Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Cymryd Y Bai : Gwasanaeth ar gyfer y Pasg

Ystyried sut mae rhywun yn teimlo wrth gael bai ar gam.

gan Janice Ross

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Ystyried sut mae rhywun yn teimlo wrth gael bai ar gam.

Paratoad a Deunyddiau

  • Trac cerddoriaeth  o’r Sioe Gerdd Oliver!.
  • Cannwyll (os byddwch chi’n defnyddio cannwyll sy’n ail oleuo, fe fydd arnoch chi angen cwpanaid o ddwr i’ch helpu chi ei diffodd yn iawn ar y diwedd).

Gwasanaeth

  1. Chwaraewch un o'r traciau sain o Oliver! wrth i'r plant yn dod i mewn i'r gwasanaeth.

    Gofynnwch i'r plant a ydyn nhw'n gwybod beth yw enw'r gân, enw’r sioe gerdd y daw ohoni, ac enw awdur y stori wreiddiol.

  2. Llundain yn oes Victoria yw'r lleoliad ar gyfer y ffilm Oliver!, sydd yn seiliedig ar stori gan Charles Dickens, Oliver Twist.  Roedd hwn yn gyfnod o dwf a newid mawr i'r genedl a'r ymerodraeth, gyda chynnydd yn y diwydiannau yn denu llawer o bobl o gefn gwlad i mewn i'r dinasoedd i gael hyd i waith.

    Roedd yn gyfnod o anghyfartaledd enfawr. Roedd yna bobl gyfoethog a breintiedig, ac roedd yna bobl oedd yn dlawd, yn newynu ac yn cael eu gorweithio. Fe ysgrifennodd Charles Dickens er mwyn gwneud i'r bobl gyfoethog ddeall pa mor anghywir oedd hi i anwybyddu'r modd yr oedd y tlodion yn dioddef.  Fe geisiodd nifer o bobl rymus hefyd, a oedd yn byw yn yr un cyfnod â Charles Dickens, wella safon byw y bobl oedd yn dlawd iawn yn y wlad hon. 

  3. Gofynnwch: Faint sy'n gwybod stori Oliver!? A ydyn nhw'n gallu dweud pa rai oedd yr adegau trist yn y ffilm? Eglurwch eich bod heddiw'n mynd i ganolbwyntio ar y bennod sy'n ymwneud â'r pigwyr pocedi.

    Ac yntau wedi dianc o'r cartref i blant amddifad, mae Oliver Twist yn byw'n arw ar strydoedd Llundain, hyd nes mae bachgen o'r enw Jack Dawkins, oedd yn cael ei adnabod gyda'r llysenw 'the Artful Dodger' yn gwneud ffrindiau ag ef un diwrnod. Mae'n cyflwyno Oliver i 'wr bonheddig caredig' sy'n darparu gwely i Oliver a rhywfaint o fwyd.

    Efallai y dylai'r enw Artful Dodger fod wedi rhybuddio Oliver i fod ar ei wyliadwriaeth nad oedd Jack o bosib yn berson gonest iawn. Ond roedd Oliver yn flinedig ac eisiau bwyd. Yr hyn na wyddai Oliver, wrth gwrs, yw bod Dodger yn aelod o griw o bigwyr pocedi a lladron, a'r ffaith mai'r gwr bonheddig caredig a gymerodd Oliver o dan ei adain, ac sy'n cael ei adnabod fel Fagin, yw arweinydd y gang.

    Mae Fagin yn ddyn eithaf brawychus, ond mae gan Oliver rywle i gysgu erbyn hyn, ac nid yw'n hanner mor newynog, a sychedig, ac oer. Yn ystod y dyddiau cynnar yng nghartref y cwmni, gwaith Oliver yw didoli'r eitemau y mae'r bechgyn eraill yn eu cario'n ôl i'r ty. Nid yw'n sylweddoli bod y cyfan wedi cael eu dwyn.

    Un diwrnod, cafodd Oliver fynd allan o'r ty gyda Dodger a chydymaith iddo o'r enw Charley. Mae Oliver wedi ei syfrdanu pan mae'n gweld Dodger yn llithro'i law i boced hen wr bonheddig a chipio ei hances boced. Mae'r ddau fachgen yn rhedeg i ffwrdd yn gyflym tra bo Oliver yn sefyll yno'n syfrdan. Dwyn yw hyn. Mae'n cychwyn rhedeg i ffwrdd ac mae'r hen wr yn gweiddi, ‘Stop, thief!

    Ymhen dim, mae torf fawr o bobl yn rhedeg ar ôl Oliver ac o'r diwedd mae'n cael ei ddal a'i gymryd i orsaf yr heddlu ac yna o flaen y llys. Mae hyn yn ddifrifol iawn.

  4. Sut ydych chi'n meddwl yr oedd Oliver yn teimlo ar y funud honno? (Siaradwch am deimladau fel ofn, niwed, rhwystredigaeth, panig.)

    A ydych chi wedi cael y bai am rywbeth na wnaethoch chi ei wneud? (Os yw amser yn caniatáu gadewch i un neu ddau o'r plant adrodd am eu profiadau.)

  5. Yn ffodus, fel yr oedd Oliver yn sefyll yn y doc, wedi ei gyhuddo o ddwyn, mae Mr Brownlow, yr hen wr y cafodd ei hances boced ei dwyn oddi arno, yn dod i'r adwy a helpu Oliver.

    Stop! Stop! This is not the boy, sir.’ Mae'r Barnwr braidd yn flin bod ei amser yn cael ei wastraffu ac mae'n gorchymyn i Oliver adael y llys. Mae Mr Brownlow yn sylwi pa mor welw yw Oliver, a phan mae'n llewygu ar y palmant o’i flaen, mae'n trefnu bod Oliver yn cael ei gario i'w gartref ei hun.  Mae cyfnod o ddyddiau hapus a heddychlon yn dod i ran Oliver wedyn.

  6. Pan gawsoch chi eich cyhuddo o rywbeth ar gam, a wnaeth y broblem ddatrys ei hun yn y pen draw? Wnaeth pobl gredu eich stori? Sut deimlad oedd hynny?

    Ydych chi erioed wedi bod mewn sefyllfa pan nad oedd pobl yn eich coelio, pan oedd pobl ddim yn gweld y gorau ynoch chi ac yn parhau i feddwl mai chi oedd ar fai? Mae hynny'n galed!

    Fe ysgrifennodd Shakespeare, awdur enwog arall, y geiriau hyn: ‘The truth will out.’ Mae hynny'n golygu bod y gwirionedd yn dod yn wybyddus yn y pen draw.  Yn hwyr neu’n hwyrach, mae anwiredd yn cael ei amlygu yn y goleuni. 

  7. Adeg y Pasg byddwn yn cofio am Iesu. Dyma un gafodd ei feio ar gam am lawer o bethau. Roedd Iesu'n ddyn dieuog, ond er hynny roedd pobl yn dymuno meddwl pethau drwg amdano. O ganlyniad, cafodd ei groeshoelio (yn y dyddiau hynny dyna'r dull oedd gan y Rhufeiniaid o gosbi pobl a gafwyd yn euog o droseddau difrifol fel lladrata treisgar, teyrnfradwriaeth a llofruddiaeth). Ond ‘the truth will out’ fel y dywedodd Shakespeare . . . a thridiau'n ddiweddarach fe atgyfododd Iesu'n o farw’n fyw.

    Fe ddywedodd y milwr Rhufeinig a oedd yng ngofal y croeshoeliad, pan fu farw Iesu, ‘Yn wir, Mab Duw oedd hwn.’

    Iesu, yn fwy na neb arall, yw'r un sy'n deall yn iawn sut beth yw cael bai ar gam.  Mae'r Beibl yn dweud wrthym am beidio â phoeni os ydym yn ddieuog a neb yn ein coelio.  Mae Iesu'n gweld y cyfan. 

Amser i feddwl

(Goleuwch gannwyll. Os yw’n bosib ceisiwch gael cannwyll sy’n ail oleuo ohoni ei hun. Gadewch hi’n olau am ychydig, yna diffoddwch hi.)
Meddyliwch am adeg pan gawsoch chi fai ar gam am wneud rhywbeth. Edrychwch eto ar y gannwyll. (Gobeithio y bydd wedi ail oleuo erbyn hyn.)
Ryw ddiwrnod fe gaiff pobl wybod y gwir. Hyd hynny, byddwch yn ddewr a hyderus.

Gweddi
Annwyl Dduw,
diolch mai ti yw’r goleuni a’r gwirionedd,
a  diolch dy fod ti’n gwybod pob peth.
Rho hyder i ni, a gobaith, pan fyddwn ni’n cael bai ar gam.

Dyddiad cyhoeddi: Ebrill 2012    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon