Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Ym Mhob Lindysyn Bach

Meddwl pa mor bwysig yw dyfalbarhau er mwyn cyrraedd amcanion personol.

gan The Revd Alan M. Barker

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 1

Nodau / Amcanion

Meddwl pa mor bwysig yw dyfalbarhau er mwyn cyrraedd amcanion personol.

Paratoad a Deunyddiau

  • Paratowch chwech o ddarllenwyr ar gyfer y cyflwyniad dramatig.
  • Y hytrach na chyflwyniad llafar yn unig, fe allech chi baratoi cyflwyniad mwy creadigol o’r stori. Er enghraifft, fe allai’r rhai sy’n cymryd rhan gyflwyno nifer o ‘fresych’ i’r ‘lindysyn’ wrth iddo newid trwy gyfres o siwmperi a siacedi sy’n mynd yn fwy a mwy wrth i’r stori ddatblygu. Fe allech chi lunio cocwn trwy lapio’r lindysyn â chynfas a gwneud iddo guddio wedyn o’r golwg y tu ôl i len. Ac yna, fe all ddod yn ei ôl i’r golwg wedi newid i wisg addas i bortreadu pili-pala hardd.

Gwasanaeth

  1. Gwahoddwch rai aelodau o gymuned yr ysgol i rannu â chi beth yw eu nod neu eu huchelgais nhw. Wrth i chi sgwrsio, fe allwch chi gadarnhau sut y byddai’n bosibl i’r unigolion hynny gyflawni eu nodau.

    Myfyriwch ar y ffaith bod gan bawb ohonom ein gobeithion a’n breuddwydion ein hunain, ond bod angen gweithio’n galed, a dal ati, er mwyn gallu gwireddu’r rhain.

  2. Er mwyn darlunio’r thema hon, cyflwynwch y ddrama fach ganlynol, ‘Ym mhob lindysyn bach’. Gwahoddwch y gynulleidfa i ymateb a dweud ‘Ych-a-fi!’ pan fyddan nhw’n clywed sôn am y ‘BRESYCH’.

    Ym mhob lindysyn bach
    addasiad Cymraeg o waith © y Parchg Alan M. Barker

    Darllenydd 1  Ym mhob lindysyn bach

    Darllenydd 2  mae pili-pala hardd yn disgwyl cael ei ryddhau.

    Darllenydd 1  Ond, yn gyntaf,

    Darllenydd 2  rhaid i’r lindysyn bach dreulio oriau

    Darllenydd 3  ac oriau

    Pob darllenydd gyda’i gilydd  YN BWYTA BRESYCH!

    Y gynulleidfa  Ych-a-fi!!

    Darllenydd 1  Yn bwyta, nes ei fod mor llawn . . . a’r lindysyn bach yn credu bod ei groen yn mynd i fyrstio.

    Darllenydd 2  A dyna beth sy’n digwydd!

    Darllenydd 1  Yn araf, mae’r lindysyn bach yn cropian allan o’i groen . . . yn gwisgo croen newydd.

    Darllenydd 2  Y tu mewn i’r croen newydd, mae pili-pala hardd yn disgwyl cael ei ryddhau.

    Darllenydd 1  Ond, tan hynny,

    Darllenydd 2  rhaid i’r lindysyn bach dreulio oriau

    Darllenydd 3  ac oriau

    Darllenydd 4  ac oriau

    Pob Darllenydd gyda’i gilydd  YN BWYTA MWY O FRESYCH!

    Y gynulleidfa  Ych-a-fi!!

    Darllenydd 1  Yn bwyta, nes ei fod mor llawn . . . a’r lindysyn bach yn credu bod ei groen yn mynd i fyrstio.

    Darllenydd 2  A dyna beth sy’n digwydd – eto! Yn araf, mae’r lindysyn bach yn cropian allan o’i groen . . . yn gwisgo croen newydd.

    Darllenydd 1  Y tu mewn, mae pili-pala hardd yn disgwyl cael ei ryddhau.

    Darllenydd 2  Ond, tan hynny . . . rhaid i’r lindysyn bach dreulio oriau

    Darllenydd 3  ac oriau

    Darllenydd 4  ac oriau

    Darllenydd 5  ac oriau

    Pob darllenydd gyda’i gilydd  YN BWYTA MWY FYTH O FRESYCH!

    Y gynulleidfa  Ych-a-fi!!

    Darllenydd 1  Nes ei fod mor llawn . . . mae’r lindysyn bach yn gwybod nawr bod ei groen yn mynd i fyrstio.

    Darllenydd 2  Y tu mewn, mae pili-pala hardd yn disgwyl cael ei ryddhau.

    Darllenydd 1  Ac unwaith eto, mae’r lindysyn bach . . . yn cropian allan o’i groen tynn yn gwisgo croen newydd eto sy’n fwy llac iddo

    Darllenydd 2  i dreulio oriau

    Darllenydd 3  ac oriau

    Darllenydd 4  ac oriau

    Darllenydd 5  ac oriau

    Darllenydd 6  ac oriau

    Pob darllenydd gyda’i gilydd  YN BWYTA DIM BYD OND BRESYCH!

    Y gynulleidfa  Ych-a-fi!!

    Darllenydd 1  Nes bod y lindysyn bach mor llawn o fresych

    Darllenydd 2  FE FYDDAI’N DDA GANDDO GAEL MARW!

    Darllenydd 1  Felly, mae’n peidio bwyta ac yn cuddio mewn cocwn.

    Darllenydd 2  Dydi’r lindysyn ddim yn gallu symud.

    Darllenydd 4  Dydi’r lindysyn ddim yn gallu bwyta.

    Darllenydd 5  Dydi’r lindysyn ddim yn gallu yfed.

    Darllenydd 6  Dydi’r lindysyn ddim yn gallu gweld.

    Darllenydd 2  Ble mae’r pili-pala hardd?

    Darllenydd 1  O’r diwedd, mae pryfyn hyll yn dod allan o’r cocwn.

    Pob darllenydd gyda’i gilydd  O!!! Ych-a-fi!!!

    Darllenydd 2  Ble mae’r pili-pala hardd?

    Darllenydd 1  Mae’r pryfyn hyll yn dringo coesyn planhigyn yn araf

    Darllenydd 3  yn hongian a’i ben i lawr

    Darllenydd 4  ac yn aros eto

    Darllenydd 5  nes bod ei adenydd crychlyd yn agor

    Pob darllenydd gyda’i gilydd   Waw!

    Darllenydd 2  Ac, yn fuan wedyn, uwchben yr ardd,

    Darllenydd 1  mae pili-pala hardd

    Darllenydd 2  yn dawnsio yn yr awyr

    Darllenydd 3  am oriau

    Darllenydd 4  ac oriau

    Darllenydd 5  ac oriau

    Darllenydd 6  ac oriau

    Pob darllenydd gyda’i gilydd   ac oriau!

  3. Gwahoddwch y gynulleidfa i drafod arwyddocâd y stori. Nodwch:

    -  mae gan bawb wahanol ddoniau, a photensial rhyfeddol

    -  mae’n bosib y bydd yn cymryd amser hir i ni gyrraedd ein nod

    -  weithiau, fe fydd yn rhaid i ni ddal ati a dyfalbarhau gyda thasgau nad ydym yn hoffi eu gwneud

    -  pwysleisiwch fod bresych yn llysiau llesol yn wir, a bod eisiau i ni gofio hynny – dim ond ein bod yn cael ychydig o hwyl yma heddiw wrth feddwl am y lindysyn yn bwyta cymaint ohonyn nhw!!

  4. Yn olaf, meddyliwch peth mor wych yw’r ffaith bod rhywbeth mor rhyfeddol â phili-pala yn gallu tyfu o lindysyn bach. Felly, tybed beth yw potensial pob un ohonom ni aelodau cymuned ein hysgol.

Amser i feddwl

Mae dywediad: Peidiwch â gofyn am fywyd hawdd, gweddïwch am fod yn unigolyn cryf.
Meddyliwch am her a allai ddod i’ch rhan heddiw ac addunedwch wynebu’r her honno â phenderfyniad.

Meddyliwch am eich breuddwydion ar gyfer y dyfodol a gweddïwch y byddwch chi’n gallu bod yn unigolyn cryf.

Dyddiad cyhoeddi: Mawrth 2012    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon