Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Jiwbili Ddiemwnt

gan Rebecca Parkinson

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 2

Nodau / Amcanion

Dathlu Jiwbilî Ddiemwnt y Frenhines Elizabeth II.

Paratoad a Deunyddiau

  • Efallai yr hoffech chi gael un plentyn wedi gwisgo fel y Frenhines i fod yn ganolbwynt i’r gwasanaeth.
  • Er mwyn cael gwybodaeth am y Frenhines a’r teulu brenhinol, a chael lluniau o’r Frenhines ar wahanol adegau yn ystod ei bywyd (cliciwch ar y lluniau er mwyn cael lluniau mwy), edrychwch ar y wefan swyddogol: https://www.npg.org.uk/collections/search/person/mp01454/queen-elizabeth-ii
  • Er mwyn cael y clip o Elizabeth a Margaret yn ystod yr Ail Ryfel Byd, ewch i https://www.royal.uk/her-majesty-the-queen?ch=2#bio-section-1
  • Yn ystod y flwyddyn, ac yn enwedig dros y penwythnos estynedig o 2 i 5 Mehefin, mae llawer o ddathliadau wedi eu trefnu ledled y byd. Chwiliwch am fanylion yn ymwneud â digwyddiadau yn eich ardal leol chi (gwelwch rhif 6).
  • Os hoffech chi glywed y neges a roddodd y Frenhines ddeng mlynedd yn ôl, pan oedd yn dathlu ei Jiwbilî Aur, chwiliwch ar Google am ‘The Queen’s Golden Jubilee’ ac yna cliciwch ar ‘The Queen’s Jubilee message’.
  • Os byddwch chi eisiau canu’r anthem, ‘God save the Queen’ edrychwch ar: https://www.youtube.com/watch?v=tN9EC3Gy6Nk

Gwasanaeth

  1. Dechreuwch trwy ddweud wrth y plant bod rhywun arbennig iawn wedi ei geni ar 21 Ebrill 1926. Eglurwch eich bod yn mynd i roi cliwiau iddyn nhw i’w helpu i ddyfalu pwy oedd y ferch fach honno. Ar ôl pob cliw, rhowch gyfle i’r plant awgrymu enwau.

    –  Enw ei mam oedd Elizabeth.
    –  George oedd enw ei thad .
    –  Roedd ganddi chwaer o’r enw Margaret.
    –  Mae hi’n un o ferched mwyaf enwog y byd.
    –  Mae ganddi bedwar o blant.
    –  Fe gafodd ei magu mewn palas.
    –  Fe briododd ei hwyr, William, y llynedd.

    Mae’n bosib na fyddwch angen yr holl gliwiau! Fe allwch chi ddefnyddio’r cyswllt uchod i ddangos llun i’r plant o’r Frenhines pan oedd hi’n fabi, oddi ar un o’r gwefannau (Early life).

  2. Eglurwch fod y Frenhines wedi cael magwraeth freintiedig, wedi ei magu i deulu bonheddig, ond er hynny roedd ei rhieni wedi ceisio cadw’r ddwy ferch mewn cysylltiad â bywyd ‘normal’. Mae’r clip rydych chi am ei ddangos wedi ei ffilmio yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Roedd y ddwy dywysoges wedi cael eu gwahodd i siarad ar y radio gyda holl blant y wlad (gwelwch yr adran ‘Paratoad a deunyddiau’).

    Holwch y plant beth yw eu hymateb i’r clip yma.

    -  Am beth mae Elizabeth yn diolch i’r bobl?
    -  Beth oedd y sefyllfa yn y wlad ar y pryd?
    -  I ble mae nifer o’r plant wedi teithio?
    -  Mae hi’n dweud bod gan blant y byd gyfle i wneud rhywbeth. Beth? (Gweithio dros heddwch)

  3. Pan fu ei thad, y Brenin George VI, farw ar 6 Chwefror 1952, fe wyddai’r dywysoges ifanc, Elizabeth, na fyddai ei bywyd byth yr un fath wedyn. Fe fydda hi, wedyn, yn Frenhines!

    Ychydig dros flwyddyn yn ddiweddarach, ar 2 Mehefin 1953, fe gafodd ei choroni’n frenhines - ar y pryd roedd pobl yn teimlo y byddai’n amhriodol cynnal dathliad mawr fel coroni brenhines yn rhy fuan ar ôl marwolaeth y Brenin.

  4. Eleni, mae’n chwe deg mlynedd ers i’r Dywysoges Elizabeth ddod yn Frenhines. Caiff yr achlysur ei alw’n Jiwbilî Ddiemwnt, ac mae dathliadau wedi eu trefnu mewn llawer gwlad.

    Hyd yma, yr unig frenin neu frenhines Brydeinig arall i ddathlu Jiwbilî Ddiemwnt yw’r Frenhines Victoria. Bu’r Frenhines Victoria’n teyrnasu am 63 mlynedd, 7 mis a 2 ddiwrnod. Gofynnwch i’r plant oes rhywun yn gallu dweud am faint mwy y bydd yn rhaid i’r Frenhines Elizabeth deyrnasu os bydd am dorri record y Frenhines Victoria?

  5. Holwch y plant beth maen nhw’n ei feddwl mae’r frenhines yn ei wneud? Dangoswch rai o’r lluniau oddi ar wefan swyddogol am y Frenhines (gwelwch yr adran ‘Paratoad a deunyddiau’). Os yw’r amser yn caniatáu, fe allech chi ddewis dangos rhai clipiau fideo o’r frenhines mewn gwahanol achlysuron (cliciwch ar ‘video gallery’ i gael rhestr lawn).

    Eglurwch, er bod gwahanol bobl ag amrywiaeth barn am y teulu brenhinol, mae’r rhan fwyaf yn credu bod y Frenhines wedi gweithio’n galed ac yn gwneud gwaith da wrth gynrychioli’r wlad. Mae’n gyflawniad enfawr iddi fod wedi teyrnasu fel brenhines am 60 mlynedd, ac mae’n achlysur gwych i’w ddathlu!

  6. Er mwyn i bobl gael dathlu’r Jiwbilî Ddiemwnt, mae’r wlad yn cael diwrnod ychwanegol o wyliau eleni, sef dydd Mawrth, 5 Mehefin. Os yw’r ysgolion wedi cau am wythnos gwyliau hanner tymor ar y diwrnod hwnnw beth bynnag, fe fyddan nhw’n cael dewis diwrnod arall i’w gymryd yn wyliau yn ei le! (Fe fyddai hwn yn gyfle da i sôn wrth y plant am unrhyw weithgareddau sydd wedi eu trefnu’n lleol ar gyfer diwrnod y dathlu.)

Amser i feddwl

Rydyn ni’n ffodus iawn yn cael byw mewn gwlad lle rydyn ni’n gallu mwynhau heddwch.

Oedwch am foment i gofio am bobl y gwledydd hynny sydd ddim mor ffodus â ni, gwledydd lle mae rhyfeloedd, neu achosion o sychder mawr a newyn difrifol.

Treuliwch foment yn diolch i Dduw ein bod yn byw mewn gwlad lle mae gennym bethau i’w dathlu.

(Efallai yr hoffech chi ddarllen y neges a roddodd y Frenhines ddeng mlynedd yn ôl pan oedd yn dathlu ei Jiwbilî Aur, gwelwch yr adran ‘Paratoad a deunyddiau’. Gofynnwch i’r plant feddwl am y geiriau wrth i chi eu darllen.)

Gweddi
Annwyl Dduw,
diolch i ti am ein gwlad.
Diolch i ti am achlysuron i’w dathlu.
Bydd gyda’r Frenhines Elizabeth wrth iddi ddathlu 60 mlynedd ei theyrnasiad.
Cynorthwya hi ym mhob peth y mae hi’n ei wneud.

Cân/cerddoriaeth

Os hoffech chi, fe allech chi chwarae’r anthem ‘God save the Queen’ ar y diwedd. 

Dyddiad cyhoeddi: Mehefin 2012    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon