Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Julian O Norwich

Dysgu am fywyd Julian o Norwich, a ysgrifennodd y llyfr cyntaf i gael ei ysgrifennu yn Saesneg gan ferch.

gan Ronni Lamont

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 2

Nodau / Amcanion

Dysgu am fywyd Julian o Norwich, a ysgrifennodd y llyfr cyntaf i gael ei ysgrifennu yn Saesneg gan ferch.

Paratoad a Deunyddiau

  • Efallai yr hoffech chi ofyn i un o’r plant wisgo fel Julian, gwraig dlawd a oedd yn byw yn y bedwaredd ganrif ar ddeg. Fe allai’r plentyn hwnnw lefaru geiriau Julian.
  • Fe fydd arnoch chi angen cneuen hefyd, cneuen gollen (hazelnut).
  • Yng Nghalendr yr Eglwys, caiff Julian ei choffau bob blwyddyn ar yr 8fed o fis Mai.

Gwasanaeth

  1. Plentyn: Fy enw i yw Julian. Rydw i’n byw yn ymyl dinas Norwich, a’r flwyddyn yw 1373. Rydw i’n byw ar ben fy hun, mewn ystafell fechan, sy’n cael ei galw’n gell, ac sydd ynghlwm i’r eglwys leol. Mae gen i ffrind sy’n dod â bwyd a diod i mi bob dydd, ond fydda i byth yn mynd allan o fy ystafell.

    Rydw i wedi bod yn sâl iawn. Rydw i wedi bod yn gorwedd yn fy ngwely ers wythnosau, rhywle rhwng byw a marw. Ond heddiw, rydw i’n teimlo’n well.

    Yn y flwyddyn 1373, ym mis Mai, roeddwn i mor wael roedd y rhai a oedd o fy nghwmpas yn meddwl fy mod yn mynd i farw. Ond ar yr wythfed dydd o’r mis hwnnw, rhwng 4 o’r gloch a 9 o’r gloch y bore, fe gefais i gyfres o freuddwydion, breuddwydion rhyfeddol iawn.

  2. Arweinydd:  Ac, roedd y breuddwydion hynny’n rhai rhyfeddol iawn, yn wir!

    Allwch chi ddychmygu beth oedd breuddwyd Julian? (Treuliwch foment yn trafod gyda’r plant a derbyniwch rai awgrymiadau.)

    Fe freuddwydiodd Julian am Dduw. Fe welodd hi Dduw yn ei breuddwyd, a thros sawl diwrnod yn ei breuddwyd fe siaradodd Duw â hi. Roedd y cyfan mor fyw yn ei meddwl, pan ddeffrodd Julian fe ddywedodd:

    Plentyn:  Rhaid i mi ysgrifennu’r hyn mae Duw wedi’i ddweud wrthyf yn fy mreuddwyd! 

  3. Ond roedd un broblem sylfaenol iawn gan Julian. Beth ydych chi’n feddwl oedd ei phroblem? (Derbyniwch rai awgrymiadau.)

    Doedd Julian ddim yn gwybod sut i ysgrifennu. Beth allai hi ei wneud? Roedd hi’n oedolyn, a doedd hi ddim yn gallu ysgrifennu! Ond, yn y dyddiau rheini, roedd hynny’n beth cyffredin iawn. Dim ond pobl o gartrefi cyfoethog oedd yn gallu ysgrifennu, ac ychydig iawn o ferched oedd yn gallu ysgrifennu. Roedd Julian yn dod o gartref tlawd - ac yn ferch - felly, wrth gwrs, doedd hi ddim yn gallu ysgrifennu!

  4. Felly, beth ydych chi’n feddwl wnaeth Julian? (Derbyniwch rai awgrymiadau.)

    Am mai Julian oedd Julian, doedd hi ddim am adael i beth bach fel methu ysgrifennu ei rhwystro, felly fe benderfynodd ddysgu ysgrifennu. Credir mai offeiriad yn yr eglwys a ddysgodd iddi sut i ysgrifennu, ac wedyn roedd hi’n gallu ysgrifennu’r hyn roedd hi eisiau ei ddweud.

    Fe gymrodd hyn flynyddoedd iddi. Doedd dim cyfrifiaduron bryd hynny, na theipiaduron hyd yn oed (sef y peiriannau ysgrifennu cyn dyddiau cyfrifiaduron). Doedd dim beiros ychwaith - dim ond cwilsyn, neu bluen fawr, ac inc. Dyna beth oedd gwaith anodd, ysgrifennu â chwilsyn ac inc!

    Ond, 20 mlynedd yn ddiweddarach - ie, 20 mlynedd yn ddiweddarach - fe orffennodd ysgrifennu’r hyn roedd hi eisiau ei ddweud. Roedd hi wedi ysgrifennu’r llyfr cyntaf un i gael ei ysgrifennu gan ferch yn yr iaith Saesneg. Mae llyfr ar gael hyd heddiw, a’i enw yw The Revelations of Divine Love.

  5. Roedd y llyfr yn union fel roedd Julian eisiau iddo fod. Mae’r llyfr yn sôn am faint mae Duw’n ein caru ni.

Amser i feddwl

Mae dau beth pwysig wedi eu nodi yn y llyfr. Y peth cyntaf yw:

(Daliwch y gneuen gollen) Fe welodd Julian law Duw, wedi’i chau fel hyn (caewch eich bysedd dros y gneuen, gyda’ch dwrn caeedig â’i wyneb i fyny). Pan agorodd Duw ei law (agorwch eich dwrn fel bod y plant yn gallu gweld y gneuen ar gledr eich llaw) fe welodd Julian gneuen fach. Pan ofynnodd Julian i Dduw beth oedd y gneuen, fe atebodd, ‘Dyma bopeth sydd wedi cael ei greu.’ Roedd popeth yn y bydysawd yn ffitio ar gledr llaw Duw, ac roedd tua maint y gneuen fach yma.

(Oedwch)

Popeth sydd wedi’i greu erioed, yr un faint â chneuen fach yn llaw Duw.

Yr ail beth pwysig yw hwn:

Roedd Julian yn gofidio am y pethau oedd yn digwydd yn y byd roedd hi’n byw ynddo: roedd hi’n adeg o ryfel, roedd y wlad mewn llanast roedd llawer o bobl yn wael, ac roedd pethau’n ddrwg iawn. Wrth iddi siarad â Duw am hyn, fe ddywedodd Duw wrth Julian: ‘Bydd popeth yn dda, ac fe fydd popeth yn dda, a bydd pob math o bethau yn dda.’ (‘All shall be well and all shall be well and all manner of things shall be well.’)

Bydd popeth yn dda.

Gadewch i ni weddïo:

Diolch dy fod ti wedi addo y bydd popeth yn dda.
Pan fydd bywyd yn anodd, helpa ni i gofio’r addewid hwnnw.

Dyddiad cyhoeddi: Mai 2012    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon