Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Y Pentecost

Adrodd stori’r Pentecost.

gan Jan Edmunds

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Adrodd stori’r Pentecost.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen 16 o blant yn llefarwyr.
  • Fe fydd arnoch chi angen 16 darn o gerdyn maint A4. Ar 9 ohonyn nhw, ysgrifennwch un o bob un o’r llythrennau canlynol i ffurfio’r gair PENTECOST gyda’r cardiau. Ar ochr arall pob cerdyn, argraffwch neu ysgrifennwch y llinellau yn barod i’ch adroddwyr eu llefaru yn eu tro wrth iddyn nhw ddal y cardiau i fyny. Fe allwch chi argraffu eu brawddegau i’r saith adroddwr arall hefyd ar y cardiau sy’n weddill. Ac, efallai yr hoffech chi ludio lluniau sy’n cyd-fynd â’r stori ar eu cardiau nhw.
  • Fe fydd angen i chi ymarfer o flaen llaw, er mwyn gofalu bod y plant yn gyfarwydd â’u brawddegau, ac yn gyfarwydd â’u trefn.

Gwasanaeth

Llefarydd 1  Bore da, bawb! Heddiw rydyn ni am sôn am stori ryfeddol arall o’r Beibl.

Llefarydd 2  Gadewch i ni weld beth ddigwyddodd. Rydyn ni’n mynd i sillafu enw’r digwyddiad i chi.

Llefarydd 3  (yn dangos y llythyren P) P! Mae P am pobl. Roedd y bobl sydd yn y stori hon yn bobl a oedd wedi cael eu dewis yn arbennig gan Iesu. Nhw oedd y disgyblion, ac roedden nhw gyda’i gilydd mewn ty yn Jerwsalem.

Llefarydd 4  (yn dangos y llythyren E) E am eistedd! Roedd y disgyblion yn eistedd mewn ystafell, yn disgwyl i rywbeth ddigwydd. Roedd Iesu wedi dweud wrthyn nhw am aros. Doedden nhw ddim yn gwybod beth oedd yn mynd i ddigwydd.

Llefarydd 5  (yn dangos y llythyren N) N! Mae N am nerfusrwydd. Roedd y disgyblion i gyd yn teimlo’n nerfus iawn, ac roedd ofn arnyn nhw pan glywson nhw swn rhuo mawr y gwynt rhyfedd a lanwodd yr ystafell.

Llefarydd 6  (yn dangos y llythyren T) T am troi a throsi! Roedd y gwynt nerthol yn troi a throsi, ac yn chwyrlio o’u cwmpas yn yr ystafell. Roedd yn brofiad rhyfedd iawn i’r disgyblion.

Llefarydd 7  (yn dangos y llythyren E) E! Mae E am effaith. Cafodd y profiad rhyfedd effaith fawr ar y disgyblion, a’u gwneud yn bobl newydd.

Llefarydd 8  (yn dangos y llythyren C) C am y Cristnogion! Ar ôl cael y profiad yma, roedd dilynwyr Iesu Grist, sef y Cristnogion, yn teimlo’n ddewr ac yn hapus iawn.

Llefarydd 9  (yn dangos y llythyren O) O! Mae O am ofn. Os oedd y disgyblion yn teimlo’n ofnus ar y dechrau, doedd dim ofn arnyn nhw wedyn. Roedden nhw’n hapus am eu bod wedi cael gallu arbennig gan Dduw.

Llefarydd 10  (yn dangos y llythyren S) S am syndod! Roedd pawb wedi synnu pan welson nhw beth oedd wedi digwydd i’r disgyblion. Roedd y disgyblion wedi cael eu llenwi ag Ysbryd Glân Duw.

Llefarydd 11  (yn dangos y llythyren T) T am tafodau tân! Roedd rhywbeth tebyg i dafodau o dân wedi aros ar ben pob un o’r bobl a oedd yn yr ystafell, ac wedi rhoi gallu arbennig iddyn nhw. Roedd Ysbryd Glân Duw wedi disgyn arnyn nhw.

Llefarydd 12  Mae’r llythrennau yma’n sillafu’r gair PENTECOST. Dyna’r adeg pan gafodd y disgyblion nerth arbennig gan Dduw.

Llefarydd 13  Ar ôl i’r bobl oedd yn sefyll y tu allan weld beth oedd yn digwydd, fe ddywedodd un o’r rhai a oedd yn y dyrfa: ‘Onid pobl o Galilea yw’r bobl hyn sy’n siarad yma? Fel arfer, maen nhw’n siarad iaith wahanol i ni. Sut, felly, rydyn ni y bobl sy’n eu clywed nhw’n siarad, yn gallu eu deall? Maen nhw fel pe bydden nhw’n siarad ein hiaith ni, a ninnau’n eu deall nhw!’

Llefarydd 14  Roedd Pedr yn un o’r disgyblion rheini, ac fe ddywedodd Pedr wrth y dyrfa: ‘Mae Duw wedi arllwys ei Ysbryd Glân arnom ni. Yn awr, fe allwn ni ddweud wrth bawb am Dduw. Fe fyddwn ni’n clywed Duw yn siarad yn glir, fe fyddwn ni’n cael gweledigaethau ac yn gallu gwneud gwyrthiau rhyfeddol.’

Llefarydd 15  Fe ddywedodd Pedr hefyd: ‘Mae Iesu, yr un a gafodd ei groeshoelio, yn fyw, ac mae Duw wedi ei wneud yn Arglwydd dros bawb. Os byddwch chi’n edifarhau am y pethau drwg rydych chi wedi eu gwneud, fe fydd yn maddau i chi.’

Llefarydd 16  Y diwrnod hwnnw, fe ddaeth tua 3,000 o bobl yn Gristnogion. Hyd heddiw, mae neges Duw yn cael ei lledaenu ledled y byd.

Amser i feddwl

Gweddi

Ysbryd Duw,
sydd mor anweladwy â’r gwynt,
ac mor fwyn â’r golomen,
dysga i ni’r gwir, a helpa ni i gredu.
Dangos i ni gariad y Gwaredwr.

(addasiad o eiriau gweddi o eiddo Margaret Old)

Dyddiad cyhoeddi: Mai 2012    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon