Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Llawer o Gariad

Gwasanaeth Dydd Sant Ffolant

gan Susan MacLean

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Meddwl am Ddydd Sant Ffolant a meddwl sut rydyn ni’n dangos ein cariad tuag at eraill.

Paratoad a Deunyddiau

  • Paratowch gerdyn ffolant mawr gyda siâp calon arno.

Gwasanaeth

  1. (Dangoswch eich cerdyn Ffolant) Edrychwch beth sydd gen i ar gyfer Dydd Sant Ffolant! Pam fod pobl yn anfon cardiau Ffolant? (I ddangos eu bod nhw'n caru'r person hwnnw.)

    Pwy yw'r bobl yr ydym yn eu caru? (Anelwch i gael atebion fel rhieni, brodyr a chwiorydd, ffrindiau, neiniau a theidiau, etc.) Rydym yn caru gwahanol bobl mewn gwahanol ffyrdd.

    Fe ddangosodd fy ngwr i ei gariad tuag ataf fi trwy roi'r cerdyn hwn i mi.  Ym mha ffyrdd y gallwn ni ddangos ein cariad tuag at bobl eraill? (Rydyn ni'n rhoi anrhegion iddyn nhw; rydyn ni'n eu helpu ac yn dweud pethau neis wrthyn nhw.)

  2. Mae'r Beibl yn dweud fod Duw, hefyd, yn ein caru ni.  Yn wir, mae'n dweud fod Duw yn ein caru ni gymaint fel ei fod wedi anfon Iesu i ddangos i ni sut un yw Duw a dangos i ni gariad Duw. (Ioan 3.16). 

    Sut ydych chi'n meddwl rydyn ni’n dangos ein cariad tuag at Dduw? 

    Fe ddysgodd Iesu i ni alw 'ein Tad' ar Dduw. Rydym yn gwybod nad yw ein rhieni yn hoffi pan fyddwn ni'n dweud neu’n g wneud pethau drwg, felly gallwn ddangos ein cariad tuag at ein rhieni, ac at Dduw, trwy fod yn ofalus ynghylch yr hyn rydyn ni’n ei ddweud a’i wneud, trwy ddweud pethau calonogol, a thrwy wneud pethau caredig.

  3. Mae llun calon yn aml ar gardiau Ffolant, yn union fel hon.

    Mae ein calonnau'n organau rhyfeddol oherwydd eu bod yn pwmpio'r gwaed o amgylch ein cyrff. Mae calon sy'n gweithio yn beth hanfodol i ni allu goroesi. Pan fydd ein calon yn pwmpio gwaed, bydd y gwaed hwnnw yn cyrraedd pob rhan o'r corff fel eu bod nhw hefyd yn gweithio'n dda. Pan fyddwn ni'n dweud ein bod yn caru rhywun â'n 'holl galon' ac 'o'r galon' rydyn ni'n golygu 'gyda'r cyfan ohonom ni', ac 'o ganol yr un ydyn ni'.  

  4. Pan fyddwn ni’n dangos ein cariad tuag at ein gilydd a thuag at Dduw, trwy ddweud a gwneud y pethau hynny sy'n dda a chywir, bydd hynny'n gwneud i'r person arall deimlo'n dda, ac mae Duw wrth ei fodd.  

    –  Pan fyddwn ni’n dweud rhywbeth calonogol wrth rywun arall, mae'r person hwnnw'n teimlo'n dda.   
    –  Pan fyddwn ni’n rhoi anrheg i rywun arall, bydd y person hwnnw'n teimlo'n dda.  
    –  Pan fyddwn ni’n gwneud rhywbeth sy’n helpu pobl eraill, maen nhw'n teimlo'n dda. 

    Mae ein calon yn pwmpio gwaed o amgylch ein corff ac mae pob rhan o'n corff yn elwa o hynny. Pan fyddwn yn anfon allan ein meddyliau da, ein geiriau a'n gweithredoedd da, fe fydd pob rhan o'n cymuned yn elwa o hynny, a bydd ein hathrawon, ein rhieni wrth eu bodd, a Duw ei hun wrth ei fodd hefyd.

Amser i feddwl

Pan fyddwn ni’n meddwl am Ddydd Sant Ffolant, neu’n gweld lluniau o galon, gadewch i ni wneud yn siwr ein bod yn dweud ac yn gwneud pethau calonogol a charedig fydd yn gwneud i bobl eraill deimlo’n dda. 

Gweddi
Diolch i Ti, Dduw Dad, am dy gariad tuag at bob un ohonom. 
Helpa ni i ddangos cariad tuag atat Ti, ac at bawb sydd o'n cwmpas,
yn yr ysgol, gartref, a phob man arall yr awn iddo.

Dyddiad cyhoeddi: Chwefror 2012    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon