Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Plany Yr Enfys

Gweld sut mae amrywiaeth, a bod pawb yn wahanol, yn well na bod pawb yr un fath.

gan Ronni Lamont

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 1

Nodau / Amcanion

Gweld sut mae amrywiaeth, a bod pawb yn wahanol, yn well na bod pawb yr un fath.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen saith tudalen fawr o bapur, a phob un wedi’i lliwio â lliw gwahanol o saith lliw’r enfys (coch, oren, melyn, gwyrdd, glas, indigo, fioled). Rhowch y tudalennau lliw i saith o blant wrth iddyn nhw ddod i mewn i’r gwasanaeth.
  • Llwythwch i lawr y gân ‘I Can Sing a Rainbow’ (cân a ganwyd flynyddoedd yn ôl gan Cilla Black).

Gwasanaeth

  1. Gofynnwch i’r saith plentyn ddod ymlaen i ddal y dalennau papur lliw, gan sefyll yma ac acw ar hap, heb fod mewn unrhyw drefn.

    (Os yw hynny’n bosib) Gofynnwch i weddill y plant, fesul dosbarth efallai, ddewis eu hoff liw o’r rhain a dod i sefyll mewn rhes o flaen y lliw hwnnw. Rhaid iddyn nhw ddewis un lliw yn unig.

    (Os nad yw hynny’n bosib) Gofynnwch i’r plant bleidleisio pa un yw eu hoff liw trwy godi eu dwylo.

  2. Oes rhai o’r plant yn gwisgo dilledyn o’u hoff liw heddiw?

    Sgwrsiwch am foment am yr hoff liwiau, yna gofynnwch i’r plant (ar wahân i’r rhai sy’n dal y papurau lliw) fynd yn ôl i eistedd.

    Holwch y plant am enghreifftiau o ddillad neu fagiau, neu unrhyw beth arall sydd ganddyn nhw, sy’n dangos eu bod yn hoff o’r lliw hwnnw.

  3. Nawr, holwch y plant, tybed pam rydych chi wedi dewis y lliwiau maen nhw’n eu gweld o’u blaenau? (Am mai lliwiau’r enfys ydyn nhw. Gosodwch y plant sy’n eich helpu gyda’r lliwiau, mewn trefn gywir yn awr, fel eu bod yn yr un drefn â lliwiau’r enfys.)

    Beth fyddai’n digwydd pe byddai un o’r lliwiau ar goll neu pe na byddai un o’r lliwiau’n bodoli? (Fe fydden ni’n colli’r lliw hwnnw. Fyddai’r enfys ddim mor hardd, fe fyddai hi’n anghyflawn.)

  4. Oes rhywun yn gwybod pa liw fyddai gennych chi pe byddech chi’n cymysgu paent o’r saith lliw’r yma gyda’i gilydd? (Fe fyddai gennych chi ryw fath o liw brown tywyll.)

    Mae enfys yn cael ei chreu wrth i oleuni gwyn llachar yr haul belydru drwy niwlen neu law. Mae goleuni’r haul yn cael ei hollti ac mae’n bosib i chi ei weld fel lliwiau gwahanol. Rhowch yr holl liwiau gyda’i gilydd eto: beth gewch chi?
    (Mae’r lliwiau i gyd gyda’i gilydd yn gwneud golau gwyn, sy’n anweledig i ni – dyna’r goleuni rydyn ni’n byw ynddo.)

  5. Yn y Beibl, mae’n nodi bod Duw wedi creu goleuni, a Duw wnaeth y goleuni sy’n ein helpu ni i weld: a hynny ar ffurf yr haul a’r lleuad a’r sêr.

    Mae’r golau sy’n dod o’r haul a’r lleuad yn gymysgedd o’r holl liwiau rydyn ni’n eu gweld. (Efallai yr hoffech chi roi munud bach i’r plant feddwl am hyn, gan nad yw’n beth amlwg iawn.)

    Fe greodd Duw’r golau i gynnwys y gwahanol liwiau, ac fe greodd Duw bob un ohonom ni’n wahanol i’n gilydd hefyd. Fe fydden ni’n colli unrhyw rannau fyddai ddim yno. Bechgyn, genethod, byr a thal, rhai canolig, rhai â llygaid glas, gwyrdd neu frown, ac ymlaen, ac ymlaen. Duw wnaeth bob un ohonom ni, ac fe wnaeth bob un ohonom ni’n wahanol.

  6. Oni fyddai bywyd yn ddiflas pe byddem ni i gyd yr un fath?

Amser i feddwl

(Chwaraewch y gerddoriaeth a awgrymir)

Gadewch i ni feddwl sut rai ydym ni i gyd:
Rhai yn dal, eraill ddim mor dal,
Rhai yn dda mewn chwaraeon, eraill ddim mor dda,
Cyfeillgar, swil,
Siaradus, distaw.
Diolch i ti, Dduw, fy mod i yr un ydw i.

Dyddiad cyhoeddi: Mehefin 2012    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon