Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Ffenomen Baralympaidd

Stori Nathan Stephens

gan Laurence Chilcott

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 2

Nodau / Amcanion

Ystyried stori Nathan Stephens, ac annog y myfyrwyr i werthfawrogi sut mae dyfalbarhad a phenderfyniad yn gallu troi trychineb yn fuddugoliaeth bersonol.

Paratoad a Deunyddiau

Gwasanaeth

Cyflwyniad        

  1. Dywedwch wrth y myfyrwyr eich bod yn dal rhywbeth gwerthfawr yn eich llaw, a gofynnwch iddyn nhw ddyfalu beth sydd gennych chi. Ar ôl ychydig amser, dangoswch y perl.

    Am ganrifoedd, cafodd perlau eu defnyddio i addurno tlysau gemwaith.  Roedd y Frenhines Elizabeth I yn hoffi perlau'n fawr iawn, a gellir ei gweld yn gwisgo rhai yn y lluniau a dynnwyd ohoni. Hyd heddiw, mae modd prynu clustdlysau, cadwyni a modrwyau gyda pherlau arnyn nhw, ac mae'r perlau o'r ansawdd gorau yn werth rhai cannoedd o bunnoedd.

  2. Mae perlau i’w cael yn naturiol mewn cregyn molysgiaid, ond wystrys perl yn unig sy'n cynhyrchu perlau o werth.

    Mae wystrys yn gorwedd ar wely'r môr ac yn bwydo eu hunain trwy hidlo plancton. Weithiau bydd tamaid bychan iawn o gragen neu asgwrn yn mynd i mewn i gragen y wystrysen a bydd ei ochrau miniog yn achosi cosi poenus i’r wystrys. Bydd yn gwneud ei orau glas i gael gwared â'r boen trwy geisio cael gwared â’r corffyn estron, ond yn ofer.

    Beth all y wystrysen ei wneud, felly?

    Rhoi'r ffidil yn y to, efallai, a gwneud dim ond dioddef, a marw'n araf?

    Dweud, ‘Pam fi?’ a threulio'i holl amser yn cwyno a chwyno pa mor galed yw bywyd wystrys?

    Na, yn araf mae’n gwneud rhywbeth ynghylch ei broblem: mae'n cynhyrchu nacre, sylwedd symudliw sy’n cael ei alw’n 'mother-of- pearl', sy'n gorchuddio beth bynnag deunydd sy'n achosi'r boen. Dros flynyddoedd o amser bydd yr haen dros haen o nacre yn crynhoi i gynhyrchu perl. 

    Mae'r ochrau miniog oedd yn achosi'r boen bellach yn llyfn a chrwn - ac o ganlyniad i drafferth a phoen, mae rhywbeth gwerthfawr iawn a hynod o hardd wedi cael ei greu.

    Datblygiad

  3. Weithiau byddwn yn wynebu amgylchiadau sy’n achosi gofid a phryder i ni, ac yn union fel y wystrysen mae gennym ddewis. Gallwn gwyno a chwyno, a datgan nad yw hyn yn deg . . . neu fe allwn ni wneud rhywbeth yn ei gylch.

  4. Yn 1997, roedd Nathan Stephens yn wynebu trychineb a fyddai'n newid ei fywyd am byth. Roedd yn dathlu ei nawfed pen-blwydd; roedd yn chwarae yng nghwmni ei frawd a'i gefnder wrth ymyl trac y rheilffordd ar gyrion pentref Mynydd Cynffig yn Ne Cymru, lle'r oedd yn byw. Heb amheuaeth, roedd wedi cael ei rybuddio nifer o weithiau am y peryglon o chwarae yn agos at y rheilffordd, ond pan welodd drên nwyddau'n teithio'n araf tuag ato fe feddyliodd y byddai'n hwyl neidio ar y tryc olaf wrth iddo basio heibio.

    Honno oedd y naid olaf y byddai Nathan yn ei gwneud yn ei fywyd; fe lithrodd ar y grafel llac ac aeth ei goesau o dan yr olwynion. Teithiodd y trên ymlaen i lawr y trac a'r gyrrwr heb wybod beth oedd wedi digwydd.  Rhedodd ei frawd i chwilio am help tra arhosodd ei gefnder gydag ef.  Cafodd ei ruthro i'r ysbyty mewn hofrennydd yr ambiwlans awyr, lle y canfuwyd bod ei goes chwith wedi ei thorri ymaith ym mhen uchaf ei glun, a bu’n rhaid i'r llawfeddygon dorri ymaith ei goes dde o dan ei ben-glin.

  5. Roedd Nathan bob amser wedi bod yn fachgen bywiog, ac roedd wrth ei fodd yn dringo coed a chwarae pêl-droed. Roedd ei rieni, ei athrawon a'i ffrindiau yn meddwl o ddifrif sut effaith a gai’r trychineb hwn arno. Fe allai fod wedi claddu ei ben yn y tywod, a meddwl na fyddai byth eto yn gallu cymryd rhan mewn chwaraeon, rhoi'r bai ar eraill am yr hyn oedd wedi digwydd a chwyno bod bywyd yn annheg.  Ond ni wnaeth hynny - roedd yn benderfynol nad oedd ei anabledd yn mynd i’w atal rhag gwneud y gorau posib o'i fywyd.

    Roedd yn ei ôl yn yr ysgol - mewn cadair olwyn - yn gynt o lawer nag a feddyliodd neb, yn teimlo'n lwcus ei fod yn fyw. Yn fuan, roedd yn chwarae pêl-droed - yn y gôl! A chriced - fel wicedwr! Fe ddechreuodd ei ddiddordeb mewn hoci sled, ac yn fuan iawn fe sylweddolwyd y potensial oedd yn perthyn iddo fel mabolgampwr.

    Fe barhaodd i ddatblygu ei sgiliau pan symudodd i'r ysgol gyfun leol. Fe ddaeth yn bencampwr iau y byd wrth daflu'r pwysau, wrth daflu'r bicell a thrwy daflu'r ddisgen. Gweithiodd yn galed hefyd gyda'i astudiaethau a daeth yn brif ddisgybl yr ysgol. Cymerodd ran yn y Gemau Paralympaidd yn Beijing yn 2008, a daeth yn bencampwr y dynion hyn wrth daflu'r bicell ym mhencampwriaethau Athletau IPC y Byd yn Seland Newydd ym mis Ionawr 2011, lle y sefydlodd record byd newydd.

    Mae Nathan yn awr yn 23 mlwydd oed, ac yn astudio am radd mewn Hyfforddi Chwaraeon. Fe benderfynodd ohirio'i flwyddyn olaf yn y brifysgol am 24 mis er mwyn canolbwyntio ar y Gemau Olympaidd 2012, a rhoi ei fryd ar ennill aur yng nghystadleuaeth y bicell.

  6. Fel y dywedodd mam Nathan, ‘Fe gollodd rhywbeth, ond fe enillodd rhywbeth llawer mwy.’ Mae hi'n argyhoeddedig bod Nathan wedi datblygu i fod yn berson mwy cyflawn o ganlyniad i'r trychineb ddaeth i'w ran, gan allu datblygu’r ddawn i ganolbwyntio, a magu penderfyniad cryf, sydd wedi ei wneud yn rhywun arbennig iawn.

Amser i feddwl

Trafodwch strategaethau i ddelio â phroblemau:

–  chwilio am gyngor neu 'gael sgwrs' gydag oedolyn cyfrifol neu ffrind;
–  edrych am y pethau cadarnhaol a 'chyfrif ein bendithion';
–  wynebu problemau, ac nid eu hosgoi;
–  gofyn: ‘Beth fedra' i wneud?’ yn hytrach na ‘Pam y gwnaeth hyn ddigwydd i mi?’

Trafodwch y ffaith ein bod ni i gyd yn wynebu problemau a thrafferthion mewn bywyd, a phan fyddwn ni'n edrych yn ôl, dydyn nhw ddim fel arfer cynddrwg â'r hyn roedden ni’n meddwl eu bod.

Trafodwch achosion pobl leol neu gyn-ddisgyblion/ disgyblion presennol yr ysgol sydd wedi goresgyn eu trafferthion.

Gweddi
Helpa ni, O Arglwydd, i gofio gwers y wystrysen.
Weithiau, fe fyddwn ni’n mynd yn flin ac yn ofidus oherwydd y pethau sy'n digwydd i ni.
Boed i ni beidio â threulio ein hamser yn cwyno, neu’n teimlo bod pethau'n annheg,
ond yn hytrach gad i ni geisio gwneud rhywbeth i wella pethau.
Helpa ni i gofio dy fod ti wedi addo bod gyda ni ar adegau anodd,
a gofynnwn i ti ein helpu i ddewis y llwybr cywir.

Dyddiad cyhoeddi: Ebrill 2012    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon