Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Perthnasoedd Arbennig

Meddwl sut y gallwn ni ddod yn well pobl.

gan Manon Ceridwen Parry

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Meddwl sut y gallwn ni ddod yn well pobl.

Paratoad a Deunyddiau

  • Dewch â nifer o wisgoedd gyda chi i’r gwasanaeth, dillad sy’n cael eu gwisgo ar achlysuron arbennig, er enghraifft, ffrog briodas neu fêl (os oes gennych chi un), neu het grand y byddai rhywun yn ei gwisgo i fynd i briodas; rhywbeth du, fel tei, neu wisg y byddai rhywun yn ei wisgo i fynd i angladd.
  • Crysau T neu grysau chwys /siorts llac, neu unrhyw ddillad y gallech chi eu gwisgo dros eich dillad eich hun (ac a fyddai’n hawdd eu gwisgo a’u tynnu wedyn) gyda’r geiriau canlynol wedi eu pinio arnyn nhw – un nodwedd ar bob un: tynerwch calon, caredigrwydd, gostyngeiddrwydd, addfwynder, amynedd, maddeuant, cariad.
  • Y darlleniad o’r Beibl yw Colosiaid 3.12–14 (gwelwch adran 2).

Gwasanaeth

  1. Dechreuwch trwy sgwrsio am arwyddocâd dillad. Os oes gwisg ysgol gan y plant, holwch ydyn nhw’n ei gwisgo ar ddydd Sadwrn? Pan gewch chi’r ateb – na – holwch pam? Am mai dim ond pan fyddan nhw’n dod i’r ysgol maen nhw’n gwisgo gwisg ysgol (wrth gwrs)!

    Sgwrsiwch am ddilladau arbennig ar gyfer achlysuron arbennig – dangoswch y tei du, a’r het grand/ fêl/ ffrog briodas. Yna, holwch beth fyddai rhywun yn ei wisgo i fynd i gyfweliad am swydd?

  2. Eglurwch fod rhan yn y Beibl, lle mae dyn o’r enw Paul wedi ysgrifennu llythyr i ddweud wrth bobl beth ddylen nhw ei wisgo o ddydd i ddydd,. Ond, doedd Paul ddim yn siarad am ddillad.

    Dyma beth a ddywedodd: ‘Am hynny, fel etholedigion Duw, sanctaidd ac annwyl, gwisgwch amdanoch dynerwch calon, caredigrwydd, gostyngeiddrwydd, addfwynder ac amynedd. Goddefwch eich gilydd, a maddeuwch i’ch gilydd os bydd gan rywun gwyn yn erbyn rhywun arall; fel y maddeuodd yr Arglwydd i chwi, felly gwnewch chwithau. Tros y rhain i gyd gwisgwch gariad, sy’n rhwymyn perffeithrwydd.’

  3. Mae’r ffordd rydyn ni’n ymddwyn yn bwysicach na sut olwg sydd arnom ni. Felly, pan fyddwn ni’n gwisgo amdanom yn y bore, efallai y dylen ni wisgo’r pethau canlynol (wrth i chi siarad am y geiriau, ac egluro unrhyw rai sy’n anghyfarwydd i’r plant, gwisgwch y dilledyn sydd â’r gair hwnnw arno. Gobeithio bydd y plant yn mwynhau eich gweld yn gwneud hyn, ac y byddwch yn creu argraff arnyn nhw!):

    -  tynerwch calon (bod yn barod i rannu teimladau trist pobl eraill pan fyddan nhw’n mynd trwy amser anodd)
    -  caredigrwydd
    -  gostyngeiddrwydd (peidio mynd o gwmpas gan feddwl eich bod yn well na phobl eraill; gwybod bod angen help Duw arnom ni bob amser)
    -  addfwynder
    -  amynedd
    -  maddeuant
    -  cariad.

  4. (Tynnwch rai o’r dilladau ychwanegol rydych chi wedi eu gwisgo) Diolch byth, mae’n dda dydyn ni ddim yn gorfod gwisgo’r holl ddilladau yma, trwy’r amser, bob dydd.

    Ond, mae angen i ni wisgo’r pethau sydd wedi eu nodi arnyn nhw – a thrin pobl eraill yn union fel y byddem ni ein hunain yn hoffi cael ein trin, a dangos parch at bawb, pwy bynnag ydyn nhw.

Amser i feddwl

Gwrandewch eto ar yr hyn sydd gan Paul i’w ddweud am y rhinweddau y dylen ni eu gwisgo. Wrth i chi wrando, dewiswch un rhinwedd, a meddyliwch sut y gallech chi ‘wisgo eich hun’ â’r rhinwedd hwnnw.
(Gwrandewch ar y darlleniad eto.).

Dyddiad cyhoeddi: Ebrill 2012    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon