Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Delio A Straen Yn Blwyddyn 6

Trafod dulliau o ddelio â straen.

gan Hayley Kearns

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 2

Nodau / Amcanion

Trafod dulliau o ddelio â straen.

Paratoad a Deunyddiau

  • Pêl neu eitem debyg, a tharged i’w daro.
  • Tudalen o ysgrifen Ffrangeg neu Sbaeneg, pa iaith dramor fodern y mae cymuned yr ysgol yn fwyaf cyfarwydd â hi.

Gwasanaeth

  1. Gofynnwch y cwestiynau canlynol i'r plant.

    -  Ydych chi'n gallu darllen pob gair yn y llyfrau a gewch chi gan eich athrawon? Rhowch eich llaw i fyny os ydych chi’n gallu.
    -  Ydych chi'n gallu ateb pob un o’r symiau gewch chi yn eich gwers fathemateg?

    (Efallai bydd rhai yn orhyderus gyda'u hymatebion, ond gadewch iddyn nhw wybod bod pob plentyn ac oedolyn yn parhau i ddysgu am bethau newydd bob dydd o’i oes.)

    Yna, gofynnwch: Ydych chi'n dda am wneud mathemateg? Codwch ar eich traed os ydych chi.

    Gofynnwch gwestiwn tebyg ar gyfer gwahanol bynciau a gweithgareddau - gwnewch yn siwr fod pob plentyn wedi codi ar ei draed o leiaf unwaith.

  2. Pwysleisiwch fod llawer o wahanol blant wedi codi ar eu traed i ddweud eu bod nhw'n dda am wneud gwahanol bethau. Allwch chi ddim bod yn dda ym mhob pwnc bob amser.

    Yr hyn sy'n cyfrif yw y dylem bob amser wneud ein gorau glas yn y pethau hynny yr ydym yn dda am eu gwneud a gwneud ein gorau yn y pethau yr ydym yn wan ynddyn nhw hefyd.

  3. Gofynnwch i blentyn ddod i sefyll atoch chi i’r tu blaen, a gofynnwch iddo ef neu hi daflu'r gwrthrych at y targed. Bob tro y bydd y plentyn yn llwyddo, cynyddwch y pellter nes bo'r plentyn yn methu taro’r targed.

    Pan fydd y plentyn yn methu, a yw hynny'n golygu ei fod ef neu hi yn fethiant? Beth all y plentyn ei wneud i sicrhau llwyddiant o'r pellter yna?

    Cyfeiriwch y plant at y syniad o feddwl pa mor bwysig yw gofyn am help, ac ymarfer yr hyn y maen nhw'n ei ddysgu. (Gallwch ddangos hyn trwy ddefnyddio brawddegau yn Sbaeneg/Ffrangeg gyda rhai geiriau sy'n adnabyddus a rhai sy'n anodd.)

  4. Dywedwch wrth y plant fod unrhyw beth anodd a geisiwn ei wneud, nad oes methiant ynghlwm wrth fethu â'i wneud, ond mae methiant os na wnawn ni ymdrechu. Fel mater o ffaith, trwy gael rhywbeth yn anghywir gallwn ddod i wybod yr hyn sydd ei angen ei wneud i'w gael yn gywir, ac felly y byddwn ni’n ‘dysgu’.  

  5. Dywedwch wrth y plant am gofio, pan fyddan nhw’n cael profion neu’n sefyll arholiadau yn y dyfodol, eu bod yn bwysig. Ydyn, maen nhw’n bwysig, ond mae pawb yn gwybod nad yw unrhyw brawf ddim ond yn profi eu gallu yn y pwnc hwnnw ar y diwrnod arbennig hwnnw.

    Cyn belled ag y byddwch chi’n gwneud eich gorau mewn unrhyw brofion neu arholiadau a ddaw i’ch rhan yn eich gyrfa, fe ddylai eich rhieni, eich athrawon, a chi eich hunain hefyd, fod yn fodlon iawn. Felly cofiwch wneud eich ymdrech orau.

Amser i feddwl

Treuliwch ychydig funudau yn meddwl am y rhannau hynny o'ch gwaith sy'n dod yn hawdd i chi.

(Saib)

Yn awr, meddyliwch am y pethau sydd yn fwy anodd i chi.

(Saib)

Sut mae modd i chi ymarfer ar gyfer y gwaith anodd? Os na fedrwch chi feddwl am ffordd hwylus o wneud hynny, efallai y gallech chi gael sgwrs gyda'ch athro neu eich athrawes am hyn.

Gweddi
Arglwydd Dduw,
Rwy'n gweddïo y byddi Di'n gafael yn fy llaw
ac yn cerdded gyda mi trwy adegau anodd.
Gofynnaf i ti leihau pwysau sydd arnaf yn fy mywyd
neu dangos i mi pa lwybr y dylwn ei gerdded i gyflawni fy nod.
Helpa fi gyda’r pethau hynny rydw i’n eu cael anhawster i’w gwneud. 
Diolch i Ti, Arglwydd, am y cyfan a wnei yn fy mywyd,
a diolch am y ffyrdd y byddi'n darparu ar fy nghyfer,
hyd yn oed mewn amseroedd anodd.

Cân/cerddoriaeth

Chwaraewch y gerddoriaeth ‘Under pressure’ gan David Bowie

Dyddiad cyhoeddi: Mai 2012    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon