Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Bywyd Charles Dickens

Meddwl am etifeddiaeth bositif bywyd Charles Dickens, ac ystyried y gall pob un ohonom gael effaith bositif ar y bobl rydyn ni’n cwrdd â nhw.

gan Jude Scrutton

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 2

Nodau / Amcanion

Meddwl am etifeddiaeth bositif bywyd Charles Dickens, ac ystyried y gall pob un ohonom gael effaith bositif ar y bobl rydyn ni’n cwrdd â nhw.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen cael mynediad at yr animeiddiad sydd gan y BBC am Charles Dickens: http://www.bbc.co.uk/drama/bleakhouse/animation.shtml
  • Casglwch nifer o ddatganiadau cywir ac anghywir am Charles Dickens (gwelwch adran 3 a 4, gwelwch hefyd animeiddiad y BBC). Er enghraifft:
    Cafodd Charles Dickens ei eni i deulu cyfoethog.
    Roedd Charles Dickens yn byw mewn ty bychan cyffredin yn Llundain.
    William Shakespeare oedd tad Charles Dickens. 
    Charles Dickens ysgrifennodd y ddrama Romeo and Juliet.
    Charles Dickens ysgrifennodd y nofelau A Christmas Carol ac Oliver Twist.

Gwasanaeth

  1. Gofynnwch i'r plant am enwau rhai awduron enwog.  Gwnewch restr.

    Gofynnwch beth maen nhw'n ei gredu yw'r llyfrau neu’r storïau mwyaf enwog erioed (cyfeiriwch nhw at y Beibl, storïau Harri Potter gan J. K. Rowling, ac os nad ydyn nhw'n crybwyll y peth, gofynnwch iddyn nhw enwi rhai storïau enwog am y Nadolig fel - The Christmas Carol.) Cyflwynwch Charles Dickens iddyn nhw fel awdur Seisnig clasuron llenyddol yn cynnwys Oliver Twist, Bleak House,Great Expectations a’r nofel A Christmas Carol.

  2. Pwy all fod yn awdur? A oes raid i chi fod yn ffasiynol? Neu’n gyfoethog?

    Eglurwch y gallwch chi neu unrhyw un arall ddod yn awdur, heb ystyried pa mor dlawd neu gyfoethog ydych chi, neu ymhle y cawsoch chi eich geni, cyhyd â'ch bod yn benderfynol, yn weithgar ac yn greadigol.

  3. Gofynnwch i'r plant beth maen nhw'n ei wybod am Charles Dickens.

    Tafluniwch y datganiadau 'cywir ac anghywir' yr ydych chi wedi eu paratoi o flaen llaw (gwelwch yr adran ‘Paratoadau a deunyddiau’) a gofynnwch i'r plant ddosbarthu'r rhai sydd yn wir a rhai sydd ddim yn wir.

  4. Cliciwch ar y cyswllt rhyngrwyd (gweler ‘Paratoadau a deunyddiau’), sydd yn rhaglen fer wedi ei hanimeiddio gan y BBC, ac sydd ar gael i'w defnyddio am ddim. Dywedwch wrth y plant am wrando'n astud ar yr hanes am fywyd Charles Dickens.

    Gwiriwch eu hatebion wedyn gyda'r datganiadau ‘cywir’ ac ‘anghywir’.

    Gofynnwch a ydyn nhw'n gwybod pam ein bod yn trafod hanes Charles Dickens. Eglurwch fod 2012 yn ddau can mlynedd ers ei eni: cafodd ei eni ar 7 Chwefror 1812).

  5. Eglurwch pan fydd pobl yn marw fe fyddan nhw, ran amlaf, yn gadael rhywbeth ar eu hôl i bobl eraill. Gall hynny fod yn arian neu eiddo, neu bethau y maen nhw wedi eu gwneud, neu hyd yn oed yn atgof o eiriau neu weithredoedd caredig, neu esiampl dda efallai. Rydyn ni'n galw hyn yn waddol. Mae'r rhan fwyaf o bobl yn gadael gwaddol, er gwell, er gwaeth, neu gymysgiad o'r da a'r drwg.

    Gofynnwch i'r plant beth oedd y gwaddol a adawyd gan Charles Dickens. (Yr holl storïau bendigedig.)

  6. Gofynnwch beth oedd gwaddol Iesu. (Nid oes atebion cywir ac anghywir, felly derbyniwch gynigion.)

  7. Cyn belled â'ch bod wedi cael effaith ar fywyd rhywun yna rydych wedi gadael gwaddol. Os ydyn ni'n byw bywydau da, gwerth chweil a gwneud ymdrech i fod cystal ag y gallwn fod, yna fe fyddwn ni'n gadael gwaddol cadarnhaol, da ar ein holau.

Amser i feddwl

Pa waddol neilltuol, cadarnhaol fyddech chi'n hoffi ei adael pan fyddwch chi farw?

Gweddi
Arglwydd, helpa ni i ddefnyddio ein doniau a'n rhinweddau i wneud daioni
fel bo'r byd yn well lle oherwydd ein bod ni wedi byw.
Gweddi’r Arglwydd

Dyddiad cyhoeddi: Mawrth 2012    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon