Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Rhowch 'Wyneb Hapus' I Chi Eich Hun

Annog pawb i feddwl yn gadarnhaol amdano’i hun.

gan Manon Ceridwen Parry

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 2

Nodau / Amcanion

Annog pawb i feddwl yn gadarnhaol amdano’i hun.

Paratoad a Deunyddiau

  • Cefndir: mae’r gwasanaeth yn seiliedig ar y syniad o ddadansoddiad rhyngweithredol - Transactional Analysis, sef trafod gweithredoedd cadarnhaol a gweithredoedd negyddol.
  • Lluniwch ddwy ddelwedd - naill ai ar bapur, neu fel cyflwyniad PowerPoint - un ddelwedd o wyneb hapus yn gwenu a’r llall yn ddim ond sgribls mawr du wedi’u gwneud â phin ffelt tew.

Gwasanaeth

  1. Holwch y plant: Faint ohonoch chi sydd wedi cael ‘wyneb hapus’ heddiw?

    Os yw’r plant yn ymddangos ychydig yn ddryslyd wrth geisio ateb eich cwestiwn, dywedwch wrthyn nhw y gwnewch chi egluro beth rydych chi’n ei olygu wrth ddefnyddio’r term ‘wyneb hapus’. Gofynnwch: Faint ohonoch chi sydd wedi dweud rhywbeth caredig wrth rywun arall heddiw? Sut byddwch chi’n teimlo pan fydd rhywun yn dweud rhywbeth caredig wrthych chi? Fydd gennych chi ‘wyneb hapus’?

    Er enghraifft, os gwnaethoch chi ddiolch i’ch mam am eich brecwast heddiw, fe fyddai hynny wedi gwneud iddi deimlo’n dda. Pan fydd eich ffrindiau’n dweud wrthych chi eu bod yn hoffi’r ffordd rydych chi wedi gwneud eich gwallt heddiw, neu’n dweud eu bod yn hoffi’ch esgidiau newydd, fydd hynny’n gwneud i chi deimlo’n hapus?

    Gadewch i ni alw’r geiriau caredig hyn yn eiriau ‘wyneb hapus’. (Dangoswch y llun sydd gennych chi o’r wyneb yn gwenu.)

  2. Ond, nid dim ond pobl eraill sy’n gallu rhoi ‘wyneb hapus’ i ni; fe allwn ni roi ‘wyneb hapus’ i ni ein hunain hefyd.

    Efallai ein bod yn meddwl, ambell dro, nad ydyn ni’n dda iawn am wneud rhywbeth yn yr ysgol – mathemateg, er enghraifft. Rydyn ni’n meddwl ein bod yn cael yr atebion yn anghywir o hyd. Ond, na, os gwnawn ni eistedd a meddwl fel hyn – rydw i’n mynd i geisio fy ngorau i wneud hwn yn iawn y tro yma – fe fydd gennym ni well siawns o gael yr ateb yn iawn.

  3. Does dim eisiau i ni feddwl pethau gwael amdanom ni ein hunain. Rydw i’n mynd i alw meddwl pethau gwael amdanom ni ein hunain yn ‘sgribls’. (Dangoswch y llun sydd gennych chi o’r ‘sgribls’ du.) Os byddwn ni’n meddwl cyn dechrau ein bod ni’n mynd i fethu gwneud rhywbeth - rydyn ni’n fwy tebygol o gael yr atebion yn anghywir. Felly, peidiwch â rhoi ‘sgribls’ i chi eich hun, rhowch ‘wyneb hapus’ i chi eich hun, yn lle hynny.

  4. Fe allwn ni roi ‘wyneb hapus’ neu ‘sgribls’ i bobl eraill hefyd. Pan fyddwn ni’n dweud pethau caredig (‘wyneb hapus’) fe allwn ni wneud pobl eraill yn hapus, a gwneud ein cymuned a’n hysgol yn lle hapus.

    Ond, pan fyddwn ni’n dweud pethau cas (‘sgribls’), mae hynny’n gallu gwneud i bawb deimlo’n drist a gwneud ein hysgol, ein cymuned, neu ein teulu’n drist.

    Mae gennym ni ddewis bob tro: gwneud ein hunain, a gwneud pobl eraill, naill ai i deimlo’n hapus neu i deimlo’n drist.

    Dewiswch roi ‘wyneb hapus’ iddyn nhw ac i chi eich hun!

    Datblygiad

    Mae’n bosib cysylltu hyn â dysgeidiaeth Gristnogol am gariad. Er enghraifft, yn Llythyr Cyntaf Ioan 4.7-12, rydyn i’n dysgu bod Duw’n ein caru gymaint fel ei fod wedi anfon Iesu i’r byd. Ac oherwydd hynny fe ddylem ninnau garu ein gilydd hefyd.

Amser i feddwl

Pan fyddwn ni’n siarad â ni ein hunain yn ein pen, fe allwn ni ddweud pethau ‘wyneb hapus’ neu bethau ‘sgribls’. Weithiau, fe fydd angen i ni ddweud wrth y pethau ‘sgribls’ am fynd i ffwrdd. Felly, gadewch i ni dreulio ychydig o amser yn meddwl am hyn yn dawel.

Pa bethau rydyn ni’n dda am eu gwneud? Meddyliwch am foment am y pethau hynny – pêl-droed, pêl-rwyd, neu ryw chwaraeon eraill, o bosib? Efallai eich bod yn dda am wneud gwaith yn y dosbarth, neu efallai eich bod yn ffrind da . . . neu’n un da am ddweud jôcs.

Meddyliwch am y frawddeg hon – ‘Mae’n dda bod yn fi.’ Pam y mae hi’n dda i ni fod yn ni ein hunain?

Gweddi
Arglwydd Dduw,
helpa fi i roi ‘wyneb hapus’ ac nid ‘sgribls’
i mi fy hun ac i bobl eraill.

Dyddiad cyhoeddi: Mai 2012    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon