Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Does Neb Yn Union Fel Chi!

Helpu’r plant i werthfawrogi eu bod yn unigryw.

gan The Revd Sophie Jelley

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Helpu’r plant i werthfawrogi eu bod yn unigryw.

Paratoad a Deunyddiau

  • Rholyn hir o bapur gwyn (gallwch ddefnyddio cefn papur wal, os nad oes glud parod arno).
  • Pin ffelt mawr.
  • Y darlleniad o’r Beibl yn yr ‘Amser i feddwl’ yw adnodau o Salm 139.13–16 (Y Beibl Cymraeg Newydd).

Gwasanaeth

  1. Ydych chi wedi meddwl erioed tybed a oes unrhyw un arall yn y byd sydd yn union fel chi? Gadewch i ni geisio darganfod yr ateb yn ystod ein hamser gyda’n gilydd heddiw. Yn gyntaf, gadewch i ni ateb rhai cwestiynau (bydd y rhain yn dibynnu ar eich sefyllfa, ond fe allech chi ofyn pethau fel hyn):

    –  llaw i fyny os ydych chi’n fachgen
    –  llaw i fyny os ydych chi’n ferch
    –  llaw i fyny os oes gennych chi wallt tywyll
    –  llaw i fyny os oes gennych chi lygaid glas
    –  llaw i fyny os gwnaethoch chi gerdded i’r ysgol heddiw (ac ymlaen).

    Wel, mae’n amlwg bod sawl peth sy’n eich gwneud yn debyg i’ch gilydd.

  2. Tybed oes rhywun yma sydd yr un siâp a’r un maint â rhywun arall. (Gosodwch eich papur wal. Dewiswch un plentyn i wirfoddoli i ddod atoch chi fel gallwch chi wneud amlinelliad ohono ef neu hi. Galwch ar rai eraill wedyn i ddod a sefyll y tu mewn i’r amlinelliad, er mwyn eu cymharu o ran maint, nes y dewch chi o hyd i rywun neu rywrai sy’n ffitio’r siâp.)

    Felly, mae pobl sy’n debyg o ran maint.

  3. Enwau – codwch eich llaw os oes rhywun yn eich dosbarth o’r un enw â chi.

    (Dewiswch ddau neu dri o blant a gofynnwch iddyn nhw ddweud eu henwau fel bod pawb yn gallu eu clywed.) Rhowch chi eich llaw i fyny hefyd os oes rhywun o’r un enw â chi.

  4. Y peth anhygoel yw, er bod llawer o bobl yr un fath o ran maint neu o ran lliw eu llygaid, neu gyda’r un enw, does neb yn y byd i gyd sydd yn union yr un fath â chi.

    Codwch eich bawd ar y plant! Yna, craffwch ar eich bawd. Does neb arall yn y byd sydd â’r un ôl bawd neu olion bysedd â chi. Rydych chi’n arbennig. Chi yw’r unig un sy’n union fel chi! 

Amser i feddwl

Mae Cristnogion yn credu mai Duw sydd wedi gwneud pob un ohonom.

(Goleuwch gannwyll a darllenwch ran o Salm 139.)

Ti a greodd fy ymysgaroedd,
a’m llunio yng nghroth fy mam.
Clodforaf di, oherwydd yr wyt yn ofnadwy a rhyfeddol,
ac y mae dy weithredoedd yn rhyfeddol.
Yr wyt yn fy adnabod mor dda;
ni chuddiwyd fy ngwneuthuriad oddi wrthyt,
pan oeddwn yn cael fy ngwneud yn y dirgel,
ac yn cael fy llunio yn nyfnderoedd y ddaear.
Gwelodd dy lygaid fy nefnydd di-lun;
y mae’r cyfan wedi ei ysgrifennu yn dy lyfr;
cafodd fy nyddiau eu ffurfio pan nad oedd yr un ohonynt.

Gweddi
Helpa ni i wybod bob dydd ein bod ni’n arbennig.
Diolch i ti am fy ngwneud i yr un ydw i.

Dyddiad cyhoeddi: Ebrill 2012    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon