Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Troi Yn Erbyn Joseff

Drama i’r dosbarth cyfan, i ddangos sut y gallwn ni, trwy newid ein hagwedd, arbed achosion o fwlio.

gan Janice Ross

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 2

Nodau / Amcanion

Drama i’r dosbarth cyfan, i ddangos sut y gallwn ni, trwy newid ein hagwedd, arbed achosion o fwlio.

Paratoad a Deunyddiau

  • Cymeriadau:
    Llefarydd (athro neu athrawes)
    Joseff
    10 brawd Joseff (does dim rhaid cael rhan siarad ar gyfer pob un, ond mae’n bosib eu cynnwys i gyd yn y llinellau sy’n cael eu llefaru gan ‘Y Brodyr i gyd’)
    3 o blant i gerdded ar draws y llwyfan yn cario posteri
  • cylchyn hwla
  • (Dewisol) Fe allai’r Brodyr wisgo labeli gyda’u henwau arnyn nhw.
  • 3 poster. Gall y plant sy’n paratoi’r gwasanaeth feddwl am y geiriau i’w rhoi ar y posteri. Geiriau priodol fyddai:
    Poster 1 – Mae Joseff yn wahanol i bawb arall
    Poster 2 – Pa ots am hynny? Ei fywyd ef ydyw!
    Poster 3 – Rwyt ti’n iawn fel rwyt ti, Jo.
  • Fe fydd yn ofynnol ymarfer y ddrama o flaen llaw.
  • Gyda’ch dosbarth, ysgrifennwch ddiweddglo gwahanol i’r stori (gwelwch adran 4).

Gwasanaeth

  1. Troi yn erbyn Joseff

    Mae cylchyn hwla ar y llawr, yng nghanol y llwyfan. Mae’r holl gymeriadau, ar wahân i’r llefarydd o’r golwg y tu cefn i’r llwyfan.

    Rhan 1

    Llefarydd   Fe hoffwn i gyflwyno teulu dyn o’r enw Jacob i chi.

    (Daw’r Brodyr i mewn. Daw pob brawd i mewn yn ei dro a sefyll yn y cylch i gyflwyno’i hun)

    Brawd 1    Bugeilio defaid yw ein gwaith ni.

    Brawd 2    Rydyn ni wrth ein bodd yn cael bod allan yn yr awyr agored.

    Brodyr 3 a 4    Rydyn ni wrth ein bodd yn pryfocio’n gilydd, ac yn chwarae cwffio (un yn rhoi hergwd gyfeillgar i’r llall).

    Brawd 5    Rydyn ni fechgyn gwydn - ‘tyff’.

    Brawd 6    Rydyn ni, ddewr.

    (Mae Joseff yn ceisio camu i mewn i’r cylch. Mae’r brodyr yn ei rwystro rhag dod i mewn wrth iddo gerdded o gwmpas y cylch a cheisio camu i mewn at y lleill)

    Brawd 7    Dwyt ti ddim yn ffitio, Joseff.

    Brawd 8    Rwyt ti’n wahanol, fel peg sgwâr mewn twll crwn.

    Brawd 9    (mewn llais canu gwatwarus) Mae Joseff yn freuddwydiwr.

    Brawd 10    Mae Joseff yn hoffi aros gartref.

    Brawd 1    Mae Joseff yn hoffi gwisgo dillad neis

    Brawd 2    Ac mae’n hoffi cynllunio ar gyfer y dyfodol

    Y Brodyr i gyd    - Ie, y dyfodol, sef yr amser pan fyddwn ni i gyd yn ymgrymu iddo fo! (Pob un o’r brodyr yn moesymgrymu’n llaes)

    Y Brodyr i gyd
        DOS ODDI YMA, JOSEFF!

    Rhan 2

    Llefarydd   Na, doedd Joseff, yn bendant, ddim yn ffitio! Mewn gwirionedd doedd ei frodyr ddim yn ei hoffi o gwbl. Dyna drueni! Nawr, ar y pwynt yma, fe allai’r brodyr fod wedi penderfynu rhywbeth fel hyn:

    Brodyr 1 a 2
        Efallai nad ydyn ni eisiau chwarae gyda Joseff.

    Brodyr 3 a 4   
    Efallai nad ydyn ni eisiau cael Joseff yn ein grwp ni.

    Brodyr 5 a 6
        Efallai nad ydyn ni eisiau cynnwys Joseff fel un o’n ffrindiau.

    Y Brodyr i gyd
         Ond, mae’n rhaid i ni ei barchu!

    Llefarydd   Fe fyddai hynny wedi golygu:

    DERBYN bod Joseff yn wahanol

    (Mae Plentyn 1 yn cerdded ar draws y llwyfan, ac yn cario poster sy’n dweud, ‘Mae Joseff yn wahanol i bawb arall)

    CYDNABOD fod gan Joseff yr hawl i fod yn wahanol

    (Mae Plentyn 2 yn cerdded ar draws y llwyfan, ac yn cario poster sy’n dweud, ‘Pa ots am hynny? Ei fywyd ef ydyw!)

    PARCHU ei hawl i fod yn wahanol, a gadael iddo arwain ei fywyd yn y ffordd yr oedd ef ei hun yn dymuno.

    (Mae Plentyn 3 yn cerdded ar draws y llwyfan, ac yn cario poster sy’n dweud, ‘Rwyt ti’n iawn fel rwyt ti, Jo)

    Rhan 3

    Llefarydd
       Ond, gwaetha’r modd, na, doedd y Brodyr ddim yn gallu gwneud hynny. O bosib y byddai un neu ddau ohonyn nhw wedi gallu gwneud, efallai, pe bydden nhw wedi trafod y peth yn rhesymol, ac wedi bod yn ddigon dewr. Ond pan fydd grwp cyfan o bobl yn dod at ei gilydd ac yn dechrau cwyno am rywbeth, neu rywun, yn aml iawn fe fydd y canlyniad yn nacaol.

    Y Brodyr i gyd    Gadewch i ni ddweud wrtho fo beth sy’n rhaid iddo’i wneud. Gadewch i ni ei orfodi i wneud yr hyn rydyn ni eisiau iddo’i wneud.

    Llefarydd   Dyna beth yw bwlio. Yn achos Joseff, fe arweiniodd un digwyddiad cas at ddigwyddiad cas arall, a chyn i chi allu dweud ‘Teulu Jacob a’i Feibion’, roedd ei frodyr wedi gwerthu Joseff i fasnachwyr a oedd yn teithio i’r Aifft ar gefn eu camelod. Ac fe wnaethon nhw ffarwelio ag ef a chodi llaw arno wrth iddo fynd oddi wrthyn nhw trwy’r anialwch. Wedyn, fe wnaethon nhw greu stori i’w hadrodd wrth eu tad bod anifail gwyllt wedi ymosod ar Joseff, a’i ladd. Doedd yr un o’r brodyr yn teimlo’n ddigalon, ddim hyd yn oed pan dorrodd eu tad i lawr a chrio wrth glywed newydd mor drist! Wel, beth feddyliech chi o hynny am gariad brawdol - dyna beth oedd casineb diamheuol!

    (Aiff y plant i gyd oddi ar y llwyfan)

  2. Sut mae’r stori’n gorffen

    Yn ffodus, mae diwedd hapus i’r stori hon wedi’r cyfan. Oes rhywun yn gwybod beth ddigwyddodd wedyn?

    (Atgoffwch y plant beth ddigwyddodd wedyn. Neu, os nad ydyn nhw’n gwybod y stori, adroddwch chi beth ddigwyddodd yn eich geiriau eich hun, neu darllenwch yr hanes o Feibl plant lle mae Joseff yn ail ymuno â’i deulu yn yr Aifft: o Genesis 45 a 46.)

  3. Fe wnaeth Joseff faddau i’w frodyr, a chafodd weld ei dad unwaith eto. Ond allwn ni ddim anwybyddu faint o boen a ddioddefodd Joseff oherwydd ymddygiad ei frodyr.

    Gadewch i ni droi’r cloc yn ôl a newid rhywfaint ar y stori.

    Llefarydd  Gadewch i ni fynd yn ôl, at y Brodyr yn y cylchyn hwla. (Daw’r plant i gyd yn oll ar y llwyfan)

    Gadewch i ni fynd yn ôl at Joseff (Mae Joseff y tu allan i’r cylch eto). Fe wnaethom ni ddweud:

    Y Brodyr i gyd    Efallai nad ydyn ni eisiau chwarae gyda Joseff. Efallai nad ydyn ni eisiau cael Joseff yn ein grwp ni. Efallai nad ydyn ni eisiau cynnwys Joseff fel un o’n ffrindiau. Ond, mae’n rhaid i ni ei barchu.

    Llefarydd  Sut y gallai pethau fod yn wahanol?

  4. Ceisiwch gael y plant i baratoi diweddglo gwahanol i’r stori o flaen llaw.
    Efallai y gallai’r plant, oedd yn y cylchyn hwla, dorri allan ohono a symud allan i wahanol gyfeiriadau, rhai ar ben eu hunain neu rhai mewn grwpiau o ddau neu dri, o bosib.

    Pwysleisiwch y ffaith bod hynny ar unwaith yn llai bygythiol.

    Fe allai un plentyn ddweud rhywbeth wrth Joseff, neu o leiaf ei gydnabod a bod yn gyfeillgar. Fe fydd pawb yn mynd oddi yno yn y diwedd, ond o leiaf fydd Joseff ddim wedi cael ei frifo.

Amser i feddwl

(Gosodwch y cylchyn hwla ar y llawr eto. Mae angen i’r plant ddychmygu mai eu cylch nhw yw’r cylchyn. Gofynnwch i’r plant ddychmygu eu hunain y tu mewn i’r cylch.)

Pwy fyddai yn y cylch gyda chi?

Pwy fyddai , o bosib, yn sefyll y tu allan i’r cylch?

–  Oes rhywun yn eich dosbarth a hoffai ymuno â chi, ond sydd ddim yn cael?
–  Oes rhywun rydych chi’n gwybod sy’n wahanol, ar ei ben ei hun neu ar ei phen ei hun, yn unig neu’n anhapus?

Gofynnwch i’r plant dreulio moment neu ddwy yn dychmygu sut byddai pethau pe byddai’r unigolyn hwnnw’n cael dod i mewn i’r cylch.

Gweddi
Annwyl Dduw,
rydyn ni i gyd yn wahanol.
Mae rhai o’n gwahaniaethau’n ein gwneud ni’n boblogaidd gyda phlant eraill.
Mae rhai o’n gwahaniaethau’n ein gwneud ni’n unig iawn ac yn peri ein bod ni’n cael ein gadael allan
a hyd yn oed yn gallu arwain at achosion o fwlio.
Helpa ni i fod â’r agwedd iawn tuag at ein gilydd,
ac i ddangos cariad tuag at y rhai hynny dydyn ni ddim yn eu galw’n ffrindiau i ni.

Dyddiad cyhoeddi: Chwefror 2012    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon