Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Mamau

Cyferbynnu bywyd yn y Gorllewin gyda bywyd mewn rhannau o’r byd sy’n datblygu, gan ddefnyddio profiad mamau fel enghraifft.

gan Gordon and Ronni Lamont

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 2

Nodau / Amcanion

Cyferbynnu bywyd yn y Gorllewin gyda bywyd mewn rhannau o’r byd sy’n datblygu, gan ddefnyddio profiad mamau fel enghraifft.

Paratoad a Deunyddiau

  • Mae prif ran y gwasanaeth yma ar ffurf cerdd syml gyda thri llefarydd. Fe fydd arnoch chi angen paratoi tri phlentyn sy’n llefaru’n dda, ac fe allech chi ehangu’r deunydd trwy ychwanegu meim syml neu luniau llonydd. (Cliciwch ar ‘Using Drama’ ar wefan SPCK yn yr adran Assemblies Resources a chewch rai syniadau cyffredinol a chyngor ynghylch gweithgareddau fel hyn.)

Gwasanaeth

  1. Cyflwynwch thema’r gwasanaeth – meddwl am famau mewn gwahanol rannau o’r byd. Trafodwch unrhyw storïau sydd wedi bod yn y newyddion yn ddiweddar am y byd sy’n datblygu – storïau y gallai’r plant fod yn gyfarwydd â nhw.

  2. Cyflwynwch y gerdd.

    Un
    Fi yw mam rhif un - yn wir, rwy’n brysur iawn.
    Mae cymaint gen i i’w wneud bob dydd, mae f’amserlen i yn llawn.
    Gwaith y tu allan
    Gwaith yn y ty
    Mae rhywun eisiau rhywbeth
    o hyd ac o hyd.
    Fi yw mam rhif un - yn wir, rwy’n brysur iawn.

    Dau
    Fi yw mam rhif dau, rwy’n sefyll yn y ciw.
    Rwy’n disgwyl wrth y ffynnon am fy nhro i godi dwr.
    Rhaid cael dwr i gadw fy nheulu’n fyw.
    Fe gerddaf ddwy filltir yn ôl i’r ty
    A’r dwr ar fy mhen fel hyn bob dydd
    Ddwywaith y dydd, gaeaf a haf
    O! Fe fyddai cael tap dwr yn y ty’n beth braf.
    Fi yw mam rhif dau, rwy’n sefyll yn y ciw.

    Tri
    Fi yw rhif tri. Rwy’n eich cynrychioli chi a fi.
    Dydw i ddim yn fam, ond fi yw’r un y mae hi’n gweithio er fy mwyn, welwch chi.
    Ledled y byd
    neu dim ond i lawr y stryd
    Yng ngwledydd Affrica ac yn Ewrop hefyd
    Mae ein mamau’n gweithio’n ddi-baid o hyd ac o hyd.
    Fi yw rhif tri. Rwy’n eich cynrychioli chi a fi.

  3. Trafodwch y gerdd gan ganolbwyntio ar y gwahaniaeth rhwng bywyd y ddwy fam. Am beth roedd ‘mam rhif un’ yn sôn pan ddywedodd hi fod cymaint ganddi i’w wneud?

    A yw’r plant yn gwybod rhywbeth am fywyd pobl, yn enwedig y mamau, yn y byd sy’n datblygu? Os mai ‘rhif tri’ yw pob un ohonom ni, beth allwn ni ei wneud i helpu ‘rhif un’ a ‘rhif dau’?

Amser i feddwl

Gweddi

Annwyl Dduw,
Diolch i ti am famau ledled y byd.
Diolch i ti am y pethau y byddan nhw’n eu gwneud wrth ofalu amdanom a’n helpu ni.
Rydyn ni’n meddwl am famau yn ein gwlad ni,
ac rydyn ni’n meddwl am famau yn y byd sy’n datblygu.
Maen nhw i gyd yn gweithio’n galed.
Helpa ni i’w helpu nhw mewn unrhyw ffordd y gallwn ni.

Dyddiad cyhoeddi: Mawrth 2012    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon