaeth

1. Dysgwch y gwpled syml yma i’r plant:

Dyma ddechrau Blwyddyn Newydd
Clapiwn ninnau gyda’n gilydd.

Eglurwch y gallan nhw i gyd adrodd y geiriau yma pan fyddan nhw’n eu clywed, a bydd y nifer o weithiau y byddan nhw’n clapio yn cynyddu fesul pennill. Rhowch gynnig ar y ddau bennill cyntaf, yna ewch yn ôl i’r dechrau a’i adrodd hyd y diwedd.

Mae un peth yn wir i ni gyd,
Mae’n Flwyddyn Newydd yn ein byd.
(Pawb) Dyma ddechrau Blwyddyn Newydd
Clapiwn ninnau gyda’n gilydd. (1 clap)

Dau beth fyddai’n fendith i ni
Llawenydd i chi ac i mi.
Dyma ddechrau Blwyddyn Newydd
Clapiwn ninnau gyda’n gilydd. (2 clap)

Tri pheth sy’n bwysig i fach a mawr
Gwên, hwyl a hapusrwydd i bawb yn awr.
Dyma ddechrau Blwyddyn Newydd
Clapiwn ninnau gyda’n gilydd. (3 clap)

Pedwar peth sy’n dod i’n rhan
Dechrau newydd, tymor newydd
Pethau newydd a’n gwna yn ddedwydd
a llefydd newydd i’w gweld.
Dyma ddechrau Blwyddyn Newydd
Clapiwn ninnau gyda’n gilydd. (4 clap)

Pum peth a welaf o’m cwmpas
Fy ffrindiau, fy nheulu
Athrawon a rhai sy’n helpu
A’r ysgol i gyd.
Pum peth a welaf o’m cwmpas
A phawb yn barod eu cymwynas.
Dyma ddechrau Blwyddyn Newydd
Clapiwn ninnau gyda’n gilydd. (5 clap)

A chwech o bethau gennyf fi
Fy hun, fy hwyl a’m syniadau,
Fy chwerthin, fy nawn a’m cryfderau
Chwech o bethau i’w rhannu’n ddiflino
A dyna pam yr wyf yn clapio.
Dyma ddechrau Blwyddyn Newydd
Clapiwn ninnau gyda’n gilydd. (6 clap)


2. Anogwch y plant i roi cymeradwyaeth iawn iddyn nhw’u hunain a gweiddi “BLWYDDYN NEWYDD DDA!”.

Amser i feddwl

Gorffennwch trwy ofyn i bawb dawelu ac aros yn llonydd ar ôl yr holl fwrlwm.
Annwyl Dduw,
Diolch i ti am y Flwyddyn Newydd.
Diolch i ti am ddechreuadau newydd.
Diolch i ti am bopeth newydd.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Ionawr 2012    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon