Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Dydd Mercher Lludw

gan Ronni Lamont

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 2

Nodau / Amcanion

Dysgu’r plant sut daeth yr enw Dydd Mercher y Lludw i fodolaeth, ac esbonio ei arwyddocâd.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen past wedi’i wneud gyda lludw. I wneud hwn fe allwch chi ddefnyddio unrhyw fath o ludw mân. Yn ddelfrydol, dylai’r lludw hwn ddod o groesau Palmwydd a ddefnyddiwyd adeg y Pasg y flwyddyn flaenorol. Gallai eglwys leol roi rhai i chi, neu cysylltwch â chyflenwr crefyddol arbenigol. Fel arall, gallwch wneud lludw o dân dan reolaeth - er enghraifft mewn bin gwastraff neu fwced metal - y tu allan. Defnyddiwch hen bapur ac yna chwalwch y lludw. Yna gwnewch bast o’r lludw. Gallai fod yn ddyfriog, fel paent powdwr. Dim ond mesur bychan fydd ei angen arnoch.
  • Croes balmwydd - eto, efallai y gallech ofyn am un mewn eglwys leol.
  • Bag o siwgr, a lemon.

Gwasanaeth

  1. Dangoswch y siwgr a’r lemon, a gofynnwch pa hoff fwyd y mae’r rhain yn cael eu taenu arno fel arfer – (crempogau).

    Pa bryd y byddwn ni’n bwyta crempogau? (Dydd Mawrth Ynyd)

    Pam mae’r diwrnod hwnnw’n cael ei alw’n Ddydd Mawrth Ynyd? Gan fod pobl yn arfer mynd i’r Eglwys ar y dydd hwnnw i gyfaddef popeth roedden nhw wedi’i wneud yr oedden nhw’n gwybod na ddylen nhw fod wedi ei wneud. Ystyr y gair Ynyd yw cyffesu a derbyn maddeuant, sef dweud am y pethau drwg a wnaethant, fel bod yr offeiriad yn gallu dweud fod Duw yn dweud wrthyn nhw fod popeth yn iawn.

    Felly, fe fyddai’r offeiriad yn eu bendithio, ac fe fydden nhw’n mynd adref, a gwneud crempogau i ddefnyddio’r wyau oedd yn eu ty, yn barod ar gyfer …

  2. ... Dydd Mercher y Lludw, sef y diwrnod sy’n dilyn Dydd Mawrth Ynyd. Gofynnwch a oes unrhyw un yn gwybod pam ei fod yn cael ei alw’n hynny? Dangoswch y lludw, ac esboniwch mai Dydd Mercher y Lludw yw diwrnod cyntaf y Garawys - cyfnod o chwe wythnos o baratoad at y Pasg. Cyfnod o ymprydio yw’r Garawys - cyfnod o fwyta’n llai bras, a gweddïo yn amlach.

    Mae’n gyfnod hefyd i feddwl am yr holl bethau mae pobl yn eu gwneud na ddylen nhw’u gwneud. Mae pobl yn dal i fynd i’r Eglwys ar Ddydd Mercher y Lludw i gael lludw ar eu hwynebau. Esboniwch fod hyn yn arferiad hynafol, ac yn fodd o atgoffa ein hunain ein bod yn gwneud pethau na ddylen ni eu gwneud.

  3. Gofynnwch i blentyn (y byddai ei draddodiad crefyddol yn caniatáu’r hyn a ddaw - ac sydd heb wallt dros ei dalcen!) i ddod i’r tu blaen. Rhowch eich bawd yn y gymysgedd lludw a gwnewch arwydd y groes ar ei dalcen/ei thalcen. Y geiriau i’w hadrodd wrth wneud hyn, y gallwch ddewis eu hadrodd neu beidio, yw:

    ‘Cofia mai lludw wyt ti, ac i ludw y dychweli. Tro i ffwrdd o ffyrdd pechod a bydd yn ffyddlon i Grist.’

    Os ydych chi am ddefnyddio’r geiriau, gwnewch yn siwr eich bod yn dewis plentyn na fydd yn cael ei ddrysu gan y geiriau anghyfarwydd yma! Gadewch i bawb edrych ar y siâp croes mewn lludw ar dalcen y plentyn wrth iddo/iddi ddychwelyd i’w le/lle.

Amser i feddwl

Mewn ennyd o dawelwch, gofynnwch i’r plant feddwl am bethau y maen nhw’n eu gwneud y maen nhw’n gwybod na ddylen nhw’u gwneud. Gofynnwch i’r plant ddweud ‘Mae’n ddrwg gen i’ yn uchel, gyda’i gilydd, ar ôl myfyrdod addas gennych chi.

(Saib)

Gweddi
Am yr holl bethau rydw i’n eu gwneud, a finnau’n gwybod na ddylwn i eu gwneud,
Mae’n ddrwg gen i.
Mae’n ddrwg gen i.

Dyddiad cyhoeddi: Chwefror 2012    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon