Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Merthyrdod Guru Arjan

Canlyniad achos o genfigen

gan Helen Redfern

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 2

Nodau / Amcanion

Galw i gof stori Guru Arjan, a meddwl am bethau a allai ddigwydd o ganlyniad i genfigen.

Paratoad a Deunyddiau

  • Guru Arjan oedd pumed Guru’r Sikhiaid, a merthyr cyntaf y Sikhiaid.
  • Fe fydd arnoch chi angen tri i ddarllen.
  • Am ragor o wybodaeth, edrychwch ar y gwefannau www.allaboutsikhs.com/ a www.sikhs.org

Gwasanaeth

  1. Stori’r Guru Arjan

    Arweinydd  Cafodd y Guru Arjan ei eni yn y flwyddyn 1563, yn y wlad rydyn ni heddiw’n ei galw’n India. Arjan oedd mab ieuengaf y pedwerydd Guru, Ram Das. Wrth i Arjan dyfu, fe ofynnodd ei dad i Arjan fod y Guru nesaf ar ei ôl ef, yn llinach barchus arweinyddion y Sikhiaid.

    Dyn gwylaidd a sanctaidd iawn oedd Guru Arjan. Fe ddaeth yn arweinydd ysbrydol enwog. Roedd ganddo lawer o ddilynwyr oedd yn parchu ei athrawiaeth. Ond roedd tri dyn a oedd yn neilltuol o  genfigennus o Arjan.

    Y cyntaf o’r tri oedd ei frawd hynaf, Prithi Chand.

    Darllenydd 1  Dydi hyn ddim yn deg o gwbl! Fi ddylai fod y Guru nesaf ar ôl ein tad. Fi yw’r brawd hynaf, felly fi ddylai fod. Wrth gwrs, mae fy mrawd wedi gwneud llawer o bethau rhyfeddol ers iddo ddod yn arweinydd y Sikhiaid. Mae wedi gosod sylfeini’r Deml Aur, mae wedi teithio ledled y Punjab, ac mae pawb yn ei garu. Rydw i’n hollol genfigennus o Arjan. Fi ddylai fod wedi cael gwneud hyn a bod yn Guru ar ôl fy nhad.

    Arweinydd  A wyddoch chi beth wnaeth y dyn hwn, y brawd hynaf, oherwydd ei genfigen?

    -  Fe berswadiodd Prithi Chand ddyn o’r enw Khan, a oedd yn swyddog cyllid llys ymerodraeth y Mughal, i ymosod ar dref Amritsar, lle’r oedd y Guru Arjan yn byw, ac fe orfodwyd Arjan allan o’r dref.
    -  Fe geisiodd berswadio pawb mai ef, Prithi Chand, oedd y Guru go iawn ac nid ei frawd ieuengaf.
    -  Fe gynllwyniodd Prithi Chand i ladd unig blentyn Guru Arjan, sef Hargobind. Ond bu pob cynnig i lofruddio’r plentyn yn aflwyddiannus.
    -  Fe gyfansoddodd emynau ei hun gan ddweud mai gwaith y Guru Nanak a Gurus eraill oedd yr emynau hynny.

    Yr ail ddyn a oedd yn genfigennus iawn o Arjan oedd Hindw cyfoethog a oedd yn gweithio mewn banc, dyn o’r enw Chandu Shah. Roedd Chandu Shah yn genfigennus oherwydd bod y Guru Arjan mor boblogaidd ac oherwydd bod ganddo enw mor dda. Roedd Chandu Shah yn awyddus iawn i gael bod yn rhan o hynny, felly fe drefnodd y byddai ei ferch yn priodi Hargobind, mab y Guru Arjan. Ond doedd Guru Arjan ddim yn fodlon i’w fab briodi merch Chandu Shah.

    Darllenydd 2  Dydi hyn ddim yn deg o gwbl! Pa hawl sydd gan y Guru yma i wrthod gadael i fy merch briodi ei fab? Pwy mae o’n feddwl ydi o? Ydi o ddim yn gwybod pa mor gyfoethog ydw i? Ydi o ddim yn sylweddoli pa mor bwysig ydw i? Rydw i’n ddyn busnes llwyddiannus, ac eto dim ond amdano fo y mae pawb yn siarad! Rydw i’n hollol genfigennus o Arjan. Mae hyn yn fy ngyrru’n gynddeiriog.

    Arweinydd  A wyddoch chi beth wnaeth y dyn hwn, y dyn cyfoethog, oherwydd ei genfigen?

    Dywedodd Chandu Shah wrth yr Ymerawdwr Akbar fod Guru Arjan wedi llunio llyfr a oedd yn cynnwys gwybodaeth niweidiol am Fwslimiaid a Hindwiaid. Ond doedd yr Ymerawdwr Akbar ddim yn gallu gweld dim o’i le ar lyfr sanctaidd y Guru Arjan.

    Y trydydd dyn a oedd yn genfigennus iawn o Arjan oedd y dyn a ddaeth yn ymerawdwr ar ôl yr Ymerawdwr Akbar. Dyn o’r enw Jahangir oedd yr ymerawdwr hwnnw. Doedd Jahangir ddim yn ddyn da, a doedd ganddo ddim diddordeb mewn unrhyw beth ond mwynhau ei hun ac yfed a gwledda. Roedd yr Ymerawdwr Jahangir yn genfigennus iawn wrth weld pa mor boblogaidd yr oedd y Guru Arjan.

    Darllenydd 3  Dydi hyn ddim yn deg o gwbl! Fi yw’r Ymerawdwr newydd. Fi sydd â’r holl rym ac awdurdod. Ond eto, mae pawb yn dilyn y Guru Arjan i ble bynnag mae’n mynd. Maen nhw’n gwrando ar bob gair mae’n ei ddweud. Maen nhw’n dilyn ei esiampl. Ddylai hwn ddim bod mor boblogaidd! Rydw i’n hollol genfigennus o Arjan. Rhaid i mi ddod o hyd i ffordd o’i gosbi ....

    Arweinydd  A wyddoch chi beth wnaeth y dyn hwn, yr ymerawdwr, oherwydd ei genfigen?

    Er mwyn plesio’r Mwslimiaid yn India, a oedd yn anghydweld ag ymddygiad yr Ymerawdwr Jahangir, fe drefnodd i’r Guru Arjan gael ei arestio. Mae rhai’n dweud mai’r esgus dros ei arestio oedd am fod y Guru Arjan wedi bendithio rhywun a oedd yn Fwslim. Mae rhai eraill yn dweud mai oherwydd ei fod wedi methu talu dirwy drom yr oedd wedi cael ei arestio. Ac mae rhai eraill yn dweud ei fod wedi ei arestio oherwydd ei fod yn anfodlon newid y geiriau yn y llyfr sanctaidd.

    Wel, waeth beth oedd y rheswm, fe daflwyd y Guru Arjan i garchar a chafodd ei boenydio. Gorfodwyd ef i eistedd ar ddarn mawr o haearn poethgoch. Arllwyswyd tywod poeth gwynias dros ei gorff, a chafodd ei drochi mewn dwr berwedig. Fe’i poenydiwyd fel hyn am bum diwrnod. Ond, fe ddioddefodd y cyfan yn dawel, a gwrthododd newid y geiriau yn ei lyfr sanctaidd.

    Ar 30 Mai 1606, gofynnodd y Guru Arjan am ganiatâd i ymdrochi yn yr afon Ravi a oedd yn ymyl caer ymerodraeth y Mughal. Erbyn hyn, roedd ei gorff wedi’i orchuddio â phothelli o ganlyniad i’r artaith, ac roedd bron iawn yn methu sefyll ar ei draed. Ond, fe ymdrechodd i gerdded tuag at yr afon, gan weddïo bob cam o’r ffordd, ac fe gyrhaeddodd lan yr afon. Yno, fe ffarweliodd â’i ddilynwyr a oedd yno’n gweld hyn yn digwydd. Fe gerddodd yn dawel a heddychol i mewn i’r dwr ac fe ddiflannodd. Cariwyd ei gorff i ffwrdd gyda lli’r afon a welodd neb olwg ohono byth wedyn.

  2. Mae Sikhiaid yn dathlu diwrnod marwolaeth y Guru Arjan bob blwyddyn ar Fehefin 16, a bydd Sikhiaid ledled y byd yn cofio amdano.

    Fe fyddai’n dda i bob un ohonom ninnau gofio’r stori hon, a chofio bob dydd o’n bywyd peth mor ddrwg yw bod yn genfigennus, ac ystyried yr hyn sy’n gallu deillio o genfigen.

  3. Mae cenfigen yn gallu gwneud i ni ddweud pethau cas a maleisus.
    Mae cenfigen yn gallu peri i ni geisio cael rhywun arall i drwbl.
    Mae cenfigen yn gallu gwneud i ni ddweud celwyddau, dwyn a thwyllo.
    Mae cenfigen yn gallu peri i ni fod eisiau taro a brifo rhywun arall.
    Mae cenfigen yn gallu gwneud i ni ddifetha gwaith rhywun arall.
     
    Mae cenfigen yn gallu bod yn beth peryglus os yw’n mynd y tu hwnt i’n rheolaeth.
    Pan fyddwn ni’n teimlo’n genfigennus, mae angen i ni fod yn ymwybodol o hynny, a delio â’r peth cyn gynted ag rydyn ni’n cael y teimlad yn ein calonnau, a threchu’r genfigen.

Amser i feddwl

Gadewch i ni nawr dreulio munud neu ddau yn meddwl am yr hyn rydyn ni wedi ei glywed heddiw.

(Goleuwch gannwyll)

Gadewch i ni feddwl am adegau pan fuom ni’n genfigennus.

Gadewch i ni feddwl am y bobl yr ydyn ni, efallai, yn dal i fod yn genfigennus ohonyn nhw.

Gadewch i ni geisio goresgyn y teimlad hwnnw:

-  trwy fyfyrio ar yr hyn sydd gennym ni
-  trwy fyfyrio ar yr hyn rydyn ni’n dda am ei wneud 
-  trwy  feddwl am faint mae ein teuluoedd a’n ffrindiau’n ein caru ni, a hynny am yr hyn rydyn ni yn hytrach nag am yr hyn sydd gennym ni.

Dyddiad cyhoeddi: Mehefin 2012    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon